Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TARIFFAU MEYSYDD PARCIO

Ystyried adroddiad (ynghlwm) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd ar y newidiadau arfaethedig i bolisi tariffau meysydd parcio’r Cyngor a strwythurau tariff cysylltiedig.

 

10:15 – 11:00

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd a’r Amgylchedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Tariffau Meysydd Parcio’r Cyngor a’r strwythurau tariff cysylltiedig.

 

Amlygodd yr Aelod Arweiniol y pwysau ar gyllideb y Cyngor ac eglurodd fod y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd parcio’n ffordd o ddod ag arian i’r Cyngor.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd egluro’r cynnydd arfaethedig mewn prisiau ym meysydd parcio’r Cyngor, newidiadau i gyfnodau codi tâl yn y meysydd parcio a’r posibilrwydd o gyflwyno ffioedd mewn rhai meysydd parcio sydd am ddim ar hyn o bryd.

Pwysleisiodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fod y newidiadau arfaethedig i’r tariffau parcio’n rhan o benderfyniad Corfforaethol ar arbedion ac yn ffordd o ddod ag incwm i’r Cyngor.  Roedd y cynigion hefyd yn cynnwys adolygu’r opsiynau talu sydd ar gael mewn meysydd parcio ac adolygu’r oriau lle mae’r Cyngor yn codi tâl.

Nid oedd tariffau meysydd parcio’r Cyngor wedi cael eu hadolygu ers 2016, felly, fel gwasanaeth, teimlwyd ei fod yn rhesymol eu hadolygu nawr yn sgil yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.  Nodwyd hefyd y byddai’r newidiadau arfaethedig i dariffau parcio’n gyfraniad cadarnhaol at sefyllfa ariannol y Cyngor. 

 

Dan bwerau dirprwyol, y Pennaeth Gwasanaeth fyddai yn y pen draw yn penderfynu ar y newidiadau arfaethedig i dariffau parcio, fodd bynnag, nodwyd y byddai swyddogion yn gweithio’n agos gydag Aelodau i geisio eu barn ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd.  Rhan arall o’r broses fyddai i swyddogion weithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu Cynllun Ymgysylltu â grwpiau amrywiol a fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau. 

 

Rydym yn bwriadu parhau i gynnig ein hamrywiol fentrau parcio am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys parcio am ddim ar ôl 3pm ym mhob un o’n meysydd parcio talu ac arddangos canol tref o ddiwedd Tachwedd tan 31 Rhagfyr bob blwyddyn. Roedd yr ychydig fannau parcio am ddim am gyfnodau byr a oedd i’w gweld yn rhai o’n meysydd parcio talu ac arddangos hefyd yn parhau. Yn olaf, byddai’r Cyngor yn parhau i gynnig 5 diwrnod parcio am ddim bob blwyddyn ym mhob Dinas, Tref a Chymuned y mae gennym ni gyfleusterau parcio talu ac arddangos  ar waith ynddyn nhw.

 

Roedd Asesiad o Effaith ar Les ynghlwm â’r adroddiad i’w ystyried gan aelodau. 

 

Arweiniodd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd yr Aelodau drwy bwyntiau allweddol yr adroddiad fel a ganlyn - 

 

·       Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o dariffau parcio yn 2016.

·       Wrth ystyried cynyddu’r prisiau parcio, ystyriodd y Cyngor y prisiau y mae Cynghorau Sir eraill Gogledd Cymru yn eu codi, a’r chwyddiant rhwng 2016 a 2023, gan gynnwys lwfans “diogelu ar gyfer y dyfodol” ar gyfer lefelau chwyddiant uchel parhaus.

·       Mae prisiau ein meysydd parcio’n weithredol rhwng 8am a 5pm ar hyn o bryd. Cynigwyd ein bod yn ymestyn y cyfnod hwn fel bod angen talu rhwng 8am ac 11pm.

·       Cynigwyd cynyddu costau trwyddedau parcio fel y nodir yn atodiad D (a oedd ynghlwm â’r adroddiad). 

·       Roedd y cynnig yn cynnwys gwaredu’r tariff 30 munud, Cyngor Sir Ddinbych oedd yr unig Gyngor a oedd yn cynnig y tariff hwn ar hyn o bryd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd aelodau am fanylion cynnal a chadw’r meysydd parcio fel y cytunwyd yn yr adolygiad diwethaf o’r tariffau yn 2016.  Mynegodd aelodau bryderon am ymddangosiad cyffredinol y meysydd parcio yn eu wardiau.

 

Nododd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad bod cynllun buddsoddi ar waith, gyda chynllun buddsoddi’n cael ei ddatblygu ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd rhwng 2024 a 2029.  Byddent yn hapus i gyflwyno hyn i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.  Roedd sawl enghraifft lle gwnaed buddsoddiadau mewn meysydd parcio gan gynnwys gosod peiriannau talu ynghyd â dulliau talu â cherdyn, arian parod a digyswllt.  Roedd £2 filiwn wedi cael ei fuddsoddi mewn meysydd parcio hyd yma. 

 

Holodd Aelodau am y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cynnig unrhyw fanylion ar ffioedd parcio dros nos a nodwyd y byddai hyn yn fuddiol i berchnogion cartrefi modur.  Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn cydnabod bod cynnydd yn y galw am barcio dros nos ar gyfer perchnogion cartrefi modur a byddai hyn yn cael ei ystyried. 

 

Gofynnodd Aelodau am amlder yr adolygiad o dariffau parcio ac ai 7 mlynedd oedd y cylch adolygu safonol.  Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd bod y tariffau wedi cynyddu’n sylweddol yn dilyn yr adolygiad diwethaf yn 2016 ac felly cytunwyd na fyddai adolygiad arall yn cael ei gynnal am flynyddoedd yn dilyn hyn, gan fod costau ynghlwm â gweithredu cynnydd i’r ffioedd h.y. ail-raglennu’r peiriannau talu ac arddangos.  Fodd bynnag, yn sgil y cyfraddau chwyddiant presennol, roedd angen adolygu tariffau’n amlach.

 

Mynegodd Aelodau bryderon am waredu’r tariff 30 munud gan ddatgan fod y cyhoedd yn manteisio ar y tariff hwn wrth ymweld â’u stryd fawr leol.  Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd eu bod wedi trafod y tariff 30 munud yn ystod y broses gynnig a chytunwyd i waredu’r tariff.  Roedd llefydd parcio arhosiad byr am ddim ar bob stryd fawr yn Sir Ddinbych.  Nodwyd hefyd fod y data a gasglwyd yn dangos nad oedd cyfran uchel o’r cyhoedd yn defnyddio’r tariff 30 munud.

 

Cyfeiriodd Aelodau at yr Asesiad o Effaith ar Les ac arolwg a gwblhawyd ar effaith ffioedd parcio ar fusnesau lleol ar y stryd fawr a gofynnwyd am ragor o fanylion am hyn.  Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd eu bod yn awyddus i ymgysylltu a chynnal sgyrsiau â busnesau lleol ar y stryd fawr i egluro iddynt pam bod y Cyngor yn cynnig cynyddu ffioedd parcio a’r ffordd orau i hyrwyddo llefydd parcio am ddim a’r mentrau a oedd ar waith. 

 

Os byddai’r ffioedd yn cael eu cyflwyno ar ôl 5pm, gofynnodd aelodau a fyddai modd cynnig ffioedd ar gyfradd is ar ôl 5pm.   Teimlwyd y gallai cyflwyno un tariff cyffredinol ar gyfer y dydd a’r nos gael effaith niweidiol ar grwpiau a digwyddiadau cymunedol ac ati. Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ostwng y ffioedd ar ôl 5pm, fodd bynnag, gellid ystyried hyn. 

 

Gofynnodd aelodau am fannau gwefru ceir trydan a phwy oedd wedi talu am y rhain.  Gofynnodd aelodau hefyd a oedd gofyn i unigolion a oedd yn defnyddio mannau gwefru dalu i barcio’r car, a phwy oedd yn derbyn yr arian.   Mewn ymateb i hynny, rhoddodd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd wybod i’r Pwyllgor bod dau brosiect ar waith ar hyn o bryd.  I ddechrau, gosodwyd mannau gwefru ceir trydan mewn 8 maes parcio ar draws y sir, ac ariannwyd y rhain drwy grant gan Lywodraeth y DU a chyllid cyfalaf Sir Ddinbych.  Roedd cwmni a gontractiwyd yn gyfrifol am reolaeth ddyddiol meysydd parcio gyda mannau gwefru.  Rhannwyd yr incwm a gynhyrchwyd o’r mannau gwefru rhwng y cwmni a gontractiwyd a’r Cyngor.   Ariannwyd yr ail brosiect a oedd ar waith ym meysydd parcio swyddfeydd y Cyngor yn bennaf ac yn cynnwys rhai meysydd parcio cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Sir Ddinbych yn derbyn yr incwm.  Nodwyd bod defnyddwyr y mannau gwefru yn talu am barcio a’r defnydd o fannau gwefru ar wahân.

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai cynnydd yn nifer y swyddogion gorfodaeth parcio yn unol â’r cynnydd yn yr oriau gweithredu ffioedd parcio.  Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd y byddai angen ymestyn y gwaith gorfodaeth parcio, roedd y manylion ynghylch sut fyddai hyn yn cael ei reoli’n cael eu mireinio. 

 

Soniodd Aelodau am effaith y cynllun parcio am ddim ar ôl 3pm ar brif strydoedd lleol a gofynnwyd a oedd unrhyw ddata ar yr effaith.  Nododd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Stryd nad oedd unrhyw ddata ar gael am hyn ar hyn o bryd, fodd bynnag, roeddent wedi derbyn adborth cadarnhaol gan fusnesau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a'r atebion a roddwyd i bryderon yr aelodau.  Wrth gloi’r drafodaeth, cytunodd y swyddogion i archwilio’r awgrymiadau canlynol a gyflwynwyd gan aelodau yn ystod y drafodaeth ymhellach:

·       cyflwyno ffioedd gostyngol/rhatach ar gyfer parcio gyda’r nos (h.y. rhwng 5pm ac 11pm er mwyn annog pobl i fynychu grwpiau/digwyddiadau cymunedol)

·       y posibilrwydd o gadw’r cynllun parcio 30 munud am ddim neu gyflwyno ffi is ar gyfer hyd at 30 munud

·       y posibilrwydd o gynnig llefydd parcio am ddim drwy’r dydd ar ddydd Sadwrn yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig yn hytrach na’r trefniant presennol o gynnig llefydd parcio am ddim ar ôl 3pm bob dydd

·       trafod y ffioedd arfaethedig ar gyfer meysydd parcio unigol gyda phob Grŵp Ardal Aelodau cyn eu cyflwyno.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd cyflwyno’r Cynllun Buddsoddi ym Meysydd Parcio Sir Ddinbych drafft i’r Pwyllgor cyn ei weithredu a gofynnodd a fyddai modd anfon rhagor o wybodaeth am yr incwm a’r gwariant mewn perthynas â meysydd parcio at Aelodau Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Nododd y Rheolwr Diogelwch Traffig, Parcio a Ffyrdd fod meysydd parcio Sir Ddinbych yn cynhyrchu £1.3 miliwn o incwm i’r Cyngor a chytunodd i rannu adroddiad gwybodaeth â’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

 

Felly, ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd:

 

(i)             yn amodol ar ystyried y materion a’r awgrymiadau a godwyd yn y drafodaeth ymhellach, cefnogi’r cynnydd arfaethedig mewn ffioedd parcio a’r newidiadau arfaethedig eraill sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad;

(ii)           gofyn i’r Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio Sir Ddinbych 2024-29 gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried yn gynnar yn 2024 cyn ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.

 

 

 

Ar y pwynt hwn, newidiwyd trefn y rhaglen gyda chymeradwyaeth y Cadeirydd fel a ganlyn: symud eitem 7 ’y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff’ i eitem 6 ar y rhaglen.

 

Dogfennau ategol: