Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 18/2023/0120/PC - WERN, LLANDYRNOG, DINBYCH

Ystyried cais i newid defnydd stabl i Gyfleuster Gofal Dydd i Gŵn a pharhau i ddefnyddio’r manège ar gyfer defnydd cymysg fel ardal ymarfer ar gyfer cŵn a marchogaeth, a pharhau i ddefnyddio’r tir fel tir amaethyddol ac ardal ymarfer ar gyfer cŵn a marchogaeth (ôl-weithredol) yn Wern, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ôl-weithredol i newid defnydd stablau i Gyfleuster Gofal Dydd i Gŵn, parhau i ddefnyddio’r menage ar gyfer defnydd cymysg fel ardal ymarfer i gŵn a marchogaeth, a pharhau i ddefnyddio’r tir fel tir amaethyddol ac ardal ymarfer ar gyfer cŵn a marchogaeth yn Wern, Llandyrnog, Sir Ddinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Diolchodd Miss Catrin Davies (O blaid) - i’r pwyllgor am gael caniatâd i siarad; hi oedd perchennog y cytiau cŵn; dechreuodd y busnes dair blynedd a hanner yn ôl ac roedd wedi tyfu gydag aelodau niferus o staff, oedd i gyd yn lleol. Roedd yna hefyd wirfoddolwyr ar gyfer y cyfleusterau iechyd meddwl gerllaw i gynorthwyo gyda mynd â’r cŵn am dro i helpu gyda lles a chynyddu eu hannibyniaeth. Roedd yna ymweliadau i gartrefi gofal gyda chŵn llai, ac roedd yna ofal dydd rhad ac am ddim ar y safle ar gyfer cŵn sy’n gwasanaethu.

 

Wrth i’r busnes dyfu, roedd y galw hefyd wedi cynyddu; roedd y gwasanaeth a ddarperir yn galluogi pobl i fynd i’r gwaith gan wybod y gofalir am eu cŵn. Roedd yr ymgeisydd yn ymwybodol o gwynion yn ymwneud â sŵn ac roedd, wrth weithio gyda’r Cyngor, yn edrych ar ddulliau o liniaru llygredd sŵn; un o’r dulliau hyn oedd i ganiatáu cŵn i gael cyfnodau prawf i weld a oeddent yn addas ar gyfer y cytiau cŵn. Hefyd roedd mesurau gwrthsain yn cael eu gweithredu yn yr ysgubor, rhywbeth yr oedd y Cyngor hefyd wedi ei gynghori a hynny ar gost sylweddol i’r busnes. Byddai’r rhain gobeithio yn amlygu sut roedd y busnes yn anelu i leihau lefelau sŵn; roedd yna aelod o staff yn bresennol bob amser yn y cytiau cŵn i fonitro’r lefelau sŵn. Hefyd amlygodd Miss Davies fod yr asesiad lefel sŵn wedi ei gynnal yn unol â’r broses gynllunio.

 

Nododd Mr Thomas Brock (Yn erbyn) – ei fod yn siarad ar ran y grŵp o breswylwyr a oedd yn gwrthwynebu’r cais ar ddwy sail - fod y safle yn anaddas a’r problemau sŵn dros bymtheg mis.  Roedd yna ddiffyg gwrthwynebiad ar y porth cynllunio gan arbenigwr gyda gwybodaeth yn ymwneud â’r safle, nad oedd yn bodloni safonau cenedlaethol, yn ymwneud â phryderon ynglŷn â ffensys a’r llwybrau cyhoeddus ar y safle. Nid oedd dim o fewn y cais yn ymwneud ag indemniadau cytundebol ac atebolrwydd cyhoeddus statudol; roedd y rhain yn faterion hynod o sensitif.   Roedd llety gwyliau yn amgylchynu’r safle ac roedd ger llwybr Clawdd Offa, a hefyd ystyriwyd yr ardal ar gyfer y posibilrwydd o barc cenedlaethol; amlygodd Mr Brock y gallai mwy gael ei golli na’i ennill gan y gymuned leol.

 

Mae polisi Cynllunio yng Nghymru yn nodi fod angen gwarchod amwynderau lleol; fodd bynnag bu’n rhaid i breswylwyr ymdrin â phroblemau sŵn am bymtheg mis, a oedd wedi eu hamddiffyn gan warchod y cyhoedd. Gosodwyd amodau lliniaru sŵn ar y safle; roedd angen tystiolaeth fod y rhain yn cael eu gweithredu cyn y byddai unrhyw gynnydd o ran y cŵn a gâi eu caniatáu ar y safle. Roedd llawer o feddwl wedi ei roi o ran yr amodau, byddai angen i’r lliniaru o ran y sŵn fod o safon Brydeinig, a dylai’r gwaith yn sgil y mater gael ei gynnwys yn yr amodau fel gofyniad cyfreithiol. Hefyd fe fu sawl achos o dorri’r rheolau o ran niferoedd ar y safle; roedd masnachu o ran busnes wedi digwydd cyn y rhoddwyd trwydded ar 31/12/22. Ar y ddau bwynt technegol hwn yn unig, y cynsail safonol fyddai i wrthod y cais a chyfeirio’r mater at y cyrff rheoleiddio. Amlinellodd Mr Brock os byddai’r materion hyn yn parhau, byddai’r grŵp yn defnyddio eu hawl i fwrw ymlaen gyda’r awdurdodau perthnasol.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Gwahoddodd y cadeirydd y rheiny a ymwelodd â’r safle i ddweud eu dweud am y cais yn dilyn eu hymweliad.

 

Nododd y Cynghorydd Chris Evans ei fod yn credu fod y safle yn un da; roedd y ganolfan yn gofalu am y cŵn ar y safle, ac roedd y perchennog yn angerddol ynglŷn â’r gofal a ddarparwyd. Roedd yn deall y pryderon roedd y preswylwyr wedi eu codi, fodd bynnag roedd yn teimlo fod y rhain wedi eu lliniaru drwy’r amodau a osodwyd.

 

Roedd y Cynghorydd Peter Scott yn teimlo fod y problemau sŵn yn ymddangos yn iawn yn ystod yr ymweliad. Roedd y safle yn ddigon pell o unrhyw ardaloedd preswyl, a gofalwyd am y safle a’i gynnal yn dda.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Alan James yr hyn y nododd y Cynghorydd Scott ac roedd yn teimlo’n fodlon gydag argymhellion y swyddog a’r amodau.

 

Darllenodd y Cynghorydd Peter Scott ddatganiad ar ran y Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol) yn ei absenoldeb - ymddiheurodd am beidio â bod yn bresennol. Roedd wedi gweithio gyda’r ymgeisydd a’r gwrthwynebwyr ar y safle; roedd yn deall y pryderon oedd wedi eu codi; fodd bynnag, roedd yn teimlo y byddai’r amodau a gynigiwyd yn lliniaru’r pryderon hyn. Wrth gloi dywedodd pe byddai’n bresennol, byddai wedi llwyr gefnogi’r cais.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Delyth Jones y cais, ac mae’r camau a osodwyd i fynd i’r afael â phryderon wedi bod yn gadarnhaol. Nododd fod cynnwys amod ar gyfer arwyddion ar gyfer y llwybrau cyhoeddus gerllaw yn dda gan y byddent yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleuster gofal cŵn. Ymatebodd y swyddog fod cynnwys yr amod yn ddewis hyfyw pe byddai’r pwyllgor eisiau ei gynnwys gydag unrhyw gynigion.

 

Holodd aelodau’r pwyllgor y swyddogion sut y gellid gwirio’r mesurau gwrthsain; eglurodd swyddogion fod yna amod o gynllun rheoli sŵn: byddai gan ymgeisydd ddeufis i osod yr inswleiddiad sŵn yn llawn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r cadeirydd am y cyfle i siarad; amlygodd y sylwadau a godwyd yn gynharach yn y cyfarfod a sut y gellid tybio eu bod yn sarhaus i’r pwyllgor; nododd o brofiad personol gyda chytiau cŵn ger ei gartref fod llygredd sŵn yn digwydd yn anaml, nododd i gloi yr ymdrinnir â’r pryderon ynglŷn â’r safle ac unrhyw lygredd sŵn drwy’r amodau arfaethedig.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amod ychwanegol fod arwyddion yn cael eu gosod o amgylch llwybrau cyhoeddus y safle, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

Pleidlais –

O blaid – 19

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: