Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG ARBEDION LLYFRGELL/SIOP UN ALWAD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant (copi ynghlwm) yn amlinellu sut ellir cyflawni arbedion trwy leihau gwasanaethau llyfrgell/siop un alwad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo’r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad o oddeutu 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, i roi arbediad disgwyliedig o £360,000, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad a oedd yn amlinellu sut y gellid cyflawni arbedion trwy leihau Gwasanaethau Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad.

 

Roedd y cynnig wedi’i gyflwyno oherwydd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r Cyngor a’r gofyniad i bob gwasanaeth ddarparu arbedion sylweddol.  Roedd yr adroddiad yn egluro’r arbedion posibl o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad; effaith bosibl yr arbedion; ystyriaethau penodol i’r Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i lywio trafodaethau’r dyfodol, ac roedd yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad o tua 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn meysydd gwasanaeth eraill, er mwyn cyflawni arbediad disgwyliedig o £360,000.

 

Roedd y Cynghorydd Wynne yn glir nad oedd yn gyfforddus â’r cynnig, ond o ystyried y cyd-destun ariannol, roedd angen gwneud llawer o benderfyniadau anodd ac eglurodd y rhesymeg sy’n sail i’r dewis i leihau oriau agor ar draws pob llyfrgell yn hytrach na chau llyfrgelloedd unigol yn llwyr fel ffordd fwy teg o gyflawni arbedion.  Roedd newidiadau wedi’u gwneud i’r cynnig gwreiddiol i ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.  Roedd y cynnig presennol yn seiliedig ar leihau oriau agor o 40% yn hytrach na 50% gan arwain at agor llyfrgelloedd am 30 awr ychwanegol yr wythnos yn gyffredinol a oedd yn darparu tua £90,000 yn llai o arbedion ond a oedd hefyd yn galluogi grwpiau defnyddwyr trydydd parti i ddefnyddio adeiladau’r llyfrgell y tu allan i oriau agor arferol llyfrgelloedd.  Roedd y Cynghorydd Wynne o’r farn fod y cynnig presennol yn fwy cytbwys ac yn well i ddefnyddwyr y llyfrgell a staff na’r cynnig blaenorol.  Roedd y cynnig yn diogelu llyfrgelloedd i’r graddau yr oedd hynny’n bosibl ar hyn o bryd, a byddai’n sicrhau nad oedd rhaid i unrhyw lyfrgell gau.  Gyda thristwch mawr, argymhellodd y Cynghorydd Wynne y cynnig, ond roedd yn credu mai hwn oedd y trefniant gorau posibl i lyfrgelloedd yn y sefyllfa ariannol bresennol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi y broses a arweiniodd at y cynnig presennol fel rhan o’r broses ehangach o osod y gyllideb er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, gyda’r cynnig yn newid dros amser i ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.  Ystyriwyd bod y cynnig yn gymesur a realistig o ystyried y sefyllfa ariannol a lefel yr arbedion gofynnol.  Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod y toriad arfaethedig i’r gyllideb tua 21% o gyllideb y gwasanaeth ac roedd yn cynnwys lleihau oriau agor llyfrgelloedd a rhai arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth hefyd, yr oeddent yr un mor werthfawr.  Tynnodd sylw at Atodiad 2 a oedd yn egluro’r model gwasanaeth 40% arfaethedig a oedd wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori ag undebau a staff.  Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig, byddai ymgynghoriad staff ffurfiol a allai arwain at fân adolygiadau gweithredol, ond y model hwn yn fras fyddai’r un a fyddai’n cael ei weithredu.

 

Diolchodd y Cabinet i’r Aelod Arweiniol am ei waith wrth gyflwyno cynnig mor anodd ond cytbwys gan roi ystyriaeth i’r holl ffactorau.  Mynegodd y Cynghorydd Julie Matthews ei rhwystredigaeth dros y toriadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU dros yr 13 mlynedd diwethaf ac effaith gronnus y cynni ar arian Llywodraeth Leol sydd wedi arwain at y sefyllfa ariannol enbyd bresennol.  Er nad oedd neb o blaid toriadau i’r gwasanaeth llyfrgelloedd, derbyniwyd y byddai angen i bob gwasanaeth wneud arbedion er mwyn darparu cyllideb gytbwys, o ystyried y sefyllfa ariannol enbyd, ac yn y cyd-destun hwnnw, roedd y Cabinet yn ystyried bod y cynnig yn deg a chymesur.  Fodd bynnag, roedd y Cabinet yn awyddus i osgoi unrhyw doriadau pellach i’r gwasanaeth llyfrgelloedd wrth symud ymlaen a lliniaru’r effaith.  Gofynnwyd am sicrwydd yn hynny o beth a cheisiadau am adolygiad o’r model arfaethedig er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran gostyngiadau i oriau agor llyfrgelloedd ar draws y sir (gan ystyried cyfraniadau Cynghorau Dinas/Tref); gwaith pellach sy’n cynnwys yr holl fudd-ddeiliaid yn cydweithio i edrych ar fodelau amgen o ddarparu gwasanaethau llyfrgell a thwf yn y dyfodol a sicrhau bod canolbwyntiau/mannau diogel a chynnes yn cael eu darparu ym mhob tref/cymuned wrth symud ymlaen, i bobl eu defnyddio.  Amlygwyd yr ymgysylltu cadarnhaol a’r adborth gwerthfawr o’r broses ymgynghori ynghyd â sut yr oedd yr adborth hwnnw wedi newid y cynnig gwreiddiol a chwestiynau pellach yn hynny o beth.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·       cytunwyd i adolygu oriau agor llyfrgelloedd er mwyn sicrhau bod y gostyngiadau’n gytbwys a theg ar draws pob llyfrgell a bod ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i gyfraniadau ariannol Cynghorau Dinas/Tref

·       byddai rhagor o waith yn cael ei wneud gyda budd-ddeiliaid â diddordeb gan gynnwys staff, grwpiau cymunedol a Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned er mwyn ystyried modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau llyfrgell gyda’r bwriad o’u diogelu ar gyfer y dyfodol a thyfu’r ddarpariaeth honno, lliniaru toriadau a cheisio ffynonellau incwm eraill

·       roedd y dewis i leihau oriau agor dros gau llyfrgelloedd yn golygu y byddai’n haws ailgyflwyno’r oriau agor blaenorol neu ehangu darpariaeth yn y dyfodol pe bai’r sefyllfa ariannol yn gwella neu pe bai cyllid amgen ar gael, ac roedd pob llyfrgell yn hyfyw o bosibl i’w defnyddio gan y gymuned y tu allan i’r oriau agor

·       byddai llawer o waith yn cael ei wneud i ddiogelu’r gwasanaeth llyfrgell rhag toriadau yn y gyllideb yn y dyfodol, a fyddai’n bendant yn ddewis olaf, ac ni ragwelwyd hyn ar hyn o bryd

·       eglurwyd cynlluniau i’r gymuned ddefnyddio adeiladau llyfrgell y tu allan i oriau agor llyfrgelloedd gyda model mwy masnachol yn cael ei ddatblygu i hwyluso’r ddarpariaeth honno a diwygiadau i oriau agor yn dilyn adborth o’r ymgynghoriad, gyda llai o achosion o agor am ran o’r diwrnod, ac addasiadau i ddiwrnodau agor

·       amlygwyd defnyddio llyfrgelloedd fel canolfannau clyd/mannau diogel a’r nod o ddiogelu ac ehangu’r ddarpariaeth honno yn y gymuned wrth ystyried y model newydd; roedd y Tîm Gwydnwch Cymunedol wedi bod yn cyfeirio cyllid i’r trydydd sector er mwyn darparu canolfannau clyd/bwyd ar draws y sir a chytunwyd y dylid cynnal ymarfer mapio ar draws y sir â’r bwriad o gynyddu’r ddarpariaeth honno.

 

Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i rai nad oeddent yn aelodau'r Cabinet, a chymerwyd cyfle i fynegi eu barn a gofyn cwestiynau am y cynigion.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       Eglurodd y Cynghorydd Peter Scott sefyllfa Cyngor Dinas Llanelwy, o ystyried eu bod yn cyfrannu’n ariannol i’r gwasanaeth llyfrgell yn Llanelwy ond byddai eu horiau agor yn lleihau o hyd.  Roedd Cyngor Tref Rhuddlan mewn sefyllfa debyg.  Roedd swyddogion yn gwerthfawrogi’r dull partneriaeth gyda’r ddau Gyngor.  Roedd y model arfaethedig yn nodi’r oriau agor ar gyfer llyfrgelloedd unigol ac roedd wedi rhoi ystyriaeth i’r cyfraniadau ariannol ar gyfer llyfrgelloedd Llanelwy a Rhuddlan.  Pe bai’r cyfraniad yn cael ei dynnu’n ôl, byddai angen lleihau’r oriau ymhellach.  Mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts farn Cyngor Tref Rhuddlan a’u siom am y gostyngiadau arfaethedig ond roedd yn gobeithio y byddai cyfraniadau ariannol yn parhau o ystyried pwysigrwydd y gwasanaeth.  Roedd swyddogion yn croesawu trafodaethau pellach gyda’r ddau Gyngor am y ffordd ymlaen.  

·       Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn erbyn y cynnig, ac amlygodd bwysigrwydd y gwasanaeth fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r staff gwerthfawr a ffyddlon, a’r gwrthwynebiad llethol i’r toriadau a ddangoswyd yn yr ymgynghoriad, ac roedd yn teimlo bod gostyngiad o 21% mewn gwasanaeth mor fach yn annheg ac anghymesur.  Ymatebodd y swyddogion i’r pwyntiau hynny a phwyntiau eraill a godwyd fel a ganlyn –

-       nid oedd gwerth y gwasanaeth yn cael ei amau, ac nid oedd y cynnig wedi’i gyflwyno'n llawen nac ysgafn, ond yn hytrach i ymateb i’r sefyllfa ariannol enbyd

-       nid oedd y gwasanaeth llyfrgell wedi’i dargedu; roedd gofyn i bob gwasanaeth ganfod arbedion sylweddol a byddai angen gwneud penderfyniadau anodd eraill yn y dyfodol

-       roedd yr adroddiad yn egluro’r uchafswm costau diswyddo ond nes i benderfyniad gael ei wneud, ni ellid dechrau trafodaethau ffurfiol gyda staff a gallai’r costau ddod i ddim, yn dibynnu a ellid adleoli pob aelod o staff a oedd mewn perygl

-       roedd yr effaith ar wasanaethau eraill wedi’i drafod gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac mae’n bosibl y bydd angen ffyrdd mwy creadigol o gael mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau’r llyfrgell, a byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach pan fyddai penderfyniad wedi’i wneud

-       byddai gan y gwasanaeth llyfrgell rôl ganolog i’w chwarae o hyd o ran cydlyniant cymunedol a darparu mannau diogel a chanolbwyntiau cymunedol ond mae'n bosibl y bydd angen i rai o’r rhain gael eu gwneud mewn ffordd wahanol wrth symud ymlaen

-       eglurwyd y broses gwneud penderfyniadau, gyda’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn swyddogaeth weithredol sy’n gyfrifoldeb i’r Cabinet; roedd swyddogion wedi gofyn i’r eitem gael ei hystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu ond roedd y cais wedi’i wrthod

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at yr Asesiad o Effaith ar Les, ac nad oedd unrhyw effaith gadarnhaol ar nodau Lles, ac effaith ar ddefnydd o ganol y dref, incwm cysylltiedig a diswyddo tebygol.  Ni ellid darparu unrhyw enghreifftiau o adfer gwasanaethau unwaith iddynt gael eu torri.  Dangosodd yr ymgynghoriad wrthwynebiad llethol i’r cynnig, a fyddai’n cael effaith go iawn ar breswylwyr ar draws y sir.  Gyda hynny mewn cof, ac o ystyried mai costau staffio oedd yr arbediad mwyaf, gofynnodd i’r Cabinet ystyried canlyniad y cynllun diswyddiad gwirfoddol i staff ym mis Ionawr, cyn gwneud penderfyniad am y cynnig.  Cydnabu’r Arweinydd beth oedd gwerth y gwasanaeth, ac roedd y Cabinet wedi cydnabod hynny, ond roedd angen arbedion er mwyn gosod cyllideb gytbwys.  Gwnaeth y Pennaeth Cyllid ac Archwilio atgoffa’r Cabinet am y pwysau cyllidebol enfawr sy’n wynebu’r Awdurdod, a’r angen i wneud penderfyniadau amserol er mwyn gosod y gyllideb ym mis Ionawr.  Ychwanegodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis na fyddai’r arbedion a wneir o’r cynllun diswyddiad gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth digonol a byddai angen gwneud penderfyniad am y cynigion ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd fel rhan o’r broses ehangach o sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei gosod

·       Eglurodd y Cynghorydd Pauline Edwards pam na allai gefnogi’r cynnig, gan amlygu’r sefyllfa drychinebus o golli staff gwerthfawr a’r effaith ar breswylwyr, yn enwedig o ran canolfannau clyd/mannau diogel, y dylid rhoi sylw iddi o flaen llaw.  Ymatebodd swyddogion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Edwards am yr amserlen ar gyfer y cynnig; talodd deyrnged i’r staff medrus a phrofiadol a chafwyd trafodaethau pellach am fodelau darparu er mwyn lleihau’r effaith ar staff, gyda dewis i adleoli mewn rhan arall o’r Cyngor; a darparodd sicrwydd y byddai trafodaethau’n parhau trwy gydol y broses wrth symud ymlaen o ran modelau amgen ar gyfer canolfannau clyd/mannau diogel

·       Roedd y Cynghorydd Ann Davies o’r farn y byddai effaith y toriadau i wasanaethau llyfrgelloedd yn achosi pwysau mewn meysydd gwasanaeth eraill a chwestiynodd ddyletswydd gyfreithiol y Cyngor.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes at y ddeddfwriaeth berthnasol gan ddweud, er bod dyletswydd i ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd effeithlon, Awdurdodau Lleol fyddai’n ystyried sut i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yng ngoleuni’r adnoddau a oedd ar gael iddynt

·       Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cefnogi barn y Cynghorydd Bobby Feeley a'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ac roedd yn teimlo y dylid gwneud rhagor o waith ar y cynnig cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud; amlygodd yr effaith ar nifer yr ymwelwyr â’r dref hefyd.  Ailadroddodd yr Arweinydd yr angen i wneud penderfyniadau mewn modd amserol er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.  Cadarnhaodd Swyddogion fod llyfrgelloedd yn cael effaith economaidd gadarnhaol ar ganol trefi, a dyna pam yr oedd modelau amgen yn cael eu harchwilio i ddefnyddio adeiladau llyfrgell y tu allan i oriau agor llyfrgelloedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i bawb a oedd wedi cyfrannu at y drafodaeth ac a oedd wedi cymryd sylw o’r materion a godwyd, â’r bwriad o weithio gyda swyddogion a’u cynnwys yn y cynigion i liniaru effeithiau.  Ailadroddodd fod y penderfyniad yn un anodd i’w wneud ond rhoddodd sicrwydd y byddai’n gweithio gyda swyddogion i adfer gwasanaethau llyfrgelloedd a chynyddu oriau agor pan fyddai’r sefyllfa ariannol yn gwella.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo’r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad o oddeutu 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, i roi arbediad disgwyliedig o £360,000, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: