Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 572108

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Rif Ymgeisydd 572108.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          bod yr Ymgeisydd wedi cael euogfarn ym mis Medi 2016 am yrru cerbyd modur â gormodedd o alcohol, ac euogfarn ym mis Ebrill 2017 am ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi ofn neu fygwth trais, yr oedd y ddau wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a'i gadarnhau yn dilyn y gwiriadau arferol;

 

(iv)          gwybodaeth bellach ynghylch yr achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd ynghylch amgylchiadau’r euogfarnau a gwybodaeth gefndir, a bod yr Ymgeisydd ar hyn o bryd yn dal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gydag awdurdod lleol arall, a roddwyd ym mis Tachwedd 2021;

 

(v)           ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(vi)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol, ynghyd â’i gyflogwr, a chadarnhaodd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi'i drwyddedu fel gyrrwr gydag awdurdod lleol arall ers dros ddwy flynedd, ac eglurodd y rhesymeg y tu ôl i'w gais i yrru yn Sir Ddinbych sef sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  O ran y ddwy euogfarn, yr oedd bellach yn berson gwahanol, a rhoddodd sicrwydd ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau’r aelodau, gan egluro’r cefndir iddo gymryd swydd fel gyrrwr trwyddedig ac ymhelaethu ar ei waith tacsi (yn ystod y cyfnod hwn nodwyd y gallai yrru i Sir Ddinbych ar ôl talu tâl ar hyn o bryd).    Pe bai'r aelodau o blaid caniatáu'r cais, byddai'n rhoi'r cyfle i'r Ymgeisydd barhau i weithio yn ei swydd bresennol a hefyd yn ychwanegu at yr incwm hwnnw gyda gwaith penwythnos ac i gyflenwi ar gyfer gyrwyr trwyddedig eraill.  Ymhelaethodd hefyd ar amgylchiadau’r ddwy euogfarn, gan gadarnhau ei ble euog, ynghyd â throsedd moduro TS10 ym mis Mawrth 2023.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, diolchodd yr Ymgeisydd i'r aelodau am y cyfle i gyflwyno ei achos ac ailadroddodd ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded, a daeth i’r casgliad bod amgylchiadau eithriadol a rhesymau cyfiawn dros wyro oddi wrth y polisi ar yr achlysur hwn. Caniatawyd y drwydded yn seiliedig ar y canlynol -

 

·       yr amser a aeth heibio ers yr euogfarnau ac ymddygiad da ers hynny

·       y ffaith bod amgylchiadau personol yn ymwneud â'r euogfarnau

·       y ffaith ei fod wedi pledio'n euog ac wedi cydnabod ei gamgymeriadau

·       y ffaith ei fod wedi cwblhau ei gwrs ymwybyddiaeth gyrrwr yn llwyddiannus

·       y ffaith ei fod yn dal trwydded gydag awdurdod cyfagos ar hyn o bryd, yr ymddengys ei fod yn cadw at y rheolau heb unrhyw broblemau am y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

 

Dogfennau ategol: