Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD - DEUTCH'S BAR, 39 WELLINGTON ROAD, Y RHYL

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran Deutch’s Bar 39 Wellington Road, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i roi Trwydded Eiddo ar gyfer yr oriau diwygiedig a nodwyd yn adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu ac yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr Atodlen Gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)         cais gan Mr Gary Longworth am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â Deutch’s Bar, 39 Wellington Road, y Rhyl yn cynnig darpariaeth o gerddoriaeth byw (dan do yn unig) ynghyd â darpariaeth o gerddoriaeth wedi’i recordio (dan do yn unig), darpariaeth o unrhyw beth tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiadau o ddawns (dan do yn unig), a gwerthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar y safle (Atodiad A o’r adroddiad);

 

(ii)       cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol ar 19 Medi 2023 ond oherwydd camgymeriad gan yr Ymgeisydd, ni chyhoeddwyd y rhybudd cyhoeddus angenrheidiol mewn cyhoeddiad lleol o fewn yr amserlen statudol ac felly ailgyflwynwyd y cais ar 12 Hydref 2023;

 

(iii)      mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais am ganiatâd i ddarparu’r canlynol -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

O

TAN

Darparu alcohol (i’w yfed oddi ar y safle)*

 

 

Darparu alcohol (i’w yfed ar y safle)*

Llun – Gwener

Sadwrn – Sul a Gwyliau Banc

 

Llun – Sul

 

14:00

 

 

 

18:00

23:40

 

 

 

23:40

Darparu cerddoriaeth fyw (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Darparu cerddoriaeth wedi’i recordio (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Darparu unrhyw beth tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiad dawns (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Llun – Sul

10:00

00:00

 

* Oriau diwygiedig a gynigwyd fel rhan o gyfryngu [oriau gwreiddiol a gynigwyd i werthu alcohol oedd o 10:00 bob dydd; yr Ymgeisydd wedi ailystyried oriau alcohol yn dilyn y sylwadau a ddaeth i law.]

 

(iv)      daeth tri sylw ar ddeg i law yn wreiddiol gan Unigolion Eraill mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol, ond mae un sylw wedi’i dynnu’n ôl yn dilyn cyfryngu.  Mae a wnelo’r sylwadau eraill yn bennaf ag aflonyddwch posibl oherwydd sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (Atodiad B yr adroddiad);

 

(v)       Mae’r Ymgeisydd wedi meithrin cyswllt â Heddlu Gogledd Cymru ac adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ac wedi cytuno i gynnwys nifer o amodau wrth gyflwyno’r cais o’r newydd (Atodiad C o’r adroddiad) a fyddai’n rhan o’r Atodlen Weithredu pe caniateid y cais;

 

(vi)      Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cyflwyno sylwadau o blaid y cais (Atodiad D o’r adroddiad).

 

(vii)    mae cyfryngu wedi’i gynnig i holl bartïon ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law a does dim cytundeb ffurfiol wedi’i gyrraedd.  Yn sgil y cyfryngu mae’r Ymgeisydd wedi cynnig diwygio’i gais drwy newid yr oriau gwerthu alcohol, a chyflwyno ymateb i’r Unigolion Eraill a gyflwynodd sylwadau gyda’r gobaith i fynd i’r afael â rhai o bryderon a godwyd (Atodiad E o’r adroddiad);

 

(viii)   yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(ix)      yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd Mr Gary Longworth, yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi’r cais.

 

Eglurodd Mr Longworth y rheswm tu ôl ei gais a’i fwriad i weithredu galeri a bar gerddoriaeth, i ddarparu lleoliad i arddangos paentiadau ei dad, ac i arddangos talent leol am ddim, drwy gelf a cherddoriaeth. Ar ôl symud i’r ardal yn ddiweddar, cyfeiriodd ei fod wedi bod yn  chwilio am leoliad addas ar gyfer y pwrpas hwn, gan ddarparu man wal ddigonol i arddangos paentiadau ei dad a’r rhai o artistiaid awyddus, ac i roi cyfle i arddangos talent leol drwy farddoniaeth a cherddoriaeth, gyda’r llwyfan yn agored i unrhyw un am ddim.  Mae angen gweithredu bar i gefnogi’r ochr celf greadigol o’r busnes, i wneud lleoliad yn hyfyw, gyda’r bwriad o greu lle diogel a chyfrifol i yfed.

 

Mae’r mwyafrif o geisiadau yn berthnasol i effaith posibl ar Fyddin yr Iachawdwriaeth a gwasanaethau cysylltiedig a weithredir gan y Ganolfan Gymunedol yn Winsor Street, y Rhyl a oedd wedi’i leoli yn uniongyrchol tu ôl yr eiddo.  Canmolodd Mr Longworth gwaith y Fyddin yr Iachawdwriaeth a dywedodd na fyddai wedi parhau gyda’i gynlluniau ar gyfer y lleoliad petai yn achosi effaith niweidiol ar y gwaith hwnnw.  Cyfeiriodd at ymdrechion o ymgysylltu â’r Fyddin yr Iachawdwriaeth ynghylch ei gynlluniau, gan ddweud nad oedd wedi parhau gyda’i fwriad gwreiddiol am loches ysmygu oherwydd bod Byddin yr Iachawdwriaeth wedi gwrthwynebu hyn.  Roedd wedi ceisio ymgysylltu a chyfryngu gyda Byddin yr Iachawdwriaeth ar nifer o achlysuron gyda’r bwriad o fynd i’r afael â meysydd o bryderon ond roedd hyn yn ofer; mae wedi ysgrifennu at Fyddin yr Iachawdwriaeth er hynny yn trafod ei fwriad ar gyfer y lleoliad a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â phryderon.  Roedd manylion pellach o ymateb Mr Longworth i fynd i’r afael â phryderon wedi eu nodi yn Atodiad E o’r adroddiad.

 

Dywedodd Mr Longworth ei fod wedi cynnig yn wreiddiol yr oriau agor o 10am i gynnal digwyddiadau achlysurol ond roedd wedi rhagweld oriau agor arferol o 12 hanner dydd.  Fodd bynnag, gan ystyried y gwrthwynebiadau, newidiodd yr oriau agor i 2pm ond dim gwerthu alcohol tan 6pm.  Ni allai gytuno i weithredu bar dim alcohol neu i agor o 6pm ymlaen oherwydd ni fyddai’r lleoliad yn hyfyw.  Hefyd, anghytunodd Mr Longworth gyda’r rhesymau y byddai’r lleoliad hwn effeithio’n niweidiol ar unigolion diamddiffyn/ defnyddwyr gwasanaeth oherwydd ei agosrwydd at Fyddin yr Iachawdwriaeth, yn enwedig gan ystyried y nifer o fariau a lleoliadau trwyddedig yn yr ardal a’u horiau agor estynedig.  Oherwydd diffyg ymgysylltiad, yn ddiweddar bu iddo ddarganfod bod gwasanaethau alcohol ond yn gweithredu ar ddau ddiwrnod; petai wedi cael gwybod yn gynt byddai wedi newid ei oriau agor ar gyfer y dyddiadau penodol hynny.  I orffen, pwysleisiodd Mr Longworth ei gefnogaeth i Fyddin yr Iachawdwriaeth a gobeithio am berthynas waith da i symud ymlaen.

 

CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

Roedd PC Simon Keeting o Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau o blaid y cais (Atodiad D o’r adroddiad).

 

Cytunodd PC Keeting gyda chyflwyniad Mr Longworth ac roedd wedi tristau ei fod wedi newid ei oriau agor arfaethedig i dawelu’r gwrthwynebwyr pan roedd nifer o eiddo trwyddedig yn yr ardal gydag oriau agor hirach, gan gynnwys siop bapurau sydd â thrwydded gwerthu alcohol o 6am, lle byddai’r mwyafrif o’r rhain gydag ychwanegiadau alcohol yn prynu alcohol.  Teimlai bod angen canmol yr Ymgeisydd ei fod wedi gweithredu fel hyn i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd.

 

Roedd PC Keeting a’i Arolygydd wedi cyfarfod â Mr Longworth drafod ei fwriad ar gyfer y lleoliad, a doedd ganddo ddim problem gydag o.  Hefyd bu iddynt drafod syniadau i weithio gyda grwpiau cymunedol a dod â nhw i’r lleoliad. Eglurodd PC Keeting ei rôl fel Swyddog Partneriaeth a’i waith gyda Byddin yr Iachawdwriaeth; fel sefydliad sych, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ystyried ei fod yn iawn i gyflwyno sylwadau, ac roedd yn obeithiol os bydd y drwydded yn cael ei roi, yna byddent yn gweithio gyda’r Ymgeisydd.  Teimlai PC Keeting bod yr Ymgeisydd yn ddilys gyda’i fwriadau ac wedi ymgysylltu’n dda gyda’r Heddlu, a bod y lleoliad yn lle diogel ac yn cael ei reoli’n dda.

 

Cyflwynodd yr Aelodau gwestiynau i Mr Longworth, gan gynnwys materion o bryderon a godwyd o fewn y sylwadau a ddaeth i law gan unigolion eraill, a ymatebodd fel a ganlyn -

 

·       Er ei fod wedi gweithio mewn bar pan roedd yn ifanc, doedd ganddo ddim llawer o brofiad o redeg bar ac wedi cael cyngor o ran hynny i sicrhau ei lwyddiant; ei fwriad cychwynnol oedd cyflogi un neu ddau aelod o staff.

·       cadarnhaodd ei fwriad i gynnal noson meic agored/ talent leol gan bobl newydd a bandiau sefydledig; roedd yn gerddor brwdfrydig ei hun ac yn gallu chwarae’r gitar.

·       mae camau gweithredu wedi eu cyflawni i fynd i’r afael â phryderon sŵn gyda bwrdd plastar wedi’i inswleiddio i acwstig a gwaith yn y dyfodol i gynnwys inswleiddio acwstig a lleoliad siaradwr; byddai’n bersonol gyfrifol am fonitro sŵn a darparu sicrwydd sydd yn gosod cyfyngiad priodol.

·       capasiti yr eiddo rhwng 60 - 100 o bobl.

·       wedi’i gynnwys ar y cynllun (dosbarthwyd yn flaenorol) y maes parcio ar gefn yr eiddo yn dweud ei fod yn berchen ar ardal tua 3/4 medr sgŵar yr oedd yn bwriadu ei ddefnyddio i barcio ei gerbyd ac i gadw biniau caeedig yn ddiogel i’r wal; roedd allanfa dân ar gefn yr eiddo a ni fyddai cwsmeriaid yn ei ddefnyddio fel modd o gael mynediad/ mynd allan o’r eiddo.

·       bydd holl weithgareddau trwyddedu yn cael eu cynnwys o fewn yr eiddo a bydd sicrwydd pellach nad oedd defnydd arfaethedig ar gyfer tu ôl yr eiddo e.e. dim gardd gwrw/ mannau eistedd, dim man ysmygu, dim mynediad/allanfa, dim cerddoriaeth, arwyddion na goleuadau llachar i ddenu unrhyw un i’r eiddo.

·       cafodd yr eiddo ei brynu fel siop wag ac mae llawer o arian wedi’i wario eisoes ar waith atgyweirio, sydd wedi stopio er mwyn aros am ganlyniad y cais trwydded.

 

SYLWADAU CYHOEDDUS GAN UNIGOLION ERAILL

 

Roedd deuddeg o sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law (Atodiad B o’r adroddiad) gan Unigolion Eraill â diddordeb (Atodiad B i'r adroddiad) yn ymwneud ag aflonyddwch o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.   Yn absenoldeb y deuddeg Unigolyn Arall, derbyniwyd eu sylwadau ac fe’u darllenwyd.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Yn ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei fod yn cefnogi gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth ac ni fyddai’n gwneud unrhyw beth i danseilio na’i beryglu.  Os bydd aelodau o blaid rhoi caniatâd i’r cais, byddai’n parhau i geisio gweithio gyda Byddin yr Iachawdwriaeth i symud ymlaen.  Yn ei sylwadau ysgrifenedig roedd wedi ceisio lliniaru’r pryderon a godwyd, gan gadarnhau nad oedd bwriad am ardd gwrw nag i gwsmeriaid ddefnyddio tu ôl yr eiddo.   Ni allai’r cyfeiriad at y caniau cwrw a nodwyddau yn y maes parcio fod yn gysylltiedig â’i eiddo gan nad oedd ar agor nac yn gweithredu, ac roedd tu hwnt i’w reolaeth.  Yn olaf, ailadroddodd ei fwriad ar gyfer lleoliad a fydd yn arddangos paentiadau ei dad ac arddangos talent leol yn yr ardal er lles y Rhyl.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (10.40 am) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD i roi Trwydded Eiddo ar gyfer yr oriau diwygiedig a nodwyd yn adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu ac yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr Atodlen Gweithredu.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y Cynghorydd Cyfreithiol y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried y cais a'r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus ac roeddent yn fodlon bod yr amodau a nodwyd yn yr Atodlen Gweithredu a’r rhai y cytunwyd arnynt gyda'r Heddlu ac Adain Iechyd Amgylcheddol y Cyngor yn gymesurol ac y byddent yn helpu i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.  O ran y sylwadau ysgrifenedig, nid oedd y gwrthwynebwyr wedi mynychu’r cyfarfod ac felly byddai’r Is-bwyllgor ond yn gallu derbyn eu sylwadau ysgrifenedig yn arwynebol.  Roedd yr Aelodau wedi cael eu sicrhau gan eglurhad yr Ymgeisydd o’r camau a chymryd i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y sylwadau a sut yr oedd yn ystyried rheoli’r eiddo.  Hefyd roedd yr Is-bwyllgor wedi cael eu calonogi o’r ffaith bod y PC Simon Keeting wedi cefnogi’r cais. Roedd yr Is bwyllgor yn fodlon gyda’r amodau a nodwyd o fewn y cais ac i atodi i’r drwydded yn ddigonol ar gyfer amcanion trwyddedu.  Rhoddwyd yr oriau diwygiedig yn dilyn cynnig yr Ymgeisydd mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y sylwadau.

 

Cynghorwyd pawb am eu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 am.

 

 

Dogfennau ategol: