Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETHAU BWS A GOSTYNGIADAU

Dylid ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Prif Swyddog ar gyfer Tir y Cyhoedd (copi yn amgaeedig) gan ymgynghori’r Cabinet am oblygiadau gostyngiad cyllid Llywodraeth Cymru a’r effeithiau fyddai hynny yn ei gael ar wasanaeth bws. Nodir yn yr adroddiad fod angen cymeradwyaeth y Cabinet ar y cynlluniau ynglŷn â gostyngiadau’r gwasanaeth bws yn 2012/13 a 2013/14.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn hysbysu’r Cabinet o oblygiadau gostyngiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru, yr ymgynghoriad dilynol ar leihad yn y gwasanaethau bws a thoriadau arfaethedig yn y gwasanaethau bws yn 2012/13 a 2013/14.

 

Dywedwyd wrth Aelodau am y cefndir i’r cynigion presennol a oedd yn codi o doriadau mewn cyllid grant a delir tuag at wasanaethau bws lleol ynghyd  ag effaith potensial adolygiad gweinidogol ar y ffordd y byddai grantiau yn y dyfodol yn cael eu rheoli. Fe gychwynnodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau broses ymgynghori â theithwyr a chymunedau ar gyfres o doriadau posibl a gafodd eu hadolygu wedyn gan Weithgor Gostyngiadau yn y Gwasanaeth Bws (Atodiad 1 i’r adroddiad).  Roedd cynigion y Gweithgor ar gyfer 2012/13 wedi eu nodi yn yr adroddiad ynghyd â chynigion ar gyfer 2013/14 (Atodiad 2 i’r adroddiad).  Roedd asesiad o effaith ar gydraddoldeb o ran y gostyngiadau potensial wedi ei gynnwys hefyd (Atodiad 3 i’r adroddiad).  Roedd y Cynghorydd Smith yn awyddus i amlygu’r gwaith caled a’r ymdrech a wnaethpwyd i gyrraedd yr argymhellion a gynhwysir o fewn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones at nifer o lwybrau a cheisiodd eglurder ar gynigion potensial yn y dyfodol ar gyfer yr ardaloedd hynny gan fod angen sicrhau na fyddai amserlennu gwasanaethau’n gorffen yn rhy fuan ac y byddai cymaint o bobl ag sydd bosib yn cael eu cynnwys os byddai newidiadau’n ofynnol.  Fe sicrhaodd Rheolwr Adran: Cludiant Teithwyr (RhA:CT) y Cabinet fod nifer o newidiadau i’r amserlen wedi eu hystyried er mwyn cyflawni’r ateb gorau posib gan ystyried yr angen am arbedion.  O ran y gwasanaethau penodol y cyfeiriwyd atyn nhw gan y Cynghorydd Jones, dywedodd y RhA:CT) -

 

·        Gwasanaeth X5 (Corwen - Rhuthun/Dinbych) - roedd sawl ymateb i ymgynghoriad yn cael eu hystyried.  Nid oedd y gwasanaeth yn perfformio’n dda ac roedd 1640 a 1740 yn cael eu harchwilio. Roedd y 1640 yn brysurach ond 1740 oedd y bws olaf felly canlyniad posib fyddai newid amser y gwasanaeth i 1710 i allu cymryd cymaint o deithwyr ag sydd bosib.

 

·        Roedd addasiadau a gynigir i wasanaethau 70/77 (Betws/Clawdd/Cyffylliog/Llanelidan i Ruthun) wedi eu nodi yn Atodiad 4 i’r adroddiad.  Roedd addasiadau a gynigiwyd wedi eu gwneud hefyd i wasanaethau 91/95 (Betws/Carrog i Langollen neu Wrecsam) a byddai hynny’n golygu rhai arbedion gweddol fach ond roedd angen ymgynghoriad ar y cynigion gydag aelodau lleol cyn cylchredeg yn ehangach.

 

Ceisiodd Aelodau eglurhad ar yr argymhelliad arfaethedig a oedd yn ymwneud â chludiant cleifion i Ysbyty Abergele.  Esboniodd y RhA:CT fod trafodaethau’n gyfredol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ariannu peilot i allu delio â cheisiadau teithwyr i fynd i’r clinig llygaid sydd wedi ei drosglwyddo (o Lanelwy i Abergele).  Ond, pe byddai’r peilot yn aflwyddiannus cynigiwyd bod y Cyngor yn cyflwyno rhywfaint o ddarpariaeth cludiant sylfaenol ar gyfer cleifion.  Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley y dylai BIPBC gymryd cyfrifoldeb am gludiant oherwydd y newidiadau i wasanaethau cleifion yr oedden nhw wedi eu cyflwyno.  Cytunai’r Cynghorydd Eryl Williams gan ychwanegu fod y Cyngor â’i gyfrifoldebau ei hun o ran darpariaeth cludiant a phe byddai’r Cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb ychwanegol byddai hynny ar draul gwasanaethau pwysig eraill.  Cafwyd trafodaeth faith ar hyn gan bwysleisio fod cludiant yn broblem sylweddol i BIPBC ei ystyried o ran newidiadau i leoliad gwasanaethau cleifion a oedd yn anochel dan y cynigion a oedd yn codi o Adolygiadau Gwasanaeth y GIG.  Roedd angen ceisio sicrwydd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw.  Fe atgoffaodd y Cynghorydd Smith yr aelodau ei fod wedi amlygu’r angen i BIPBC lunio Strategaeth Gludiant i ddelio â’r patrwm gwasanaethau newydd a gynigiwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai mater cludiant yn cael ei gynnwys o fewn ymateb ffurfiol y Cyngor i Adolygiadau Gwasanaeth BIPBC.  Holodd y Cynghorydd Barbara Smith ynglŷn â nifer y cleifion a oedd yn cael eu heffeithio gan drosglwyddiad y clinig llygaid i Ysbyty Abergele ac fe esboniodd y RhA:CT nad oedd yna unrhyw ddata penodedig o ran defnydd cludiant teithwyr ond roedd cyfradd yr apwyntiadau nad oedden nhw’n cael eu cadw’n hysbys ac roedd yn ymwybodol fod hyn yn broblem i nifer o gleifion.  Tra bod rhai cleifion yn gallu defnyddio cludiant gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Galw’r Gyrrwr, doedd y gwasanaethau hynny ddim ar gael yn gyffredinol i’r cyhoedd.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi’r ymgynghoriad cyhoeddus arwyddocaol ar y cynigion a mewnbwn y Grŵp Cludiant Gwledig o fewn y broses a chymeradwyodd waith caled y rheiny a oedd yn ymglymedig. Fodd bynnag, fe fynegodd bryderon ynglŷn â chanfyddiadau’r adolygiad gweinidogol a’r effaith ar awdurdodau lleol a TAITH (Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol).  Dywedodd y Cynghorydd Smith ei fod wedi gofyn i Brif Weithredwr TAITH, Mr Iwan Prys Jones, roi cyflwyniad i’r Cyngor Sir unwaith y byddai canlyniad yr adolygiad gweinidogol yn hysbys.

 

PENDERFYNWYD 

 

(a)       bod y gostyngiadau ar gyfer 2012/13 fel y’u cynigiwyd ym mharagraff 4.6 i’r adroddiad i’w gwneud gyn gynted ag sydd bosib;

 

(b)       gwneud y gostyngiadau a nodir ym mharagraff 4.7 i’r adroddiad ac Atodiad 2 i’r adroddiad ar neu o ddydd Llun, Ebrill 1, 2013 yn amodol ar adolygiad gweinidogol ac unrhyw drefniadau newydd gyda gweinyddu grantiau ar gyfer gwasanaethau bws yn 2013/14;

 

(c)        bod sylwadau i’w rhoi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ariannu gwasanaeth car cymunedol er mwyn cludo cleifion i’r clinig llygaid yn Abergele os byddai cyllid peilot Ysbyty Abergele’n aflwyddiannus,

 

(d)       pe byddai yna leihad mantoli ymylol, y dylid dirprwyo hyn i’r Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar y Cyd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd.

 

 

Dogfennau ategol: