Eitem ar yr agenda
YMATEB Y CYNGOR I ADOLYGIADAU GWASANAETHAU BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012 10.00 am (Item 9.)
- View the declarations of interest for item 9.
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi’n amgaeëdig) a oedd yn argymell ymateb terfynol y
Cyngor i’r ymgynghoriad “Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid”.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd yn argymell ymateb
terfynol y Cyngor i’r ymgynghoriad cyhoeddus ‘Mae Gofal Iechyd yng ngogledd
Cymru yn newid’, â phapurau’r cyfarfod.
Dosbarthwyd copi yn cynnwys diweddariad o’r newidiadau i ymateb y Cyngor
yn y cyfarfod.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelodau
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd R.L. Feeley, a
diolchodd i amryw o unigolion a chyrff am eu cymorth yn llunio’r ymateb. Esboniodd
y Cynghorydd Feeley bod “Mae Gofal
Iechyd yng ngogledd Cymru yn newid” ac Adolygiadau Gwasanaeth eraill sy’n cael
eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngorffennaf 2012,
yn cynnwys cynigion ar gyfer newidiadau arwyddocaol i wasanaethau iechyd ar
draws gogledd Cymru. Cynhaliwyd proses ymgynghori ffurfiol ar y cynigion rhwng
20 Awst a 28 Hydref a bod cais i’r Cyngor gytuno’n ffurfiol ar yr ymateb
arfaethedig yn Atodiad I i’r adroddiad.
Roedd manylion am y saith prif faes a adolygwyd
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn
yr adroddiad. Cyflwynwyd adroddiad ar adolygiadau “Mae Gofal Iechyd yng
ngogledd Cymru yn newid: adroddiad ar gynigion newid gwasanaeth” wedi’i
gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 19 Gorffennaf 2012.
Roedd y Cyngor wedi derbyn gwybodaeth
gefndir, crynodeb y cynigion, copi o’r ddogfen ymgynghori ac ymateb drafft i’r
cynigion a luniwyd gan Weithgor o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn
flaenorol. Roedd yr Aelodau wedi cael cyflwyniad gan gynrychiolwyr y Bwrdd
Iechyd hefyd, a chyfle i ofyn cwestiynau ar faterion allweddol. Yn dilyn
trafodaethau yn y Grwpiau Aelodau Ardal, cyfarfodydd Clwstwr Cynghorau Tref a
Chymuned, cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a gweithgareddau ymgynghori a drefnwyd gan y Cyngor Iechyd
Cymuned roedd yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad wedi’i ddiwygio yn dilyn
cyfarfod arall o Weithgor y Pwyllgor Craffu Partneriaethau. Darparodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles grynodeb o’r prif
newidiadau, fel a ganlyn, a nodwyd yn yr adroddiad:-
·
yr angen am Grŵp Strategol ar gyfer Sir Ddinbych i alluogi
trafodaeth am fanylion gweithredu’r cynigion (paragraff 1.4)
·
cryfhau’r geiriad o ran yr angen i sicrhau bod gwasanaethau amgen yn eu
lle cyn cau’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes (paragraffau 1.5, 1.6.4, 1.8.2,
2.3) a datblygu gwasanaethau ar gyfer gofalwyr (paragraff 1.9.2)
·
cynnig bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried datblygu Inffyrmari Dinbych ac
Ysbyty Rhuthun fel ‘cyd-ganolfan ysbyty’ a’r swyddogaethau cysylltiedig
(paragraff 1.7)
·
cefnogaeth benodol i ddarparu Gwasanaeth Mân Anafiadau yn Llangollen
(paragraff 1.8.3)
Cadarnhawyd bod gweithio agos ac integredig â
gwasanaethau iechyd, yn enwedig mewn ardaloedd lleol, yn ffurfio rhan allweddol
o waith y Cyngor i ymateb i newid demograffig, a bod y Cynllun MAWR wedi nodi’r
amcanion ar gyfer cydweithio effeithiol i gefnogi teuluoedd.
Roedd manylion am y costau potensial i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’u cynnwys ym mharagraff 4.7 yr adroddiad
i’r Cyngor ar 11 Medi. Esboniwyd, yn y broses o newid, yn enwedig wrth i
wasanaethau gael eu trosglwyddo i’r gymuned, gallai’r cynnydd mewn costau gael
ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Cyfeiriwyd yn benodol at ofal cymdeithasol i
oedolion a’r goblygiadau posibl o ran darpariaeth cludiant. Roedd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnal proses sgrinio Asesu’r Effaith ar
Gydraddoldeb ar eu cynigion, a byddai’n gwneud rhagor o waith cyn cyflwyno’r
cynigion terfynol i’r Bwrdd.
Eglurwyd, oherwydd nad oedd costau’r
newidiadau arfaethedig wedi eu cyfrifo’n llawn, nad oedd yr effaith ar
wasanaethau’r Cyngor yn glir. Byddai angen ystyried materion fel darparu
cludiant, a byddai risg y byddai cost ychwanegol darparu mwy o wasanaethau yn y
gymuned yn syrthio’n anochel ar dimau gofal cymdeithasol y Cyngor. Byddai camau
gweithredu allweddol i leddfu’r risgiau a nodwyd yn cynnwys cynhyrchu
cynlluniau gweithredu yn nodi’r costau’n fanwl ar gyfer y newidiadau
arfaethedig, a fyddai’n cael eu trafod gan Grŵp Strategol dynodedig. Byddai hyn yn galluogi
gwneud yr effaith yn glir a thryloyw, a chaniatáu trafodaeth lawn â’r Awdurdod
Lleol ynghylch meysydd sy’n rhyngweithio â chyfrifoldebau’r Cyngor, a sut y
dylid trefnu ac ariannu patrwm newydd y gwasanaethau.
Mynegodd y Cynghorydd S.A. Davies
bryderon am ddilysrwydd y broses ymgynghori, gan gyfeirio’n benodol at yr
ansicrwydd ynghylch dyfodol yr uned mân anafiadau yn Llangollen.
Pwysleisiodd y Cynghorydd J.
Thompson-Hill bwysigrwydd sicrhau nad oedd gwasanaethau’n cael eu hatal nes bo
gwasanaethau amgen wedi eu darparu ac yn weithredol. Mynegodd bryder am
amgylchiadau ariannol Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwestiynodd ei allu i gyflawni’r cynigion yn unol â’r amserlen
arfaethedig. Tynnodd y Cynghorydd Thompson–Hill sylw at ganlyniadau potensial y
cynigion yn Sir Ddinbych, gan gyfeirio’n benodol at yr effaith posibl ar
grantiau cefnogi refeniw’r Cyngor a ffynonellau ariannu allanol eraill.
Cyfeiriodd at effaith andwyol trosglwyddo’r gost i Sir Ddinbych ar angen i’r
Cyngor fabwysiadu safiad cadarn ar y mater hwn.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod
Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi
rhoi gwarant na fyddai gwasanaeth yn cael ei gau cyn sefydlu un newydd, a
phetai hyn yn digwydd byddai am gyfnod o ddyddiau yn hytrach nag
wythnosau. Cafwyd sicrwydd hefyd na
fyddai costau’n cael eu trosglwyddo ac na fyddai disgwyl i’r Awdurdod Lleol
ymdrin ag unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau. Pwysleisiodd y
Prif Weithredwr y byddai’n bwysig i Gyngor Sir Ddinbych fabwysiadu safiad
cadarn wrth sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflawni ei
gynigion yn unol â’u datganiadau.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles bod cydgysylltu
rhwng Adran Eiddo Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gynllunio’r Cyngor o ran y cyfnodau
ailddatblygu yn gysylltiedig ag adeiladau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn ardal y Rhyl a Phrestatyn.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
cafwyd yr atebion a ganlyn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles
i’r cwestiynau a’r materion a nodwyd gan Aelodau:-
- mynegwyd y farn y byddai Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fodlon ateb cwestiynau ar sail tystiolaeth.
- esboniwyd bod y Gwasanaeth
Gofal Ychwanegol yn y Cartref yn wasanaeth gofal iechyd ychwanegol a ddarperir
yng nghartref defnyddiwr y gwasanaeth, a’i fod yn wahanol i’r Gwasanaeth Gofal
yn y Cartref.
- mewn ymateb i gais gan y
Cynghorydd J.A. Davies, cadarnhawyd y gallai Cyngor Sir Ddinbych bwysleisio
pwysigrwydd darparu ysbyty newydd yn y Rhyl pan yw’n cyflwyno’r achos busnes
ffurfiol i Lywodraeth Cymru. Pwysleisiodd y Cynghorydd R.M. Murray bwysigrwydd
sicrhau bod unrhyw strwythur newydd a gyflwynir yn llwyddiannus cyn cael gwared
ar y gwasanaethau presennol.
Esboniodd y Cynghorydd Feeley bod
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi pwysleisio nad oedd y newidiadau
arfaethedig wedi eu llywio na’u llywodraethu gan ystyriaethau ariannol yn unig,
ond gan y newid cynyddol mewn demograffeg, adeiladau’n anaddas i’w pwrpas a’r
problemau yn ceisio denu’r staff clinigol uchaf ar gyfer meysydd meddygaeth
penodol. Rhoddwyd cadarnhad bod mwyafrif y meddygon lleol yn cefnogi’r
newidiadau arfaethedig yn y gwasanaethau.
Gofynnodd yr Aelodau i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles gyfleu eu gwerthfawrogiad i’r
staff am eu gwaith caled.
PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cytuno ar yr ymateb i’r
ymgynghoriad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad, i’w gyflwyno i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dogfennau ategol: