Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD A PHRISIAU CERBYDAU HACNI

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad tabl ffioedd a phrisiau cerbydau hacni (tacsis) a chyflwyno nifer o opsiynau i’w hystyried.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, drwy bleidlais fwyafrifol, cadw’r tabl ffioedd presennol wrth aros am ganlyniad yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a chyfeirio’n ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ei ystyried.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (PPBM) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar adolygiad y prisiau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), gan gyflwyno nifer o opsiynau i'w hystyried.

 

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Medi 2023 wedi ystyried adroddiad ar gynigion i gynyddu'r tariffau presennol ac wedi awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynnydd o 5% (wedi'i dalgrynnu i'r % llawn agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro.  Darparwyd manylion yr ymgynghoriad statudol ynghyd â'r ymatebion a gafwyd, gan gynnwys dadansoddiad o'r ymatebwyr (masnach/cyhoeddus), y rhai a oedd o blaid cynnydd o 5% (14), y rhai yn erbyn cynnydd o 5% (37) a'r rhai a oedd o blaid cynnydd dros 5% (9).  Darparwyd tabl cymharu o bob tariff yn seiliedig ar filltiroedd llawn yn ogystal.   Roedd adolygiad y prisiau yn ychwanegol at yr adolygiad sy'n cyd-fynd ag adolygiad y gyfrifiannell tariffau (a argymhellir gan yr Ymgynghorydd Trwyddedu yn dilyn yr adolygiad prisiau yn 2022) ac roedd yn dibynnu ar ddata gan y fasnach drwyddedig.  Roedd y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo, a chyfarfod cychwynnol wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2023 gyda deiliaid trwydded a oedd wedi mynegi diddordeb i gyfrannu.

 

Arweiniodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad, gan ymhelaethu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ystyriaethau eraill. Roedd hyn yn cynnwys yr effaith ar y fasnach tacsis a defnyddwyr tacsis o ganlyniad i gynnydd yn y prisiau, effaith anuniongyrchol bosibl ar y gyllideb cludiant ysgol, a chostau cysylltiedig â mesuryddion tacsi yn cael eu graddnodi.  Gofynnwyd i’r Aelodau roi ystyriaeth i’r opsiynau canlynol -

 

·       cadw'r tabl ffioedd presennol

·       cadw’r tabl ffioedd presennol wrth aros am ganlyniad adolygiad y gyfrifiannell ffioedd a chyfeirio’n ôl yng nghyfarfod Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol er mwyn ei ystyried

·       cymeradwyo’r cynnig i gynyddu’r ffi o 5% fel yr ymgynghorwyd

·       cymeradwyo cynnydd gwahanol

 

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a'r opsiynau oedd ar gael iddynt, gan amlygu'r anawsterau a gyflwynwyd o ystyried y diffyg barn bendant yn deillio o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Codwyd cwestiynau gyda Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a esboniodd fod y gyfrifiannell tariff yn darparu methodoleg ar gyfer cyfrifo prisiau tocynnau yn y dyfodol, ond ei fod yn dibynnu ar ymgysylltu digonol a data ystyrlon gan y fasnach drwyddedig.  Roedd y cyfarfod cychwynnol gyda deiliaid trwydded ym mis Tachwedd 2023 wedi bod yn gynhyrchiol ond roedd angen mwy o wybodaeth, yn enwedig gan berchnogion/gyrwyr a’r rhai hunangyflogedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving fod y cais am gynnydd mewn prisiau wedi tarddu o un perchennog tacsi gyda chyfran fawr o'r fasnach yn erbyn cynnydd. Tynnodd sylw hefyd at yr effaith negyddol y byddai cynnydd yn ei gael ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn anuniongyrchol ar gyllidebau cludiant ysgol.  Yn ei farn ef, adolygu’r gyfrifiannell prisiau fyddai’n darparu'r sail orau ar gyfer cyfrifo prisiau tocynnau yn y dyfodol.  O ganlyniad, cynigiodd y Cynghorydd Irving y dylid cadw'r tabl prisiau presennol wrth aros am ganlyniad adolygiad y gyfrifiannell prisiau, a chyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w ystyried.  Eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield y cynnig, gan ddweud na allai gefnogi codiad pris ar hyn o bryd.

 

Yn ystod y ddadl a ddilynodd, heriwyd y cyfeiriad at unrhyw effaith o gynnydd mewn prisiau ar gyllidebau cludiant ysgol o ystyried bod ffi benodol wedi'i negodi yn yr achosion hynny.  Adroddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ar y gofyniad i gerbydau hacni sy'n gweithredu fel cerbydau hurio preifat yn Sir Ddinbych yn unig weithredu o dan y tariff uchaf.  Er y deallwyd bod prisiau contract cludiant ysgol presennol yn sefydlog, roedd yn debygol y byddai cost contractau yn y dyfodol yn ystyried unrhyw gynnydd yn y tariff a bennir.  Nid oedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn ystyried y dylid ystyried y mater wrth ddod i benderfyniad, o ystyried bod pris cytundebau ysgol yn cael ei drafod.  Cododd y Cynghorydd Ellis hefyd y posibilrwydd y byddai'r Cyngor yn rhoi'r gorau i bennu tariffau cerbydau hacni, o blaid y fasnach tacsis yn gosod eu tariffau eu hunain i adlewyrchu costau gweithredu unigol, yn enwedig o ystyried y gwahaniaethau enfawr yn y taliadau tariff ar draws y wlad gan gynnwys amrywiadau rhanbarthol.  Cadarnhaodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd fod y ddeddfwriaeth ond yn nodi y gallai'r Cyngor gyflwyno tabl prisiau.  Fodd bynnag, roedd gan bron bob cyngor yn y DU dabl taliadau tariff a byddai adolygiad y gyfrifiannell prisiau yn rhoi syniad yn seiliedig ar gostau ac amgylchiadau lleol perthnasol gyda mwy o gynghorau'n defnyddio'r fethodoleg honno i ddarparu proses gadarn ar gyfer gosod prisiau.  Derbyniwyd gwahaniaethau ar draws y wlad o ystyried amrywiadau rhanbarthol ac amgylchiadau lleol.

 

Trafododd yr Aelodau ymhellach y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Irving a phwysigrwydd ymgysylltiad ystyrlon a chynrychioliadol o'r fasnach drwyddedig er mwyn i'r gyfrifiannell tariffau fod yn effeithiol. Y gobaith oedd y gellid gwneud gwaith mewn modd amserol.  Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd sicrwydd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i ymgysylltu â'r fasnach, gan sicrhau data digonol i roi syniad cywir o'r costau a methodoleg gadarn ar gyfer y gyfrifiannell prisiau.  Gellid dod â’r mater yn ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024 i gynnwys cymariaethau tariff â chynghorau eraill ar draws Gogledd Cymru hefyd.

 

Ailddatganodd y Cadeirydd y cynnig, ac o’i roi i’r bleidlais:

 

PENDERFYNWYD, drwy bleidlais fwyafrifol, cadw’r tabl ffioedd presennol wrth aros am ganlyniad yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a chyfeirio’n ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ei ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: