Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Aelodau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Samuel Jones am gyfarfod o Gyngor Cymuned Llanfair DC a gynhaliwyd am 7.30pm nos Lun 30 Hydref 2023.   Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Fe ddatganodd y Cadeirydd gysylltiad personol er na wnaeth hi ddweud yn benodol at ba eitem ar y rhaglen yr oedd yn berthnasol, mae’n ymddangos ei fod yn ymwneud ag eitem i adolygu gohebiaeth.  Gan mai dim ond adolygu gohebiaeth oedd o, ac am nad oedd penderfyniad yn cael ei wneud, mae’n ymddangos bod yr aelod wedi ymddwyn yn unol â’i datganiad.  Roedd y Cadeirydd a’r Clerc yn effeithlon iawn yn symud ymlaen â’r eitemau, tra’n rhoi amser priodol i drafod pob un.  Ar y cyfan, cafodd y cyfarfod ei gynnal yn broffesiynol ac roedd y drafodaeth yn adeiladol.  Roedd yn hawdd cysylltu â’r Clerc ac roeddent yn ymateb i negeseuon. 

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Dyserth a gynhaliwyd am 7pm ar 9 Hydref 2023.  Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd Clerc y cyfarfod yn drefnus iawn, ac roedd gwybodaeth yn cael ei gyflwyno’n glir ar sgrin fideo.  Roedd y Pwyllgor yn gyfeillgar a chwrtais gyda’i gilydd ac roeddynt yn parchu’r Cadeirydd.  Roedd y Clerc wedi drysu braidd ynglŷn â rôl y Pwyllgor y Safonau, gan feddwl bod ganddo sgôp ehangach dros Gyngor Sir Ddinbych (CSDd).  Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, ac roedd hi’n hawdd cysylltu â’r Clerc a oedd yn darparu’r rhaglen a chofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Rhuthun a gynhaliwyd am 7pm ar 20 Tachwedd 2023.   Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd y cyfarfod yn un hybrid ac roedd yn gweithio’n dda, ac roedd pob cyfranogwr yn dilyn y drafodaeth.  Roedd y seddi i’r cyhoedd y tu ôl i’r Pwyllgor, ac roedd hyn ei gwneud hi’n anodd clywed ar adegau.  Dylid atgoffa Pwyllgorau y dylai’r cyhoedd allu clywed y trafodaethau’n glir.  Ar y cyfan, roedd y pwyllgor wedi’i drefnu’n dda ac roedd cysylltu â’r Clerc yn syml ac roeddynt yn ymatebol. 

 

·       Fe soniodd y Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cynwyd a gynhaliwyd am 7.30pm ar 8 Tachwedd 2023.  Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd Clerc y cyfarfod yn gymharol newydd i’r Cyngor ac roedd yn dysgu’r rôl gan nad oeddynt wedi bod yn Glerc o’r blaen. Fe fu yna gyfnodau hir pan nad oedd gan y Cyngor Glerc, ac ar adegau bu’r Clerc blaenorol yn absennol oherwydd salwch.  Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ddwyieithog ac roedd y rhaglen yn ddwyieithog.  Cymerodd dri aelod o’r cyhoedd ran drwy gydol y cyfarfod ar eitemau amrywiol ar y rhaglen.  Serch hynny fe drafodwyd offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn sgil y costau, fe gytunwyd nad oedd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor ar hyn o bryd.  Roedd y Cyngor yn cael trafferth llenwi swyddi gwag Cynghorydd a Chlerc gan ei fod yn ymddangos nad oedd papurau a dogfennau wedi cael eu dosbarthu i bob Aelod.

 

·       Fe soniodd y Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cyffylliog a gynhaliwyd am 7pm ar 9 Tachwedd 2023.  Cyn i’r cyfarfod ddechrau, fe’i gwnaed hi’n glir y byddai angen annog Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau gan nad oedd gan Gynghorwyr ddealltwriaeth am ddatgan cysylltiadau.  Roedd y rhaglen yn cynnwys 18 eitem a chafodd pob un eu trafod yn y cyfarfod. Cafwyd trafodaeth am gyrsiau hyfforddiant Un Llais Cymru, gyda pheth dryswch dros gyrsiau gorfodol a gwirfoddol, a faint y byddai’n rhaid iddynt eu mynychu.

Trafododd yr Aelodau y gwahaniaeth rhwng gwaith Clercod mewn Cynghorau Cymuned a gofynnwyd a ddylid cynnig hyfforddiant i sicrhau parhad.  Fe eglurodd y Swyddog Monitro bod hyfforddiant Cod Ymddygiad yn cael ei gynnig i Glercod, ond Cynghorau Cymuned ddylai ddarparu hyfforddiant i Glercod, serch hynny roedd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig cyngor anffurfiol i Glercod. 

Cytunodd yr Aelodau y byddai’r canlynol yn cael ei gynnwys yn yr adborth cyffredinol a roddir i Gynghorau Cymuned - 

‘Mae ymweliadau â Chynghorau Cymuned wedi dangos pwysigrwydd Clercod cymwys er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon wrth roi cymorth digonol i’r Cadeirydd’. Cytunodd yr Aelodau ymhellach y dylid ychwanegu eglurder ar ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned. 

 

PENDERFYNWYD: y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau llafar oddi wrth Aelodau a fu yn y cyfarfodydd.