Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE MILLBANK, GRANGE ROAD, Y RHYL, SIR DDINBYCH LL18 4RD

Ystyried cais gan Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 yn Neddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas â The Millbank, Grange Road, y Rhyl (amlinelliad o’r cyflwyniad a’r papurau cysylltiedig wedi’u hatodi).

 

Sylwer ar y weithdrefn mae’r Is-bwyllgor i’w dilyn (sydd wedi’i hatodi i’r rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Drwydded Eiddo yn cael ei hatal am gyfnod o ddeng wythnos a bod amodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y drwydded er mwyn mynd i’r afael â phryderon a hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) -

 

(i)         ar ôl derbyn cais gan Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo mewn perthynas â’r Millbank, Grange Road, y Rhyl a ddelir gan Mr. Parmvir Singh Bisla;

 

(ii)       Y sail dros adolygu, fel y nodwyd yn y cais, yw -

 

“Mae’r eiddo wedi methu â hyrwyddo Amcanion Trwyddedu: atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a diogelu plant rhag niwed.

 

Ar 1 Medi 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin - A140763

 

Ar 29 Hydref 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o anhrefn cyhoeddus yn yr eiddo - A173302

 

Ar 5 Tachwedd 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin yn yr eiddo - A176556”

 

roedd manylion llawn y Cais i Adolygu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad ond i grynhoi roedd yn ymwneud â 3 achos o anrhefn ar wahân - 

 

·       1 Medi 2023 - adroddiad o ymosodiad cyffredin yn cynnwys aelod o staff a afaelodd yng ngwddw cwsmer a’u bygwth (Atodiad B yn y Cais i Adolygu)

 

·       29 Hydref 2023 - adroddiad o ddigwyddiad yn erbyn y drefn gyhoeddus a oedd yn cynnwys aelodau o staff a chwsmeriaid.  Canfu Swyddogion Heddlu a aeth i’r digwyddiad nifer o bobl feddw a dau ddyn ar y llawr tu allan (roedd un yn anymwybodol ac yn gwaedu o anaf i’w ben).   Ar ôl adolygu fideos TCC roedd yr Heddlu o’r farn y bu anrhefn gan staff a chwsmeriaid a bod y naill barti a’r llall wedi defnyddio grym gormodol heb unrhyw amddiffyniad dros ddefnyddio grym o’r fath.  Roedd yr Heddlu hefyd o’r farn bod y Rheolwr a’u teulu wedi ymddwyn yn hynod fygythiol tuag at gwsmeriaid gyda phryderon pellach bod un cwsmer, 17 oed, wedi’i ymosod arno sawl gwaith; gydag un person arall wedi torri eu braich mewn dau le.   Roedd yr Heddlu’n credu fod yr anhrefn wedi’i achosi gan anghydfod yn ymwneud â diodydd yn y bar rhwng staff a chwsmeriaid, ac wedi mynd i’r pwynt lle’r oedd tri chwsmer a staff/aelodau o’r teulu yn cwffio, heb reolaeth dros y sefyllfa gan y tîm rheoli (Atodiad C - E yn y Cais i Adolygu a thystiolaeth TCC o’r digwyddiad)

 

·       5 Tachwedd 2023 - adroddiad o gwffio tu mewn i’r eiddo rhwng staff a chwsmeriaid, a bod un person wedi cael ei dagu a’i bwnio gan aelod o staff.  Wrth ymchwilio ymhellach, canfuwyd fod Deiliad y Drwydded Eiddo wedi anfon pedwar cwsmer tu allan, ac wedi ymosod arnynt y tu allan, gan arwain at un cwsmer yn troi ei arddwrn ac un arall yn torri ei fys (Atodiad F - G yn y Cais i Adolygu);

 

(iii)      o ystyried difrifoldeb dau o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r eiddo, mynegodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd yr eiddo’n cael ei reoli’n briodol a bod Deiliad y Drwydded Eiddo a’r staff presennol wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau a’r lefel o anrhefn a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau.  O ganlyniad, roedd yr Heddlu yn gofyn am roi ystyriaeth i ddiddymu’r Drwydded Eiddo oherwydd methiant i gydymffurfio â Deddf Trwyddedu 2003, yn benodol y methiant i hyrwyddo amcanion trwyddedu o ran Trosedd ac Anrhefn a Diogelu Plant rhag Niwed;

 

(iv)      nid oes unrhyw sylwadau pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus i Adolygu’r Cais;

 

(v)       yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau a dderbyniwyd, ac

 

(vi)      yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)

 

Roedd Mr. Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu’r Heddlu ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

 

Cadarnhaodd Mr. Haggas bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno’r Cais i Adolygu gydag awgrym ar gyfer diddymiad posibl.   Roedd tri digwyddiad yn rhan o’r cais.   Roedd pryderon yr Heddlu yn canolbwyntio ar y digwyddiad ar 29 Hydref 2023 lle bo cwsmeriaid wedi bod yn wrthdrawiadol tuag at reolwyr a staff yr eiddo.   Credir bod y ddadl wedi deillio o ddiod a weiniwyd ac fe ganiatawyd i’r sefyllfa waethygu.   Y weithdrefn safonol o safbwynt gwasanaeth i gwsmeriaid fyddai camu’n ôl, asesu’r sefyllfa ac ystyried canlyniad boddhaol ar gyfer yr holl bartïon.   O ystyried bod gan y trwyddedai a’i staff gyfrifoldeb, y disgwyliad oedd y byddent yn defnyddio eu gwybodaeth a’u hyfforddiant i ymddwyn yn briodol.   Ni chymerodd rheolwyr yr eiddo y camau priodol wrth ymateb a bu iddynt ddewis cymryd rhan yn y gwrthdaro gyda chwsmeriaid, gan symud i’w gofod personol ac roedd brwydr wedi deillio gan arwain at ymosodiad ar blentyn 17 oed; menyw yn torri ei braich a gwryw yn anymwybodol.   Roedd y digwyddiad hefyd yn ymwneud ag ymosodiad ar grefydd Sikhiaeth y teulu, ac roedd aelod o staff wedi goddef ymosodiad personol difrifol.   Ni ellir cyfiawnhau unrhyw un o’r gweithredoedd hynny ac roedd yn ddigwyddiad difrifol iawn.   Ar ôl adolygu’r digwyddiad, cynigiwyd diddymu’r drwydded.

 

Ym mis Rhagfyr 2023 roedd deiliad y drwydded wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Heddlu ac fe drafodwyd y digwyddiad a’r pryderon / heriau.   Ar y pryd ni chyflwynwyd unrhyw fesurau lliniaru dilys, na mesurau i fynd i’r afael â’r pryderon ac ni chafwyd cyfaddawd na chytundeb.   Ond, cyn y gwrandawiad rhoddwyd ystyriaeth i ddewisiadau amgen yr oedd Mr. Haggas wedi’u cyflwyno fel a ganlyn -

 

·       atal gweithgareddau trwyddedadwy am gyfnod o 8 - 10 wythnos er mwyn i’r eiddo ymgymryd â hyfforddiant rheoli datrys gwrthdaro dilys.

·       cyflwyno llyfr cofnodi digwyddiadau a gwrthodiadau i nodi unrhyw ddigwyddiadau gan gynnwys adrodd am unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â chasineb yn erbyn y teulu i’r Heddlu

·       cyflwyno system TCC manylach a gwell ar gyfer yr ardaloedd tu allan

·       ymagwedd gadarn a diwyd o ran rheoli cwsmeriaid a defnyddio’r Heddlu pan fo’r angen

·       Gweithredu Her 25

·       terfynu gweithgareddau trwyddedadwy am hanner nos.

 

Nododd Mr. Haggas nad yw’n dderbyniol i unrhyw un fynd i’w gwaith i oddef trosedd sy’n ymwneud â chasineb nac unrhyw drosedd arall a bod yn oddefwyr ymddygiad mor atgas a gwarthus gan gwsmeriaid.   Ond, roedd angen i ddeiliaid trwydded gymryd camau cyfrifol ac mae ganddynt ddyletswydd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu.   Roedd y digwyddiad ar 29 Hydref 2023 yn dangos methiant gan reolwyr yr eiddo o ran hynny.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i Mr. Haggas, a bu iddo ymateb fel a ganlyn-

 

·       ymhelaethu ar y rhesymau dros y gwrthdaro a oedd yn ymddangos i ddeillio o wasanaeth cwsmer a gwydr budr, ac ymateb amhriodol rheolwyr yr eiddo a sylwadau hiliol gan y cwsmer

·       Ni alwyd yr Heddlu i’r eiddo ar adegau heblaw y rhai a nodwyd ac ni fu’n eiddo problemus ar gyfer yr Heddlu, ac roedd yr Heddlu’n canolbwyntio’n benodol ar y digwyddiad unigol ar 29 Hydref 2023.

·       er bod yr eiddo wedi ymgysylltu’n dda â’r Cynllun Gwarchod Tafarndai i ddechrau, nid oedd wedi ymgysylltu cystal â’r hyn a ddisgwylir gan yr Heddlu yn ddiweddar.   Ond, ni ellir pennu bod Cynllun Gwarchod Tafarndai y Rhyl yn ddibynadwy

·       er bod yr Heddlu’n canolbwyntio ar y prif ddigwyddiad ar 29 Hydref 2023 a oedd yn nodi bod problem yn yr eiddo, mae’r ddau achlysur arall cyn ac ar ôl y digwyddiad hwnnw’n awgrymu bod yr eiddo’n cael trafferthion o ran delio â chwsmeriaid

·       roedd yr aelodau wedi gwylio’r fideos TCC ac yn fodlon bod hynny’n ddigonol at ddibenion y gwrandawiad ac na fyddai unrhyw fudd o’u hail-wylio

·       eglurwyd disgwyliadau’r Heddlu yn yr amgylchiadau mewn perthynas â’r digwyddiad, lle y derbyniwyd y gallai cwsmeriaid fod yn heriol, ac y byddai’n rhesymol gwrthod eu gweini, camu’n ôl a gofyn i’r cwsmer adael ond os oeddent yn parhau ac yn aros yn yr eiddo y dylid cysylltu â’r Heddlu. 

·       cyn y digwyddiad roedd yr eiddo wedi ymgysylltu’n dda gyda’r Heddlu heb unrhyw broblemau o ran hynny, yn deulu neis a distaw, yn fodlon darparu fideos TCC bob amser ac yn agored iawn; roedd y pryder yn canolbwyntio ar ddifrifoldeb un achlysur ar 29 Hydref 2023 gyda staff a chwsmeriaid yn goddef niwed

·       er bod yr eiddo ar agor ar ôl hanner nos, o ystyried natur y busnes, gyda hanner eu masnach yn fwyd, a’i leoliad y tu allan i ganol y dref, fel arfer ni fyddai disgwyl iddynt gael goruchwylwyr drysau.

 

SYLWADAU DEILIAD TRWYDDED YR EIDDO

 

Roedd Mr. Parmvir Bisla, Deiliad y Drwydded Eiddo yn bresennol ac yn cael ei gynrychioli gan Mr. Surendra Panchal o Personal Licence Courses UK Ltd.

 

Eglurodd Mr. Panchal ei fod wedi bod mewn trafodaethau gyda Mr. Haggas cyn y gwrandawiad ac wedi dod i’r casgliad y byddai y digwyddiadau ar 1 Medi 2023 a 5 Tachwedd 2023 yn cael eu diystyru gan nad oeddent wedi’u harchwilio gan yr Heddlu ac nad oedd wedi digwydd.  [Cadarnhaodd Mr. Haggas bod y ddau ddigwyddiad wedi’u hadrodd i’r Heddlu ond heb eu hymchwilio ganddynt.] Ar y sail hynny, nid oedd angen y tystion a oedd yn bresennol mewn perthynas â’r ddau ddigwyddiad hynny mwyach a chanolbwynt y gwrandawiad oedd yr achlysur unigol ar 29 Hydref 2023.  Diolchodd Mr. Panchal i Mr. Haggas am y sgyrsiau ystyrlon a gynhaliwyd a chadarnhau bod rheolwyr yr eiddo’n cydweithredu gyda’r Heddlu.

 

Ar y pwynt hwn, galwodd Mr. Panchal ar Miss. Kirsty Garrett fel tyst mewn perthynas â’r digwyddiad ar 29 Hydref 2023.   Roedd Miss. Garrett wedi bod yn bresennol cyn y digwyddiad ac yn dymuno cyflwyno ei hargraffiadau o’r cwpl dan sylw yn y digwyddiad a ddilynodd.

 

Eglurodd Miss. Garrett ei bod yn bwyta yn yr eiddo’n aml, fel arfer gyda’i phlant ond ar 29 Hydref roedd ar ei phen ei hun ac wedi archebu ei phryd bwyd.   Roedd wedi sylwi bod y cwpl yn ffraeo’n dawel ac yn dechrau ymddwyn yn ymosodol tuag at ei gilydd.   Roedd wedi sôn am y tywydd gyda’r fenyw ac yna fe ddaeth hi i ymuno â’i bwrdd a dechrau sgwrs gyda hi.   Yna dechreuodd y gwryw wneud sylwadau di-chwaeth a oedd yn gwneud iddi deimlo’n bryderus, roedd yn ddigywilydd ac ymosodol ac yn gwneud sylwadau hiliol am y staff.   Gan ei bod wedi gorffen ei phryd bwyd fe benderfynodd adael oherwydd ei bod yn teimlo bod rhywbeth ar ddigwydd rhwng y cwpl a oedd yn hynod ddadleuol tuag at ei gilydd.   Ychydig ar ôl iddi adael fe ddechreuodd y digwyddiad.   Ymatebodd Miss Garrett i gwestiynau gan Mr. Panchal gan egluro ei bod yn gwsmer i’r eiddo ers cyn i deulu Bisla dderbyn rheolaeth am yr eiddo ac roedd o’r farn eu bod yn deulu hyfryd ac nad oedd unrhyw drwbl yno fel arfer.   Roedd yn dafarn deuluol ac roedd yn aml yn mynd â’i phlant yno am fwyd ac yn ei barn hi roedd yr eiddo’n cael ei reoli’n dda.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, eglurodd Miss. Garrett-

 

·       ei bod wedi clywed am y digwyddiad y diwrnod canlynol gan ei bod yn gwsmer rheolaidd ac wedi sylwi bod ffenestr wedi torri

·       eglurodd ei bod wedi cynnig bod yn dyst gan mai dyma ei thafarn leol, roedd pawb yn adnabod ei gilydd, a byddai’n andwyol i’r ardal pe byddai’r dafarn yn cau

·       cadarnhaodd ei disgrifiad o’r atmosffer cyn y digwyddiad ac nad oedd wedi bod yn dyst i’r digwyddiad 

·       eglurodd nad oedd wedi clywed sylwadau hiliol i’r teulu’n uniongyrchol ond bod y gwryw wedi defnyddio iaith hiliol mewn sgwrs agored

·       cadarnhaodd fel cwsmer rheolaidd ei bod wedi gweld y cwpl yn yr eiddo’n flaenorol a’u bod yn swnllyd yn gyffredinol

·       eglurodd ei bod wedi gadael yr eiddo’n gynt na’r arfer y diwrnod hwnnw yn sgil y sefyllfa gyda’r cwpl a wnaeth iddi deimlo’n bryderus ac anghyfforddus.

 

I grynhoi, pwysleisiodd Mr. Panchal ei bod yn erbyn crefydd Sikhiaeth i gyffwrdd neu wthio twrban ac roedd yn ymosodiad hiliol a dyma un o’r rhesymau pam y bu i’r sefyllfa waethygu fel y gwnaeth.   Yn dilyn trafodaethau gyda Mr. Haggas roedd dealltwriaeth o’r sefyllfa a daethpwyd i’r casgliad nad diddymu’r drwydded eiddo oedd y ffordd ymlaen.

 

Cyflwynodd Mr. Panchal ei safbwyntiau o ran y ffordd ymlaen, i’w hystyried gan yr aelodau-

 

·       bod y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig yn cyflawni cwrs Lefel 3

·       y rhoddir ystyriaeth am gyfnod atal llai na’r hyn a awgrymwyd gan yr Heddlu gan fod y dafarn yn un lleol a byddai cau’r dafarn yn effeithio ar y gymuned leol

·       bod y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig yn cyflawni cwrs rheoli gwrthdaro gyda hyfforddiant ar sut i ymdrin â materion o’r fath

·       gwella TCC y tu allan i’r eiddo

 

Ceisiodd y Cadeirydd eglurhad pellach gan Mr. Haggas ar safbwynt yr Heddlu.

 

Eglurodd Mr. Haggas bod y tri digwyddiad wedi’u hadrodd i’r Heddlu, ond y canolbwyntiwyd ar y digwyddiad ar 29 Hydref 2023; efallai bod y digwyddiadau cyn ac ar ôl y dyddiad hwnnw wedi digwydd ond mae’n bosibl eu bod yn faleisus hefyd.   At ddibenion y gwrandawiad, roedd yn fodlon canolbwyntio ar y digwyddiad ar 29 Hydref 2023.   O ran ffordd ymlaen, roedd yn falch bod Mr. Bisla wedi sicrhau cynrychiolydd a allai gynnig hyfforddiant ac arweiniad i sicrhau bod hyder a gallu i fod yn ddiwyd o ran rheoli cwsmeriaid gan olygu bod y dewisiadau amgen yn ddichonadwy.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i Mr. Panchal, a ymatebodd fel a ganlyn -

 

·       Mr. Bisla oedd deiliad y drwydded a’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.

·       eglurodd y gallai person fod yn Ddeilydd Trwydded Eiddo a Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig cyn belled ag y bo ganddynt Drwydded Bersonol ac ymhelaethodd ar y darpariaethau yn y Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran y cyfrifoldebau hynny

·       cadarnhaodd bod Mr. Bisla yn yr eiddo ar adeg y digwyddiad

·       ymhelaethodd ar y mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno ers iddo ymwneud â’r achos er mwyn darparu gwelliannau helaeth a rhoi hyder gan gynnwys darparu hyfforddiant a chofnodion, gwiriadau mewnfudo a’r hawl i weithio yn y DU, mwy o bosteri yn gofyn i gwsmeriaid fod yn ystyriol o’r cymdogion, system TCC gwell ac sy’n darparu mwy o olygfeydd, symud o Her 21 i Her 25, defnyddio llyfr cofnodi digwyddiadau, llyfr gwrthodiadau gwell, hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid

·       roedd yr eiddo wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers tair blynedd heb unrhyw broblem 

·       darparodd drosolwg o waith Personal Licence Courses UK Ltd ac eglurodd bod Mr. Bisla wedi cysylltu â’r cwmni’n wreiddiol i gael ei Drwydded Bersonol ac yna wedi cysylltu eto 2/3 wythnos yn ôl yn gofyn iddynt ei gynrychioli yn y gwrandawiad i adolygu ei drwydded.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)

 

Eglurodd Mr. Haggas y treuliwyd peth amser cyn y gwrandawiad yn trafod pryderon ac nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu o ran datganiad terfynol.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (10.50am), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD bod y Drwydded Eiddo’n cael ei hatal am gyfnod o 10 wythnos a bod yr amodau canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded-

 

1.    Teledu Cylch Caeëdig (TCC)

 

a)    Bydd system TCC yn cael ei gosod yn yr eiddo a bydd yn weithredol bob amser pan fydd yr eiddo ar agor.

b)    Bydd gan y system TCC gamerâu yn monitro pob mynedfa i’r eiddo a’r holl ardaloedd allanol y mae mynediad iddynt gan y cyhoedd

c)    Dylai’r system TCC allanol allu darparu darluniau clir yn y nos.

d)    Bydd y system TCC o safon sy’n gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ac yn gallu adnabod wynebau ym mhob cyflwr golau.

e)    Bydd gan y system TCC gyfleuster i recordio lluniau ar bob camera a bydd y lluniau hyn yn cael eu cadw am o leiaf 30 diwrnod.

f)      Bydd y system TCC yn cynnwys cyfleuster i ddangos y dyddiad a’r amser cywir ar y lluniau a recordir bob amser.

g)    Bydd y system TCC yn cynnwys cyfleuster lle gellir lawrlwytho’r lluniau ar ryw fath o gyfrwng symudadwy.

h)    Bydd lluniau o’r system TCC yn cael eu darparu i swyddogion yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar gais.

i)      Bydd gwiriadau wythnosol o weithrediad y system TCC yn cael eu cyflawni ar ddechrau pob diwrnod busnes – bydd unrhyw ddiffygion yn y system yn cael sylw ar unwaith.  Cyflwyno cofnodion o’r gwiriadau hyn a’r camau a gymerir i ddatrys unrhyw ddiffygion i’r Heddlu a swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais

 

2.    Cyn derbyn caniatâd i werthu alcohol bydd gofyn i Mr. Parmvir Singh Bisla neu’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig presennol gwblhau Gwobr BIIAB Lefel 3 ar gyfer Goruchwylwyr Eiddo Dynodedig.

 

3.    Cyn cael caniatâd i ddechrau gwerthu alcohol, mae’n rhaid i bob aelod o staff sydd heb drwydded bersonol, gan gynnwys aelodau o staff di-dâl, aelodau o’r teulu ac unigolion sy’n gweithio’n achlysurol a allai fod yn gysylltiedig â gwerthu alcohol yn yr eiddo, gael eu hyfforddi ar eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i’r Ddeddf honno - yn arbennig, byddant yn derbyn hyfforddiant ar werthu alcohol i unigolion sy’n feddw, rheoli gwrthdaro, rheoli cwsmeriaid a Her 25.

 

4.    Cynhelir hyfforddiant atgoffa mewn perthynas â’r hyfforddiant cychwynnol y sonnir amdano yn rhif 3) uchod ar gyfer pob aelod o staff sy'n ymwneud â gwerthu alcohol bob chwe mis.

 

5.    Bydd cofnodion o’r hyfforddiant cychwynnol a dderbynnir a’r hyfforddiant atgoffa dilynol yn cael eu cadw a byddant yn cael eu rhoi i swyddogion yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar gais.

 

6.    Gweithredu polisi Her 25 ar y safle.

 

7.    Llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau - rhaid cadw’r llyfr hwn (gyda rhifau ar y tudalennau) yn yr eiddo a rhaid iddo fod ar gael i’w archwilio gan awdurdodau cyfrifol.  Mae’n rhaid i’r llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau gael ei ddefnyddio i gofnodi’r canlynol –

 

  • Unrhyw achos o drais neu anrhefn yn yr eiddo neu y tu allan i’r eiddo
  • Unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys cyffuriau (cyflenwi / meddiant / dan ddylanwad) yn yr eiddo
  • Unrhyw drosedd neu weithgaredd troseddol arall yn yr eiddo
  • Unrhyw achos o wrthod gwerthu alcohol i unigolion sy’n feddw
  • Unrhyw achos o wrthod gwerthu alcohol i rywun dan 18 oed neu unrhyw un sy’n ymddangos dan 18 oed
  • Unrhyw alwad am gymorth yr heddlu i’r eiddo
  • Unrhyw achos o droi rhywun allan o’r eiddo
  • Unrhyw achos o roi cymorth cyntaf / gofal arall i gwsmer

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y Cynghorydd Cyfreithiol yr amodau a fydd yn cael eu hychwanegu at y drwydded a nodi’r rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -

 

Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus ynghyd â’r cyflwyniadau llafar yn ystod y gwrandawiad ac ymateb i gwestiynau.   Roedd yr Is-Bwyllgor wedi clywed gan y naill ochr na ddylid ystyried y digwyddiadau ar 1 Medi 2023 a 5 Tachwedd 2023 y cyfeiriwyd atynt yn y Cais i Adolygu gan eu bod wedi’u hadrodd i’r Heddlu ond heb eu hymchwilio.   Roedd hyn yn golygu bod yr Is-bwyllgor wedi cytuno i ystyried y digwyddiad ar 29 Hydref 2023 yn unig.   Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd wedi rhoi ystyriaeth i’r gyfraith a’r canllawiau perthnasol fel rhan o’u hystyriaethau.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi clywed gan yr Heddlu o ystyried y camau a gymerwyd gan Ddeiliad y Drwydded Eiddo o ran penodi cynrychiolydd i ddarparu hyfforddiant ac arweiniad, roedd dewis amgen yn hytrach na diddymu’r drwydded yn ddewis posibl ar gyfer yr Is-bwyllgor.   Roedd Deiliad y Drwydded Eiddo, a oedd hefyd yn Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig, wedi cytuno i 1) cyflawni hyfforddiant ychwanegol gan gynnwys Gwobr BIIAB Lefel 3 ar gyfer Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig, hyfforddiant rheoli gwrthdaro, 2) gweithredu llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau gwell, a 3) darparu system TCC gwell gan gynnwys yr ardaloedd allanol.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth ddifrifol i gais yr Heddlu a nodi bod y digwyddiad ar 29 Hydref 2023 yn gwbl annerbyniol o ystyried y grym a ddefnyddiwyd a’r methiant sylweddol a fu yn ymagwedd rheolwyr yr eiddo a arweiniodd at ddigwyddiad o drais difrifol a oedd yn cynnwys plentyn.   Roedd hyn yn torri amcanion trwyddedu Atal Trosedd ac Anrhefn a Diogelu Plant Rhag Niwed.   Ond, nododd yr Is-bwyllgor hefyd y cyfeiriad a wnaed gan yr holl bartïon at y ffaith bod Deiliad y Drwydded Eiddo a’i deulu wedi bod yn destun cam-driniaeth yn seiliedig ar hiliaeth yn ystod y digwyddiad a arweiniodd at waethygu’r sefyllfa.   Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod ychwanegu’r amodau a nodwyd uchod yn ymateb teg a phriodol er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a darparu ymagwedd gadarn a diwyd o ran rheoli cwsmeriaid a mynd i’r afael â methiannau o safbwynt rheolaeth yr eiddo.   Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ei bod yn briodol atal y drwydded am gyfnod o 10 wythnos ac i ychwanegu’r amodau uchod at y drwydded.

 

Roedd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm.

 

Dogfennau ategol: