Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2022-23

Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG 2022-23.

 

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau eu harwain trwy’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. 

 

Arweiniwyd yr Aelodau drwy bob adran yn yr adroddiad. Roedd adran flaen adroddiad CYSAG Sir Ddinbych yn cynnwys prif swyddogaethau’r CYSAG. 

 

Roedd y penawdau ar y dudalen gynnwys wedi cael eu defnyddio yn flaenorol ac roeddent wedi’u cymryd o hen ddogfen a oedd yn arwain pwyllgorau trwy’r maes llafur cytunedig a’r hyn yr oedd angen adrodd arno. Nid oedd rhai o’r gofynion blaenorol hynny mor berthnasol erbyn hyn. Byddai sut roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol yn dra gwahanol pan gafodd y penawdau eu creu am y tro cyntaf. Dywedodd wrth yr Aelodau fod CCYSAGC wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gofynion sydd eu hangen yn yr adroddiad blynyddol. Roedd cais wedi’i gyflwyno am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. 

 

Cadarnhaodd Jennie Downes, sy’n aelod o’r CCYSAGC fod llawer o waith cefndirol yn cael ei wneud o ran sut y caiff CCYSAGC ac felly pwyllgorau CYSAG eu cynnal.  Roedd y cyfan yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn eglur o ran beth yw rôl y CYSAG a sut mae’r cyfan yn cyd-fynd â’r darlun ehangach. Cadarnhaodd y byddai’n rhoi gwybod i’r pwyllgor pe bai unrhyw ddatblygiadau pellach yn cael eu datgelu. 

 

Ar hyn o bryd, roedd yna ddwy ffrwd waith, CYSAG ar gyfer Addysg Grefyddol a CYSAG ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod popeth yn cael ei gadw a’i drafod gyda’i gilydd, yn yr un fforwm. Teimlwyd bod y ddau faes yn cael eu cadw ar wahân yn yr adroddiad blynyddol. Pwysleisiwyd bod yna wahaniaeth rhwng y ddau faes pwnc. 

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn dal i fod o dan y teitl Adroddiad Blynyddol y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, ond roedd rhywfaint o’r cynnwys yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a rhywfaint yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

Awgrymwyd y gellid newid y teitl i gynnwys y ‘Cyngor Ymgynghorol Sefydlog’.  Roedd yr Aelodau yn cytuno â’r newid a awgrymwyd. 

 

Cafodd y crynodeb gweithredol ei gyflwyno cyn yr adroddiad blynyddol yn y pecyn.  Roedd yn cynnwys llawer o fanylion ynghylch y maes llafur cytunedig, ac roedd y maes llafur cytunedig ar gyfer Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn amlwg ar wahân. 

Fel y gwnaed yn flaenorol, roedd canlyniadau arholiadau wedi cael eu cynnwys. Pe bai ysgolion yn gofyn am unrhyw gefnogaeth gydag Addysg Grefyddol neu Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, byddai’r Prif Reolwr Addysg a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn fodlon iddynt gysylltu â nhw a chynnig cefnogaeth fel y bo’n briodol.  

Nid oedd adroddiadau arolygu Estyn yn barnu pynciau. Cafodd sylwadau eu gwneud mewn perthynas â’r agweddau Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. 

Roedd yr argymhellion gan Estyn yn berthnasol o hyd, ac roeddent ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr adnoddau a oedd ar gael i ysgolion. Roedd hyn yn cynnwys fideo yn trafod y maes llafur cytunedig a rhan Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd, yn ogystal â dolenni i ganllawiau ategol yn canolbwyntio ar gysyniadau, lensys a’r teithiau. 

Roedd GwE wedi trefnu digwyddiadau dan y teitl ‘Dadbacio a Deall MDaPh y Dyniaethau’. Roedd 2 sesiwn wedi’u trefnu. Roedd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar ddeall yr elfennau gorfodol a’r ail yn canolbwyntio ar ddulliau cynllunio ac asesu.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys dolenni i’r cyflwyniadau a’r dogfennau hynny. 

Roedd yr holl adnoddau a oedd ar gael i ysgolion yn flaenorol i gefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion yn dal ar gael ar y rhwydwaith a sefydlwyd. Fe eglurwyd wrth yr Aelodau, er bod rhywfaint o’r iaith wedi’i newid, fod cyd-destun y canllaw yn dal i gynnig llawer o wybodaeth a chefnogaeth i ysgolion. 

Roedd hefyd yn cynnwys dolenni i’r ddogfen Addysg Grefyddol a’r cyfnod sylfaen, er mwyn cefnogi’r ysgolion sy’n cynnig dysgu sylfaen. 

Cafodd yr holl ddolenni at weithgareddau a chefnogaeth ar gyfer pob adnodd sydd ar gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol, yn y gobaith y byddai ysgolion yn defnyddio’r adroddiad blynyddol i’w cyfeirio at yr adnoddau i gefnogi darpariaeth Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

 

Rhannwyd manylion am y Marc Ansawdd Addysg Grefyddol gyda’r Aelodau. Mae Marc Ansawdd Addysg Grefyddol yn cydnabod, dathlu a hyrwyddo

addysg grefyddol ragorol yn holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon trwy wobr ar dair lefel – efydd, arian ac aur. Mae Ysgol Frongoch ac Ysgol y Parc wedi gwneud cais am y wobr efydd yn y gorffennol. 

 

Roedd manylion am y rhwydweithiau HWB ynghlwm. Roedd gan Sir Ddinbych ei rhwydwaith ei hun, a oedd yn cynnwys tua 80 o athrawon, ond roedd yna hefyd rwydwaith HWB ar gael i aelodau staff ei ddefnyddio. Roedd nifer o adnoddau ar gael ar yr HWB i’w cefnogi. Mae gan aelodau’r CYSAG hawl i gael mynediad i’r hyn sydd ar HWB. 

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth i’r darllenydd a dolenni i’r cymwysterau amgen ym maes Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

 

Roedd y Fforwm Ewropeaidd i Athrawon Addysg Grefyddol yn sefydliad a ddaeth â chynrychiolwyr ledled gwledydd Ewrop ynghyd i gymharu a gwahaniaethu’r gwahanol ddulliau a ffyrdd o ddysgu Addysg Grefyddol ar draws Ewrop. 

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad blynyddol yn canolbwyntio ar yr adroddiadau Estyn a gafodd eu cyflwyno i’r CYSAG.  Roedd yn tynnu sylw ar nifer y sylwadau a oedd yn berthnasol i’r gwahanol adrannau yn yr adroddiad. Cafodd 12 adroddiad arolygu eu hadolygu. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y trosolwg manwl o holl agweddau’r adroddiad. Dywedodd fod yr adroddiad yn cynnwys nifer o ddolenni defnyddiol i amrywiaeth o adnoddau a oedd ar gael i ysgolion ac aelodau staff, yn ogystal ag Aelodau’r CYSAG. Pwysleisiodd fod llawer o waith wedi’i wneud i lunio’r papur a diolchodd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y papurau. 

 

Cafodd yr Aelodau eu hannog gan y Swyddogion i gysylltu â’r gwasanaeth cymorth am gefnogaeth i gael mynediad i’r HWB. Roedd manylion am y gefnogaeth ar gael ar-lein, neu fel arall trwy gysylltu â darparwr y cyfrif HWB, am gefnogaeth i gael mynediad at y wybodaeth. 

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw na chafwyd unrhyw gyflwyniadau i’r ddarpariaeth HCA dros y 12 mis diwethaf. Gofynnodd i ymholiadau gael eu gwneud i gynnwys cyflwyniad ar gyfer y pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y gallai wneud ymholiadau ar gyfer cael cyflwyniad i’r pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.   

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cymeradwyo’r adroddiad yn amodol ar y newidiadau a nodwyd uchod ac yn gofyn i’r ALl gyfieithu’r adroddiad a sicrhau ei fod ar gael i bob ysgol a choleg yn Sir Ddinbych, a derbynyddion eraill fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y’u dynodir yn yr adroddiad. 

 

 

Dogfennau ategol: