Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: GORFFENNAF – MEDI 2023

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023 (chwarter 2).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2023) a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 30 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023, gan gynnwys yr amcanion Cydraddoldeb Strategol a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Cynghorwyd y Cabinet bod fformat yr adroddiad wedi newid ychydig ers y chwarter diwethaf i adlewyrchu trafodaethau ar yr adroddiad hwnnw ac yn ystod yr adolygiad cyfran.   Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau bod yr adroddiad yn amlinellu perfformiad y Cyngor yn erbyn pob un o’r naw thema ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a Medi 2023 ac roedd yn rhoi tystiolaeth a oedd yn ffurfio rhan o’r Hunanasesiad fel bo’n ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.   Defnyddiwyd y gwaith hwnnw i dynnu sylw at lwyddiannau a meysydd o ddatblygiad ac mae hefyd yn dyfeisio ac yn gweithredu ymyriadau i’w gwella, ac anogwyd yr aelodau i ddefnyddio’r ddogfen fel offer mewn trafodaethau pellach wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad drosolwg cyffredinol o berfformiad a dywedodd bod statws yr holl fesurau ar gyfer pob thema yn ‘oren – derbyniol’ a bod prosiectau ychydig yn well gyda statws ‘melyn – yn profi rhwystrau’; roedd hyn ac eithrio’r thema ‘Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal’ gyda’r mesurau hynny yn dangos fel rhai ‘coch – blaenoriaeth i’w gwella’, gan adlewyrchu rhai o’r materion tymor hirach o ran bod heb waith ac amddifadedd materol.   Rhoddwyd crynodeb o’r mesurau a’r prosiectau o dan bob un o themâu’r Cynllun Corfforaethol i’r Cabinet ynghyd â throsolwg o newyddion cyfrannol ac eitemau pwyllgor.

 

Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y trosolwg a’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r ddogfen gynhwysfawr.   Nododd y Cabinet bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Medi 2023 a bod rhai pethau wedi symud ymlaen ers hynny.   Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       bod data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn cael ei gyhoeddi bob pedwar i bum mlynedd gyda’r data mwyaf diweddar sydd ar gael yn dod o 2019, a bydd aelodau yn cael eu cynghori o argaeledd y data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru newydd cyn gynted ag y mae’n dod yn hysbys.   Roedd mesurau eraill hefyd yn cael eu holrhain, yn enwedig mewn perthynas â’r thema Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal, fel aelwydydd mewn amddifadedd materol a phlant sy’n byw mewn tlodi.

·       Soniodd y Cynghorydd Gill German am y gwaith da yn ei maes portffolio a oedd newydd fethu’r dyddiad cau ym mis Medi ar gyfer ei gynnwys yn yr adroddiad presennol.   Cyfeiriwyd at y cyfleusterau gofal plant ychwanegol yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl, a oedd yn brosiect gwych yn nhermau moderneiddio addysg a darparu cyfleusterau mewn ardal o amddifadedd, a’r Grŵp Chwarae Cyfrwng Cymraeg a oedd yn cefnogi’r gwaith yn Ysgol Dewi Sant a darpariaeth y Gymraeg.   Derbyniwyd grant cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ar ysgolion bro ac roedd ymgysylltiad cadarnhaol wedi bod gydag ysgolion o ran hynny.   Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Prestatyn, fel yr ysgol beilot ar gyfer y fenter, yn enghraifft o arfer da gyda manylion wedi’u darparu ynghyd ag ysgolion eraill ar wefan Llywodraeth Cymru.

·       Cafwyd rhywfaint o ddadlau ynglŷn â phwysigrwydd y data yn yr adroddiad er mwyn monitro perfformiad a nodi arfer da a meysydd i’w gwella.   Pwysleisiwyd mai nod y Cynllun Corfforaethol  oedd darparu’r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr a sicrhau gwelliannau ar draws pob thema wrth gydnabod bod hwn ar adeg o anawsterau ariannol difrifol a phwysau cyllidebol.   Rhoddodd yr Arweinydd enghreifftiau yn ei faes portffolio o berfformiad da mewn pobl yn dod drwy gyflogaeth gynaliadwy a’r gwelliannau sydd eu hangen yn y rheiny sy’n hawlio lwfans ceisio gwaith a chredyd cynhwysol, ac ailadroddodd ymrwymiad y Cyngor i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at nifer o faterion yn ymwneud â’i faes portffolio, yn enwedig addysg Cyfrwng Cymraeg a’r heriau a wynebwyd sy’n codi o’r gostyngiad mewn disgyblion ym Mlwyddyn 2 oherwydd y cyfnodau clo covid.   Bu iddo hefyd ddweud bod lleoliad newydd wedi’i sicrhau ar gyfer Cylch Meithrin yn Rhuthun a bod meithrinfa newydd wedi’i gymeradwyo i ddarparu gofal ac addysg Cyfrwng Cymraeg.  Roedd llawer o waith wedi’i wneud mewn perthynas â’r prosiect tirlun yn Oriel Gelf Dory, Llangollen a gwaith i ddod â phrosiectau diwylliannol yn yr ardal ynghyd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac i godi ymwybyddiaeth o Dreftadaeth Gymreig.   Cyfeiriwyd at y Strategaeth Ddiwylliant sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.   Adlewyrchodd y Cynghorydd Gill German ar y cynnig diwylliannol a meysydd o waith da ar draws y sir a gofynnodd a ellir datblygu trosolwg o gynnig diwylliannol Sir Ddinbych, gydag enghreifftiau ar draws gwasanaethau’r Cyngor i ddangos y gwaith hwnnw.   Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes y byddai swyddogion yn gweithio i goladu’r wybodaeth angenrheidiol gyda’r bwriad o ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol i’r Cyngor gan ystyried ystyriaethau’r Gymraeg a pholisi Llywodraeth Cymru.

·       Cododd y Cynghorydd Hugh Irving bryder o ran perfformiad mewn perthynas â chanran y ffyrdd a phalmentydd wedi’u difrodi a wnaed yn ddiogel o fewn y cyfnod targed (CAT1 – Diffygion Categori 1 yr ymdriniwyd â nhw o fewn yr amserlen).  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi bod heriau parhaus mewn perthynas â’r mesur, yn bennaf oherwydd y sefyllfa ariannol ac roedd nifer o swyddi gwag yn y Tîm Priffyrdd a oedd yn cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth.   Roedd y Cynghorydd Irving yn cydnabod y sefyllfa ariannol ond roedd yn teimlo y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i’r mater.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, bu i’r Cynghorydd Gwyneth Ellis ddiolch i’r aelodau am eu cyfraniadau gan dynnu sylw at bwysigrwydd yr adroddiad o ran darparu darlun agored a thryloyw o berfformiad ac offer y Cyngor i nodi cyflawniadau a meysydd i’w gwella o fewn hinsawdd ariannol heriol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2023) a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 30 Tachwedd 2023.

 

 

Dogfennau ategol: