Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWYGIO ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR (2023) SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Tai a Datblygu Lleol (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni adolygiad o Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

 

(b)      cymeradwyo Asesiad diwygiedig o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru;

 

(c)      rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i’r Asesiad drafft o Lety Sipsiwn a Theithwyr cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.  Cafodd hyn ei wneud cyn cyflwyno’r asesiad cyntaf yn 2021 ac roedd wedi’i adolygu yn 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygiadau i’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys atodiad cyfrinachol a oedd yn manylu gwybodaeth bersonol a gofynnwyd i’r Cabinet symud i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud ag asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ac yn cadarnhau bod asesiad y Cyngor wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.   Ers hynny, mae teulu ag anghenion presennol a oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn flaenorol wedi gofyn a allant gael eu cynnwys a chytunwyd i adolygu’r asesiad.   Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen i gefnogi gweithio ar yr asesiad newydd a chafodd eu hadroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2023 a gymeradwyodd eu casgliadau ac argymhellwyd i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, y cefndir o ran sefydlu’r Grŵp gan fanylu ar y gwaith a wnaed a oedd yn dod i benllanw mewn adroddiad terfynol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gasgliadau ac argymhellion y Grŵp.   Roedd y Pwyllgor Craffu wedi cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen: bod methodoleg Llywodraeth Cymru wedi’i defnyddio’n briodol i ddadansoddi’r angen a bod y dull a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yn gadarn ac yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, a’r argymhelliad y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru.   Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen o’r farn bod y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith hwn, gyda chynrychiolaeth aelodau o bob Grŵp Ardal Aelodau, wedi gweithio’n dda ac roedd yr aelodaeth gyfredol yn awyddus i barhau i gydweithio ar waith yn y dyfodol.

 

Aeth y Cynghorydd Win Mullen-James drwy’r adroddiad gyda’r Cabinet.   Yn gryno –

 

·       y ddarpariaeth ychwanegol amcangyfrifedig sydd ei hangen am 5 mlynedd gyntaf cyfnod yr astudiaeth (2023/24 – 2028/29) yw 16 llain preswyl parhaol

·       yn seiliedig ar yr angen erbyn 2033, bydd angen 2 llain preswyl parhaol arall

·       felly, roedd y cyfanswm ar gyfer y cyfnod cyfan ar draws Sir Ddinbych yn 18 llain preswyl parhaol sy’n gynnydd o 6 llain preswyl parhaol o gymharu â’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr blaenorol a gwblhawyd yn 2021

·       nid oedd tystiolaeth o'r angen am safle tramwy parhaol.

 

Anogodd y Cynghorydd Mullen-James y Cabinet i gymeradwyo argymhellion yr adroddiad i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau cyfreithiol.   Yn dilyn ail-gyflwyno’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig, roedd y cam nesaf yn cynnwys nodi safleoedd i fodloni’r anghenion hynny gyda chefnogaeth gan y Grŵp Tasg a Gorffen presennol.   Bu i’r Cynghorydd Mullen-James ganmol y gwaith gwerthfawr a chydweithredol a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen a’r swyddogion ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr ac ategwyd hyn gan yr Arweinydd, y Cabinet ehangach a’r Prif Weithredwr.

 

Bu i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u her drwy gydol y broses gan ailadrodd pwysigrwydd cael methodoleg a dull cadarn fel y dangoswyd yn y gwaith hwn.   Bu i’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai hefyd amlinellu diffiniad lleiniau preswyl a thramwy gyda phwyslais y gwaith presennol ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a nodi’r angen; roedd cam nesaf y broses yn ymwneud â mynd i’r afael â’r angen hwnnw.

 

Bu i’r Cabinet gydnabod yr adroddiad cynhwysfawr ac ymgysylltiad cadarnhaol aelodau a swyddogion ac mae’r canlyniad yn brawf o’r gwaith caled hwnnw.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at yr Asesiad o’r Effaith ar Les sydd wedi’i ddiweddaru ac roedd yn falch o weld bod rhagor o waith wedi’i gynllunio o ran parhau i adeiladu perthnasau gyda’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr a gwella canlyniadau iechyd a lles.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at yr anawsterau achlysurol a achoswyd o ganlyniad i wersylloedd diawdurdod mewn ardaloedd penodol, ac roedd yn teimlo y byddai’n dda archwilio’r posibilrwydd o gael ‘safleoedd sydd wedi’u trafod’ fel y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad i sicrhau bod safle addas ar gael i’w ddefnyddio i fynd i’r afael â’r mater.   Adroddodd y Swyddogion ar y broses gyfredol ar gyfer rheoli gwersylloedd diawdurdod a gwaith y Swyddog Cyswllt Sipsiwn, Roma a Theithwyr i sicrhau ymgysylltiad priodol gyda’r rheiny sy’n teithio trwy Sir Ddinbych a sicrhau bod gwiriadau lles yn cael eu cynnal a bod cyfleusterau wedi’u darparu.   Roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu protocol ar y dull a reolir hwnnw ymhellach a fyddai’n cynnwys cyfranogiad pellach gan aelodau wrth i’r mater fwrw ymlaen.   Derbyniwyd bod meysydd o arfer da ar draws y DU a gwersi i’w dysgu o’r dulliau gwahanol hynny.   Ychwanegodd y Cynghorydd Scott nad oedd tystiolaeth o'r angen am safle tramwy parhaol.  Bu iddo adrodd ymhellach ar ddatblygiad y polisi gwersylloedd diawdurdod a oedd yn ceisio amddiffyn hawliau a chyfrifoldebau Sipsiwn a Theithwyr, preswylwyr lleol a budd-ddeiliaid allweddol a hefyd lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymunedol.   Byddai’r polisi hwnnw yn dilyn y broses ddemocrataidd ar gyfer cymeradwyaeth.   Dywedodd y Cynghorydd Wynne nad oedd tystiolaeth bod angen safle tramwy parhaol ond roedd yn teimlo y byddai’n arfer da, er mwyn paratoi at unrhyw alw yn y dyfodol ac o ystyried yr anawsterau blaenorol a brofwyd, i allu cynnig safle addas at y diben hwnnw.   O ran cynnal gwaith yn y dyfodol, yn cynnwys dewis safle ar gyfer lleiniau, cadarnhawyd mai’r bwriad oedd bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn cymryd rhan yn y broses honno.

 

Ar ddiwedd y ddadl, ailadroddodd yr Aelod Arweiniol y gwaith gwerthfawr a wnaed gan yr aelodau a’r swyddogion ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a bu iddo ddiolch iddynt am eu cyfranogiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni adolygiad o Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

 

(b)      cymeradwyo Asesiad diwygiedig o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru;

 

(c)      rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i’r Asesiad drafft o Lety Sipsiwn a Theithwyr cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.  Cafodd hyn ei wneud cyn cyflwyno’r asesiad cyntaf yn 2021 ac roedd wedi’i adolygu yn 2023.

 

 

Dogfennau ategol: