Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD
Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei
swyddogaethau, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb
Strategol gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi’n amgaeedig).
11.15am – 12pm
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol a Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau yr adroddiad
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am
berfformiad y Cyngor yn erbyn y Cynllun Corfforaethol hyd at ddiwedd chwarter
2, Medi 2023.
Roedd newidiadau o ran cyflwyniad yr Adroddiad Diweddaru
Perfformiad o gymharu â chwarter 1, a amlygwyd o dan adran 4.4 yn yr adroddiad,
er mwyn ei gwneud yn haws nodi llwyddiannau corfforaethol a meysydd ar gyfer
gwella.
Roedd y Cabinet wedi ystyried yr Adroddiad Diweddaru
Perfformiad yr wythnos gynt, gan nodi dau faes perfformiad ar gyfer gwella, a
ychwanegwyd at adroddiad chwarter 2:
·
Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai – rhoi diweddariad
ar berfformiad yn erbyn y dangosydd yn ymwneud â chanran y ffyrdd a phalmentydd
wedi’u difrodi a wnaed yn ddiogel o fewn yr amser targed.
·
Bod y Sefydliad yn rhoi trosolwg o’r cynnig
diwylliannol a ddarperir ar draws gwasanaethau’r Cyngor fel rhan o’r cynllun i
ddatblygu’r gwaith o gyflwyno’r Strategaeth Ddiwylliannol a sut y byddai
hynny’n gysylltiedig â lles personol ac economaidd.
Rhagwelwyd y byddai cynnal perfformiad yn dueddol o fod
yn heriol wrth symud ymlaen, o ystyried y pwysau ariannol a’r gostyngiadau
anochel i wasanaethau yn sgil hynny.
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a
Pherfformiad drosolwg o’r adroddiad, gan egluro mai’r amcan oedd nodi
statws y mesuryddion perfformiad ar gyfer pob prosiect, gweithgaredd a naw
thema’r Cynllun Corfforaethol.
Ar y cyfan, roedd y sgoriau perfformiad ar gyfer:
·
Mesuryddion – oren (derbyniol) a
·
Phrosiectau – melyn (profi rhwystrau) ar wahân i’r
thema Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal oedd â sgôr coch (blaenoriaeth ar
gyfer gwella) oherwydd y problemau parhaus o ran tlodi a diweithdra.
Wrth grynhoi statws y gwahanol Themâu Corfforaethol, dywedodd
y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad:
Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sydd yn bodloni anghenion
pobl -
·
Roedd ymyriad newydd ‘Fy Nghartref Sir Ddinbych’
wedi arwain at lai o unigolion yn datgan eu bod yn ddigartref. Roedd llai o
bobl ar y rhestr aros Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD), ond roedd y niferoedd
yn parhau’n uwch na’r hyn roedd yr Awdurdod yn dymuno ei weld ar y rhestr.
·
Bu i bwysau ariannol a diffyg capasiti brofi’n heriol
o ran prosiectau effeithlonrwydd ynni cartrefi’r Cyngor er mwyn paratoi ar
gyfer Safonau Ansawdd Tai newydd Cymru.
Sir Ddinbych ffyniannus -
·
Mae rhai heriau o ran prosiectau mwy yn Ninbych a’r
Rhyl yn parhau, oherwydd oedi a phrinder cyllid. Rhagwelwyd y byddai’r
cyhoeddiad diweddar o ddyraniad Ffyniant Bro 3 yn mynd i’r afael â’r problemau
hyn.
·
Gwelwyd cynnydd o ran twristiaeth a gwariant
cysylltiedig.
·
Roedd cyflogau a swyddi yn parhau’n flaenoriaeth ar
gyfer gwella. Cafodd strategaeth economaidd ei llunio, gan ddefnyddio gallu ac
arbenigedd allanol gan Swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus -
·
Roedd rhai heriau o ran cyflwyno’r dull ysgol gyfan
ar gyfer iechyd meddwl.
Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu -
·
Roeddent yn parhau i aros am fesuryddion
cyrhaeddiad gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu deall perfformiad ysgolion o
fewn y cyd-destun dan sylw.
·
Roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn parhau i
brofi oedi – cafodd diweddariadau penodol eu cynnwys yn yr adroddiad.
·
Roedd Cymorth y Blynyddoedd Cynnar, Llwybrau a Sir
Ddinbych yn Gweithio yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well -
·
Mae trwsio difrod i ffyrdd a phalmentydd yn
parhau’n destun pryder.
·
Mae’r terfyn cyflymder 20mya wedi cael ei gyflwyno
bellach.
Sir Ddinbych mwy gwyrdd -
·
Rydym yn parhau i chwilio am ddulliau ar gyfer
mesur y gostyngiad mewn tunelledd carbon o gadwyni cyflenwi.
·
Roedd paratoadau ar y gweill i adolygu’r
strategaeth.
Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal -
·
Roedd y rhaglen prydau ysgol am ddim yn ehangu.
·
Gwelwyd cynnydd yn y ffigyrau a dderbyniwyd gan
Heddlu Gogledd Cymru (HGC) ynghylch trais domestig a throseddu mynych. Deallwyd
mai newid i’r dulliau adrodd oedd yn gyfrifol am y cynnydd.
·
Mynegwyd pryderon ynglŷn â gweithwyr yn
cwblhau modiwlau cydraddoldeb ac roedd sylw’n cael ei roi i hyn.
Sir Ddinbych â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn
ffynnu -
·
O ganlyniad i’r pandemig a’r cyfnodau clo yn ei
sgil, gwelwyd gostyngiad yn nifer y plant sy’n parhau â’u haddysg drwy gyfrwng
y Gymraeg. Roedd cynlluniau ar y gweill i ddenu mwy o blant i feithrinfeydd
cyfrwng Cymraeg.
·
Roedd gwaith ar y strategaeth ddiwylliannol wedi’i
oedi ers tro, ond roedd llawer o brosiectau ar y gweill ar gyfer cefnogi’r
Gymraeg a diwylliant Cymru trwy leoliadau treftadaeth, twristiaeth,
llyfrgelloedd a pharciau cenedlaethol a’r prosiectau ffyniant bro ac ati.
Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei
berfformiad -
Roedd bod yn agored a thryloyw yn rhan o werthoedd
craidd y Cyngor. Sefydlwyd y Bwrdd
Cyngor sy’n cael ei gynnal yn dda ac sy’n uchel ei berfformiad er mwyn cynnwys
mwy ar y diwylliant sefydliadol. Roedd gweithdy wedi’i drefnu ar gyfer yr holl
aelodau ym mis Ionawr 2024, er mwyn ystyried sut roeddent yn dymuno cymryd
rhan.
Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y
Swyddogion:
·
Roeddent ar ei hôl hi o ran perfformiad (3 mis) ac
felly o bosibl y byddai materion ynghylch gallu gweithwyr yn cael eu cofnodi ym
mis Rhagfyr – o ystyried y cyfyngiad a gafodd ei weithredu ym mis Medi ar
swyddi gwag. Byddai effaith newidiadau
yn y dyfodol yn cael eu hadrodd yn yr un modd.
·
Efallai y bydd angen ailystyried trothwyon/
mesuriadau, gan ddibynnu ar effaith y newidiadau arfaethedig.
·
Byddai angen cynnal trafodaethau â’r Cabinet ar y
posibilrwydd o gael llai o Themâu Corfforaethol, yn sgil y toriadau i’r
gyllideb.
·
Dim ond y swyddogaethau yr oedd y Cyngor yn talu
amdanynt oedd ar gael trwy system rheoli perfformiad Verto - a ddefnyddir yn
gyffredinol ar gyfer adrodd yn hytrach na rheoli perfformiad.
·
Byddai’r Bwrdd Cyngor sy’n cael ei gynnal yn dda ac
sy’n uchel ei berfformiad yn edrych ar ddiwylliant y Cyngor ac yn ystyried sut
y caiff data Gwybodaeth Perfformiad ei ddefnyddio.
·
Roedd yn ddyletswydd statudol i adrodd ar y saith maes
llywodraethu allweddol, a nodwyd yn yr adroddiad. Fe wnaethant gyfeirio at
faterion megis y prosesau cynllunio corfforaethol, rheoli perfformiad,
rheolaeth ariannol, prosesau caffael ac ati, trefniadau llywodraethu’r Cyngor
yn hytrach na’r swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarperir.
·
Roedd disgwyl i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
(MALlC) gael ei ddiweddaru ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026.
·
Wrth ddatblygu’r thema ar gyfer Sir Ddinbych teg,
diolch a mwy cyfartal, cyrchwyd gwybodaeth o nifer o ddata cenedlaethol oedd ar
gael ynghylch tlodi, gan gynnwys Data Cymru.
·
Gellid caffael ffynonellau i’w cynnwys yn y
Fframwaith Perfformiad o gyfeiriadau gwahanol, megis:
o
Cyhoeddiadau cenedlaethol
o
Llywodraeth Cymru
o
Cynlluniau gwasanaeth
o
Byrddau Strategol
·
Efallai bod modd i’r Cyngor wella cynhyrchiant trwy
ddulliau megis Deallusrwydd Artiffisial (AI) / ChatGBT. Byddai angen i’r
defnydd ohono roi sylw i egwyddorion moesegol a’r ddeddfwriaeth diogelu data
(GDPR).
Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch canran y rhai sy’n
gadael yr ysgol ym mlwyddyn 11, nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant.
Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad yn y flwyddyn newydd ar Sicrhau Ymgysylltiad mewn Addysg.
Yn dilyn y drafodaeth
Bu i’r Pwyllgor
Benderfynu: yn amodol
ar yr uchod, a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth
o ran gallu’r Cyngor i gyflawni’r gyfres lawn o flaenoriaethau corfforaethol yn
ystod cyfnod hir o gyfyngiadau ariannol, i dderbyn a chydnabod y cynnydd a
wnaed hyd yma wrth gyflawni Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn ystod Chwarter 2
2023/24.
Dogfennau ategol:
- Corporate Performance Self-Assessment Report 301123, Eitem 6. PDF 218 KB
- Corporate Performance Self-Assessment Report 301123 - App 1, Eitem 6. PDF 1 MB