Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 21/2021/0903/ PF - TIR GER THE PADDOCK, LLANFERRES, YR WYDDGRUG, CH7 5SH
Ystyried cais i
newid defnydd tir drwy leoli 4 uned llety gwyliau (dosbarth defnydd C6), gosod
gwaith trin pecynnau, creu mannau parcio, trac mewnol, pont droed i gerddwyr a
gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir drwy osod
4 llety gwyliau, gosod gwaith trin bychan, creu mannau parcio, trac mewnol,
pont droed i gerddwyr a gwaith cysylltiedig ar dir wrth ymyl Paddock,
Llanferres yn yr Wyddgrug.
Siaradwr Cyhoeddus –
Paul Dyson (YN ERBYN) – Dywedodd Mr Dyson
wrth y Pwyllgor fod y cais wedi bod yn yr arfaeth ers dwy flynedd a hanner,
gyda manylion y goleuadau tu allan ond ar gael ers 12 Ionawr 2024. Nid yw’r
diwygiad diweddar wedi rhoi digon o amser i drigolion wrthwynebu neu wneud sylwadau.
Felly gofynnodd Mr Dyson i’r Pwyllgor ohirio trafod y cais er mwyn rhoi
amser i drigolion a phartïon eraill ymateb.
Mae yna ddau safle llety gwyliau ar y lôn gul
yn barod, Bryn Bowlio a Camp Alun. Nid oes galw am lety gwyliau ychwanegol yn
yr ardal ac mae’r safleoedd sy’n bodoli eisoes yn wag am sawl mis. Byddai’r
cais yn annog mwy o dwristiaeth i’r ardal, sydd eisoes wedi cyrraedd ei
chapasiti. Nid yw lleoliad y safle yn addas gan nad oes siopau, tafarndai,
llwybrau cerdded na goleuadau stryd ar y ffordd.
Dylid cofio am fenter Awyr Dywyll yr Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol wrth ystyried cynllun goleuo arfaethedig y cais.
Byddai sŵn ymwelwyr yn effeithio ar heddwch tirwedd yr AHNE. Mae’r
cynlluniau sgrinio sŵn yn y cais yn mynd i gymryd blynyddoedd i’w sefydlu,
ac ni fyddent yn atal sŵn. Mae’n bosibl y bydd y cais yn arwain at
sŵn 24 awr y dydd, gyda phobl yn defnyddio twbâu poeth gyda’r nos ochr yn
ochr ag yfed alcohol – a all arwain at wrthdaro rhwng ymwelwyr a thrigolion.
Mae Polisi PSE12 y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) yn nodi na fydd unrhyw wersyll newydd yn agor yn Sir Ddinbych oni bai
bod modd dangos y galw.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio trafod y
cais.
Siaradwr Cyhoeddus –
Gethin Jones (Asiant) (O BLAID) – Mae’r cais yn ymwneud â
gosod pedair uned llety gwyliau ar dir wrth ymyl cartref yr ymgeisydd. Y
weledigaeth yw creu profiad gwyliau unigryw i ymwelwyr Bryniau Clwyd a’r AHNE.
Fel teulu ifanc nod yr ymgeiswyr yw tyfu ac arallgyfeirio i greu rhywbeth arbennig
yn y gymuned.
Drwy gydol y broses gynllunio mae’r unedau wedi’u gosod
yn strategol i fanteisio ar sgrinio ac i leihau’r effaith weledol ar yr ardal.
Mae’r ymgeiswyr wedi canolbwyntio ar gadw a gwella’r ecoleg bresennol a
chydnabod arwyddocâd diogelu bioamrywiaeth. Nid yw Ecolegydd y Sir na’r Swyddog
Llwybrau Troed wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Yn ystod y broses
gynllunio mae’r ymgeisydd wedi buddsoddi llawer o arian yn gweithio gyda’r
Water Co Ltd, sy’n beirianwyr dŵr a draenio profiadol ac wedi ateb
ymholiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r cais. Mae Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi cadarnhau eu parodrwydd i roi trwydded i fwrw ymlaen â’r gwaith trin
bychan ar y safle unwaith y mae’r datblygiad wedi dechrau. Mae’r ymgeisydd yn
rhagweld cynnydd yn refeniw busnesau lleol fel siopau, tafarndai a llefydd
bwyta lleol. Byddai’r cais hefyd yn cyfrannu at yr economi ehangach gan greu
cyfleoedd cyflogaeth.
Trafodaeth Gyffredinol –
Gofynnodd y Cynghorydd James Elson am
eglurhad ynghylch y gwrthdaro rhwng polisïau PSE5 a PSE12 y CDLl.
Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Polisi
PSE5 yn ymwneud â datblygiad sy’n rhoi budd i’r economi wledig a bod PSE12 yn
ymwneud â safleoedd gwersylla a charafanau statig a theithiol. Mae’r cais
gerbron y Pwyllgor yn ymwneud â chabanau. Mae’r swyddogion wedi pwyso a mesur
pethau’n gytbwys wrth benderfynu pa bolisi sy’n cefnogi’r cais. Mae’r
swyddogion wedi dod i’r casgliad y gellir lleihau effaith weledol y cais ar y
tirlun drwy amod tirlunio. O ran goleuadau arfaethedig y safle, mae amod wedi’i
gynnwys yn y cais sy’n gofyn am gytundeb pellach cyn gosod unrhyw oleuadau. Mae
ymateb gan y Swyddog Hawliau Tramwy wedi dod i law, ac yn cadarnhau eu bod yn
cytuno â’r cais ar yr amod nad oes unrhyw niwed i amwynder yr ardal. Ar ôl
pwyso a mesur mae’r adroddiad ar y cais yn dangos bod y swyddogion yn cefnogi
polisi PSE5.
Diolchodd y Cynghorydd Delyth Jones i’r
swyddogion am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr a’r sylwadau hwyr. Gan gyfeirio at
y gwrthwynebiadau i’r cais, holodd y Cynghorydd Jones a oedd y broses
ymgynghori gywir wedi’i dilyn.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y
wybodaeth fwyaf diweddar yn ymwneud â goleuadau a chynllun draenio yn ymateb
uniongyrchol i sylwadau ymgyngoreion statudol. Ym marn y swyddogion mae’r partïon
perthnasol wedi cael cyfle i ymgynghori ynghylch y gwrthwynebiadau sydd wedi’u
cyflwyno. Mae trigolion wedi cael cyfle i wneud sylwadau ac wedi’u hysbysu yn
unol â’r ddeddfwriaeth ac felly, mae’r swyddogion yn fodlon eu bod wedi dilyn y
broses gywir.
Holodd y Cynghorydd Jones am yr amodau sydd
yn eu lle i’r ymgeisydd ddangos y galw am y datblygiad yn yr AHNE.
Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, gan
gyfeirio’n ôl at bolisïau PSE5 a PSE12, nad oes amod lle mae’n rhaid i
ymgeiswyr ddangos y galw am y cais yn yr ardal ond mae ar yr ymgeisydd angen
dangos y budd i’r economi wledig.
Mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei syndod
bod yr AHNE yn cytuno â’r cais o ystyried eu statws Awyr Dywyll. Cyfeiriodd y
Prif Swyddog Cynllunio at amod 10 yn yr adroddiad sy’n sicrhau bod unrhyw olau
yn cael ei bylu i osgoi effeithiau negyddol ar ystlumod a bod hynny yn cael ei
gydnabod yn statws Awyr Dywyll yr AHNE.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Evans bryderon
ynghylch cadw cofnod o ymwelwyr i safleoedd gwyliau o’r fath a gofynnodd am
wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n gorfodi hyn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli
Datblygiadau fod Llywodraeth Cymru, fel rhan o’u polisïau cynllunio
cenedlaethol, yn annog twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. Cyfrifoldeb ymgeiswyr
a gweithredwyr safleoedd gwyliau yw sicrhau bod ymwelwyr yn defnyddio’r
safleoedd at ddibenion gwyliau yn unig, felly mae’n rhaid iddyn nhw wirio bod
ymwelwyr yn talu treth y cyngor ar eiddo arall. Dyma’r drefn safonol ar draws y
sir gyfan. Mae hyn yn fater gorfodaeth cynllunio a chyfeiriwyd at amod 3 y cais
a fydd gobeithio yn sicrhau aelodau bod hyn yn cael ei reoli.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
fod llawer o ddiwydrwydd dyladwy wedi’i roi i’r cais ac roedd yn teimlo’n
hyderus fod y swyddogion wedi ystyried yr hyn y mae’r cais yn ei gynnig a’r
lleoliad. Mae Arolwg Busnes Sir Ddinbych wedi amlygu galw am lety i dwristiaid
yn yr ardal, sy’n denu dros 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Cynnig –
CYNIGIODD y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo. EILIODD y
Cynghorydd Alan James.
Mynegodd y Cynghorydd Williams (aelod
lleol) ei gefnogaeth i’r cais gan ddweud bod y cabanau gwyliau a gynigir yn
y cais yn boblogaidd iawn yn yr ardal a bod galw amdanynt. Byddai’r cais hwn yn
dod ag arian i’r economi leol.
Pleidlais –
O blaid – 19
Yn erbyn – 0
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Dogfennau ategol: