Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR

Ystyried adroddiad (ynghlwm) gan y Rheolwr Prosiect Corfforaethol ar yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

11:15 – 11:45

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio adroddiad yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr  (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i Aelodau.

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru bob 5 mlynedd. Cyflawnodd y Cyngor yr asesiad rhwng Awst a Hydref 2021, a chafodd ei gyflwyno i LlC ar 24 Rhagfyr 2021.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet a chyflwyno’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru, cysylltodd deulu gydag angen, a oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn flaenorol, â’r Cyngor i ofyn am gael eu cynnwys.

 

Yn dilyn adroddiad i Friffio’r Cabinet ar 9 Ionawr 2023 ail-sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr er mwyn cefnogi’r gwaith ar yr asesiad newydd. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi gorffen ei waith ac roedd yr adroddiad terfynol gan y Grŵp wedi’i atodi fel Atodiad 1. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu canlyniadau gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Amlinellodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen gasgliadau’r grŵp a’r gwaith a gwblhawyd fel a ganlyn:

·       Cafodd y Grŵp Tasg a Gorffen 4 cyfarfod a chynhaliodd yr ymgynghorwyr, ORS, gyfweliadau gyda’r teulu ychwanegol a chynhaliwyd adolygiad ysgafn gyda’r teuluoedd a oedd wedi ymgysylltu â’r broses asesu yn y gorffennol i sicrhau bod eu canfyddiadau’n dal i fod yn berthnasol.   Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn fodlon bod y broses gywir wedi cael ei dilyn.

·       Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn fodlon fel grŵp bod canfyddiadau ac argymhellion yr asesiad yn ganlyniad o ddilyn methodoleg Llywodraeth Cymru a defnyddio dull cadarn o weithio.

·       Fel grŵp, teimlwyd bod Grŵp Tasg a Gorffen Aelodau gydag aelod etholedig o bob Grŵp Ardal aelodau wedi gweithio’n dda, ac y byddai’r dull yn fuddiol ar gyfer gwaith i’r dyfodol. 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith caled ac i’r Cynghorydd Scott am ei rôl fel Cadeirydd. 

Pwysleisiodd y Rheolwr Prosiect Corfforaethol rwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor.  Roedd Deddf Tai (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor gynnal a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru.  Roedd cyfrifoldeb hefyd i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion a nodwyd.

 

Roedd y Bwrdd Prosiect yn arwain y prosiect, gan gynnwys Uwch Swyddogion a’r Aelod Arweiniol, ac roedd yr holl waith yn cael ei oruchwylio gan y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Gan gydnabod yr angen a nodwyd o fewn yr Asesiad ar gyfer caeau preswyl, gofynnodd aelodau pam nad oedd angen ar gyfer darpariaeth dramwy wedi cael ei nodi.   Rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion wybod er bod achosion o wersylla anghyfreithlon yn codi ar draws y sir o bryd i’w gilydd, dim ond am gyfnodau byr oedd yr achosion hyn gan amlaf ac roeddent yn cael eu rheoli a’u trafod yn fwy effeithiol drwy ddull rhesymegol a goddefol.   Dyma oedd barn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr hefyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd am y diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Soniodd Aelodau am y broses well sydd ar waith a’r gwaith rhagorol a gwblhawyd, a fyddai’n cefnogi datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) maes o law.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod a’r Swyddogion am eu hadroddiad.

 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd:

 

(i)             cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen bod methodoleg Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio’n briodol i’r dadansoddiad o angen;

(ii)           cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

(iii)         argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft diwygiedig i’w ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru; a

(iv)         chadarnhau ei fod, fel rhan o’i ystyriaeth o’r wybodaeth a ddarparwyd, wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, Atodiad 3 i’r adroddiad - a gwblhawyd cyn yr asesiad cyntaf yn 2021 ac a adolygwyd yn 2023.

 

Dogfennau ategol: