Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2024/25

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 (Atodiad 1 yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £109.34, i’w weithredu o ddydd Llun, 1 Ebrill 2024;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr argymhelliad hwn, a

 

(d)      bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sefyllfa derfynol ddiweddaraf a ragwelwyd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/25 a oedd wedi’i chyfrifo i alluogi darparu gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.  O ran y cynnydd rhent blynyddol, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm cynnydd rhent o 6.7% a chynigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o hynny oherwydd y pwysau ar y Cyfrif Refeniw Tai i fuddsoddi mewn cartrefi er mwyn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a cheisio cyrraedd targed y Cynllun Corfforaethol ar gyfer cartrefi newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod 72% o denantiaid y Cyngor wedi cael cefnogaeth gyda’u taliadau rhent; byddai’r Cyngor yn cefnogi’r 28% arall o denantiaid pe baent mewn anhawster ariannol; cytunodd 85% o ymatebion i’r arolwg tenantiaid fod eu rhenti’n cynnig gwerth am arian ac ni wnaeth y Cyngor na Llywodraeth Cymru droi tenantiaid allan oherwydd caledi ariannol.  Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi rhoi ystyriaeth i’r adroddiad a chymeradwyo’r cynnwys.

 

Eglurodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod oedran y stoc tai presennol yn golygu bod angen buddsoddi’n gyson ynddo a bod bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru newydd yn creu pwysau ychwanegol.  Roedd pwysau i ariannu rhaglenni adeiladu newydd hefyd gyda chyfnodau heriol o’n blaenau.  Cynigiwyd cynyddu rhent i’r uchafswm a osodwyd ond roedd ffydd bod y rhent yn fforddiadwy i denantiaid.  Rhoddodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol drosolwg o’r asesiad fforddiadwyedd ac eglurodd sut oedd y rhent wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio model rhent byw Sefydliad Joseph Rowntree sy’n seiliedig ar y 30% o incymau isaf Sir Ddinbych, gyda rhenti nad ydynt yn uwch na 28% o incwm wythnosol yr enillion hynny.  Roedd y gwaith hwnnw wedi dangos bod rhenti’n fforddiadwy, a byddai’r holl incwm o renti yn cael ei ail-fuddsoddi yn y stoc tai.

 

Soniodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau am drafodaethau’r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried yr adroddiad ar 7 Rhagfyr 2023.  Talodd y Cynghorydd Williams deyrnged i waith y Tîm Tai Cymunedol gan ddiolch iddynt am eu holl waith caled a’u cyflawniadau, a dywedodd fod yr adborth o’r Pwyllgor Craffu wedi bod yn hynod o gadarnhaol a bod argymhelliad yr adroddiad wedi’i gymeradwyo.  Roedd un maes pryder yn ymwneud â gwres ffynhonnell aer a’r angen i edrych ar wresogi eilaidd i sicrhau nad oedd tenantiaid heb wres am unrhyw gyfnod.  Cadarnhaodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod y mater yn cael ystyriaeth bellach a bod asesiadau risg yn cael eu cynnal.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am ei adborth ar ôl y Pwyllgor Craffu a chroesawodd fwy o’r dull hwnnw wrth symud ymlaen.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       Eglurwyd bod y Cyfrif Refeniw Tai wedi’i glustnodi a’i fod i gyd ar wahân i gyllideb y Cyngor a’r broses o osod y gyllideb

·       rhoddodd Aelodau longyfarchiadau i’r Tîm Tai Cymunedol am y cyflawniadau o ran tai cymdeithasol, o ran gwella darpariaeth bresennol a chreu tai cymdeithasol newydd, er budd tenantiaid a phreswylwyr y sir

·       eglurodd swyddogion y gwelliant i’r stoc tai Cyngor presennol trwy’r rhaglen ôl-osod gyda chyllid grant yn cael ei ddarparu i gyflawni gwelliannau fel paneli solar, toeau newydd ac inswleiddio waliau allanol ynghyd â gwelliannau a gynlluniwyd sy’n codi o Safon Ansawdd Tai Cymru newydd o ran ‘gwres fforddiadwy’ a gwelliannau ynni trwy bympiau gwres yr awyr, paneli solar ac inswleiddio waliau allanol a oedd yn creu pwysau cyllideb newydd wrth symud ymlaen

·       cyfeiriwyd at yr ymrwymiad yn y Cynllun Corfforaethol i greu 170 o gartrefi ychwanegol a soniodd swyddogion am nifer o ddatblygiadau sydd bron â’u cwblhau yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i brynu hen eiddo’r Cyngor yn ôl hefyd a dod â nhw’n ôl i fyny i’r safon

·       roedd tai yn flaenoriaeth gorfforaethol, a chydnabuwyd nad oedd y galw cyffredinol am dai yn cael ei ateb ac roedd llawer o waith yn mynd rhagddo i ddiwallu’r angen hwnnw yn y ffordd orau a mynd i’r afael â digartrefedd yn y sir.  Roedd mater Tai Amlfeddiannaeth yn dal i gael sylw trwy bolisïau cynllunio a thimau gorfodi o ran caniatâd cynllunio ac roedd yn cael ystyriaeth fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd. Deiliadaeth gymysg o dai rhent cymdeithasol a thai sector preifat oedd sylfaen cymuned ffyniannus.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu’r adborth cadarnhaol gan Aelodau am waith y Tîm Tai Cymunedol a diolchodd i swyddogion am eu cyfraniadau.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu;

 

(b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £109.34, i’w weithredu o ddydd Llun, 1 Ebrill 2024;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr argymhelliad hwn, a

 

(d)      bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: