Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD LEFELAU RHENT FFORDDIADWY

Ystyried Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Strategaeth - Cynllunio Strategol a Thai, ar Osod Lefelau Rhent Fforddiadwy.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Swyddogion a’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas, i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad adroddiad i’r Pwyllgor ynglŷn â gosod Rhenti Tai Fforddiadwy. Nododd y Swyddogion fod yna berthynas aeddfed a chynhyrchiol gyda Chymdeithasau Tai yn y sir. Yr oedd Cymdeithasau Tai a’r Cyngor yn gweithio’n agos â’i gilydd i ddiwallu’r angen am dai yn y sir.

 

Arweiniodd Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai yr Aelodau drwy’r adroddiad.

 

Rhennid Rhent Fforddiadwy yn ddau gategori – rhent cymdeithasol a rhent canolradd. Rhent cymdeithasol oedd y math isaf o rent fforddiadwy ac mae’r rhan fwyaf o eiddo’r Cyngor a Chymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) wedi gosod rhent ar y lefel hon. Yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod tai lleol a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru gydymffurfio â Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth Tai Cymdeithasol. Cyflwynwyd y Safon yn rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Yr oedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn ymwneud â rhent canolradd.  Pennwyd diffiniad Rhent Canolradd gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel rhent sy’n cael ei osod naill ai ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol (a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i fod y traean isaf o renti’r farchnad agored), i fyny i uchafswm o 80% o rent y farchnad; yr oedd y ffigur yn cynnwys taliadau gwasanaeth. Yr oedd Rhent Canolradd yn cael ei arwain gan y farchnad yn hytrach nag incwm ac, felly, yr oedd y codiadau rhent a welwyd yn ddiweddar yn y sector rhentu preifat yn effeithio arno.

 

Yr oedd Rhent Canolradd yn opsiwn a oedd ar gael i ddatblygwyr preifat ochr yn ochr â pherchnogaeth cartref â chymorth, wrth ystyried rhwymedigaethau cynllunio ar safleoedd datblygu newydd. Yn Sir Ddinbych yr oedd 15 o anheddau yn eiddo i 3 datblygwr preifat gwahanol, a oedd yn cael eu rhentu fel eiddo canolradd.

 

Yr oedd Tai Fforddiadwy yn y sir ar gael drwy gofrestr Tai Teg a weithredid gan Grŵp Cynefin. Yr oedd 960 o ymgeiswyr ar hyn o bryd yn gwneud cais am Lety Rhent Canolradd, sydd wedi cynyddu’n sylweddol. Gellid egluro’r cynnydd yn y galw oherwydd yr ansicrwydd yn y farchnad swyddi, Brexit a Covid, ac yr oedd prisiau eiddo wedi bod yn cynyddu’n aruthrol hefyd.

 

Yr oedd problemau wedi bod yn ymwneud â chynnwys taliadau gwasanaeth mewn rhent canolradd, a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn. Canlyniad y cyfarfodydd hyn oedd y cytunwyd bod canllawiau Llywodraeth Cymru ychydig yn aneglur, ac felly cyhoeddwyd llythyr (a ddosbarthwyd ymlaen llaw, sef Atodiad (iv) yr adroddiad) i egluro unrhyw bryderon gan nodi y dylai Rhent Canolradd gynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth.

 

Yr oedd yna ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i adolygu lefelau Rhent Canolradd yn rhan o bolisi yn y dyfodol; fodd bynnag, nid oedd unrhyw amserlen ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Cynllunio Strategol a Thai am yr adroddiad a chroesawu cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y taliadau gwasanaeth a holi a oedd hyn yn ffordd gan y datblygwyr o gynyddu rhent. Dywedodd Pennaeth Tai Fforddiadwy (Clwyd Alyn) fod rhai ardaloedd cymunedol yn cael eu cynnal a chadw gan y datblygwr, yr oedd tâl blynyddol ar gyfer pob eiddo a drosglwyddid i’r preswylwyr fel tâl gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Cymdeithasau Tai’n gallu addasu’r rhent a thaliadau gwasanaeth pe bai tenant yn cael anawsterau ariannol. Dywedodd Cynrychiolydd Clwyd Alyn eu bod yn archwilio ffyrdd o gynorthwyo tenantiaid i dalu eu rhent drwy roi talebau bwyd ac ynni – yr oedd ganddynt Gronfa i Breswylwyr wedi ei neilltuo ar gyfer amgylchiadau o’r fath – fodd bynnag, nid oeddynt yn dallu atal y taliadau gwasanaeth. Ymgynghorwyd â phreswylwyr er mwyn canfod ffyrdd i ostwng y tâl gwasanaeth cymaint â phosibl; er enghraifft, drwy dorri’r glaswellt mewn ardaloedd cymunedol bob 3 wythnos yn hytrach na phob pythefnos.

 

Trafododd yr Aelodau a oedd y tâl gwasanaeth yn cynnwys cynnal a chadw ardaloedd chwarae, ac a oeddynt yn dod yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus drwy Gyngor Sir Ddinbych (CSDd). Dywedodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y byddent yn codi’r cwestiwn hwn gyda Phennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd, a chael ymateb ysgrifenedig i’r ymholiad i’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd Adra fod ganddynt ardaloedd chwarae cymunedol ar rai o’u hystadau, ond nid oedd gan Glwyd Alyn unrhyw rai.  Yr oedd gan rai datblygwyr ardaloedd chwarae ar yr ystadau yr oeddynt yn eu rheoli, ac yr oedd costau cynnal a chadw ar gyfer y rheiny yn cael eu cynnwys yn y taliadau gwasanaeth.

 

Trafododd yr Aelodau’r cynlluniau cyfathrebu rhagweithiol yr oedd gan y Cymdeithasau Tai ar waith i gynorthwyo tenantiaid ag incwm isel, a holwyd sut oedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cyfathrebu’r gefnogaeth a oedd ar gael gydag aelwydydd a oedd yn cael y trafferthion mwyaf.

 

Dywedodd cynrychiolwyr o Glwyd Alyn ac Adra eu bod yn rhagweithiol iawn wrth ddarparu gwybodaeth i denantiaid am y gefnogaeth a oedd ar gael iddynt. Yr oedd ôl-ddyledion tenantiaid yn cael eu monitro’n ofalus, a gwneid cysylltiad uniongyrchol â’r tenant er mwyn archwilio dulliau posibl o gynorthwyo a allai fod ar gael iddynt. Hysbysid tenantiaid am asiantaethau a allai eu cynorthwyo i gael mynediad at unrhyw grantiau / cyllid yr oedd ganddynt hawl i’w cael. Cyn neilltuo eiddo i denantiaid, cynhelid gwiriad fforddiadwyedd ar bob tenant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu fforddio’r eiddo. Yr oedd Swyddogion Ymyrraeth Gynnar hefyd ar waith i gynorthwyo tenantiaid a oedd yn ei chael yn anodd.  Rhoddodd pob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig amlinelliad o’i wasanaethau cefnogi ac ymyrraeth gynnar a oedd ar gael ac yn cael eu darparu i denantiaid a oedd yn cael trafferthion.  Pwysleisiodd pob un fod cynnal iechyd a lles eu tenantiaid yn rhan annatod o’u busnes o ddydd i ddydd, ac yn elfen graidd y tu ôl i’w sefydliad.

 

Holodd yr Aelodau a oedd pob Cymdeithas Tai’n cyfathrebu gyda’i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth. Eglurodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fod perthynas waith agos iawn rhwng Cymdeithasau Tai a’r Cyngor. Cynhelid cyfarfodydd rheolaidd er mwyn cael trafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol a phryderon a oedd yn dod i’r amlwg. 

 

Holodd yr Aelodau a oedd yr Heddlu’n bresennol yn y cyfarfodydd rheolaidd a gynhelid pe bai yna denant trafferthus – byddai hyn yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei rhannu. Dywedodd Rheolwr Tai Fforddiadwy nad oedd yr Heddlu’n bresennol yn y cyfarfodydd hyn am eu bod yn cael eu cynnal er mwyn trafod arferion a phrosesau yn bennaf. Os oedd unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynhelid cyfarfod amlasiantaethol ar wahân.

 

Gofynnodd yr Aelodau ynglŷn â chytundebau tenantiaeth ac a oeddynt yr un fath yn yr holl Gymdeithasau Tai. Eglurodd Pennaeth Tai Fforddiadwy (Clwyd Alyn) fod gan bob Cymdeithas Tai gontract safonol, a elwid hefyd yn Gontractau Meddiannaeth, ar gyfer tenantiaid Rhent Canolradd, ac yr oedd yr un polisïau a gweithdrefnau wedi eu hamlinellu ynddynt.  Yr oedd y contractau hyn yn gontractau treigl, ac yr oedd gan bob tenant Swyddog Tai dynodedig a oedd ar gael i roi cyngor iddynt a’u cyfeirio at asiantaethau a gwasanaethau eraill a fyddai efallai’n gallu darparu cefnogaeth iddynt.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a chynrychiolwyr yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn  bresennol am roi atebion cynhwysfawr ac adeiladol i gwestiynau’r Aelodau.  Bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –

 

(i)             cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y broses o osod rhenti canolradd; a

(ii)           chefnogi parhad y gwaith gyda Landlordiaid Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weithredu rhenti canolradd yn strategol lle bo’n briodol, er mwyn datblygu cymunedau cynaliadwy a chynnal tenantiaethau fforddiadwy.

 

Dogfennau ategol: