Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD FFORMIWLA ARIANNU YSGOLION SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r cynigion ymgynghorol ar gyfer Fformiwla Ariannu newydd Ysgolion Sir Ddinbych mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig.

(Mae Atodiad 2 i’r eitem hon yn gyfrinachol).

                                                                                                          10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau, a oedd yn manylu’r cynigion ymgynghorol ar gyfer Fformiwla Ariannu Ysgolion newydd Sir Ddinbych mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau yr adroddiad a oedd yn manylu cynigion ar gyfer y fframwaith ariannu newydd ac yn amlinellu meysydd posibl risg gweithredol ac ariannol. Roedd Atodiad 1, y ddogfen ymgynghorol, wedi ei ddosbarthu i Ysgolion ar 1af Haydref 2012 yn amlinellu cynigion manwl y fframwaith ariannu newydd yn Sir Ddinbych. Roedd y newid mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â chategoreiddio dyraniadau ariannol, gyda’r fformiwla newydd arfaethedig yn seiliedig ar yrwyr cost gwirioneddol mewn ysgolion a oedd wedi eu rhannu rhwng saith elfen gweithgaredd strategol. Amlygwyd arwyddocad cyllid a arweinir gan y disgybl, dan y pennawd cwricwlwm. Roedd cynigion drafft yn destun newid dan ganlyniadau’r ymgynghoriad cyn eu gweithredu ym mis Ebrill, 2013.

 

Roedd dogfen ymgynghorol, Atodiad 2, yn rhoi dadansoddiad risg rhagarweiniol o bob ysgol yn dangos y symudiad yn y cyllidebau a lefel balansau presennol. Cynhelir cyfarfodydd ymgynghorol gyda phob ysgol i drafod y goblygiadau yn eu cyllidebau dirprwyedig eu hunain, ac roedd y dadansoddiad yn aros yn wrthrychol nes ceid trafodaethau manwl llawn. Esboniwyd bod angen cyflwyno unrhyw faterion a godwyd trwy’r broses ymgynghorol ffurfiol. Roedd dalen ffeithiau rheoli, Atodiad 3, yn rhoi cymhariaeth rhwng yr hen fformiwla a’r fformiwla newydd, ac yn rhoi cymorth i’r Aelodau wrth ddelio â rhai o’r materion allweddol os byddant yn codi.

 

Mynegwyd pryder gan yr Aelodau Cyfetholedig nad oeddynt wedi derbyn copïau o Atodiad 2. Esboniodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau bod Atodiad 2 yn ddogfen weithredol a oedd yn seiliedig ar amcanestyniadau a oedd yn destun newid. Cytunwyd y byddai fersiwn wedi ei diweddaru o Atodiad 2 yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau Cyfetholedig.

 

Byddai canlyniadau’r adolygiad yn newid dosbarthiad cyllid ysgolion, i ganiatáu i ysgolion feddwl yn wahanol ynglŷn â sut roeddynt yn rheoli eu cyllid dirprwyedig, a byddai hyn yn cefnogi blaenoriaeth Moderneiddio Addysg. Ni fyddai costau ychwanegol gan y byddai’r Fformiwla Ariannu yn rhoi dull o ddosbarthu cwantwm cyfan yr ysgolion i bob ysgol unigol. Byddai hyn yn aros yr un fath beth bynnag fyddai canlyniad yr adolygiad, ond gallai arwain at ail-alinio cyllid yn wahanol rhwng ysgolion. Cafwyd ymgynghoriad gyda Phenaethiaid, Llywodraethwyr, Undebau Llafur, Swyddogion Addysg ac Aelodau Etholedig.

 

Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg a chyfartal i bob ysgol. Byddai’n bwysig ystyried y materion ehangach mewn perthynas ag ysgolion yn colli cyllid, gan y byddai balansau a chynlluniau gwariant yn chwarae rôl hanfodol wrth asesu a fyddai colli cyllid yn cael effaith sylfaenol ar gyflwyniad addysg.

 

Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn i gwestiynau a materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

- Mynegwyd pryderon ynglŷn â nifer yr ysgolion a oedd wedi eu nodi mewn coch yn y fformiwla ariannu. Prif bwrpas yr adolygiad yn y fformiwla ariannu oedd ail-alinio cyllid mewn perthynas â gofynion angen. Cadarnhawyd nad oedd coch o reidrwydd yn dangos maes risg uchel ac mewn rhai achosion roedd yn cynnwys ysgolion a oedd yn derbyn cymorth gan swyddogion ar hyn o bryd.

 

- mewn perthynas â’r gwahaniaeth rhwng dyraniadau cyllid ysgolion Cynradd ac Uwchradd, roedd cyllid sector wedi ei ystyried yn genedlaethol ac ymddengys ei fod yn gytbwys ac yn unol â’r dull cenedlaethol. Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau y byddai’n cysylltu â’r Swyddogion Addysg perthnasol i gael persbectif addysg ar y materion a’r pryderon a godwyd.

 

- Wrth ymateb i bryder ynglŷn â nifer categorïau ysgolion, esboniwyd, ar ôl derbyn adborth cryf a dderbyniwyd wedi ymgynghoriad, y rhagwelwyd y byddai’r categori Cymraeg yn newid yn arwyddocaol gyda chyllid yn cael ei seilio ar asesiadau yn hytrach na chategorïau.

 

- Cyfeiriwyd at ddyrannu Grantiau Amddifadiad. Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi ei rhoddi i Awdurdodau Lleol yn cael eu hariannu ar wahân gyda grant benodol ar gyfer grant amddifadiad disgyblion. Hysbyswyd yr aelodau bod y dangosydd prydau bwyd ysgol am ddim wedi ei gynnwys i ddiwallu gofynion rheoliad ariannu ysgolion a oedd yn pennu’r angen am yrrwr ar gyfer amddifadiad cymdeithasol. Amlinellwyd manylion y ddarpariaeth cyllid cyfatebol i’r Pwyllgor.

 

- Hysbyswyd yr Aelodau bod y rheoliad maint dosbarthiadau yn ymwneud ag ysgolion a oedd eisoes wedi cyrchu cyllid ac ysgolion newydd yn dod i mewn i’r system. Amlinellwyd y meini prawf a oedd yn ymwneud ag ysgolion a effeithiwyd gan gyfyngiad amser mis Mehefin i’r Aelodau.

 

- Cyfeiriodd Dr D. Marjoram at y Cyfnod Sylfaen a gofyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer cymhareb cymorth i ddisgyblion a oedd wedi arwain at ostyngiad mewn cefnogaeth i Ysgolion Arbennig. Esboniwyd y bu awgrym bod meini prawf ariannu blaenorol wedi ymddangos yn ffafriol. Fodd bynnag, byddai materion a godwyd mewn perthynas â hyn yn cael ystyriaeth bellach. Mewn perthynas â Bandiau Ysgolion Arbennig, cadarnhawyd mai’r swm fesul disgybl fyddai’r eitem gydbwyso. Fodd bynnag, byddai’r ddwy Ysgol Arbennig yn cyflwyno dulliau amgen o ddelio â’r mater. Cyflwynwyd amlinelliad o’r anawsterau o ran cael a dosbarthu darpariaeth ariannu gan y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau a gadarnhaodd y byddai cyllideb waelodlin a bennwyd yn cael ei chynhyrchu i dangos y cyllid sydd ei angen i gyflawni swyddogaethau statudol. Dywedodd hefyd na fyddai disgyblion Cymraeg fel iaith gyntaf, a thaliadau am ddisgyblion y tu allan i'r Sir, yn cael eu heffeithio.

 

- Darparwyd manylion yn ymwneud â dyraniadau ariannu mewn perthynas ag ysgolion ffederal ac ysgolion cyfun ac esboniodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau eu bod yn cael eu trin ar wahân ac y gallant neilltuo mwy o gyllid nag ysgolion cyfun dan y fformiwla.

 

- Mynegodd y Cynghorydd A Roberts bryder ynglŷn ag anghydbwysedd trefniadau cyllid ar ysgolion Cymraeg eu Cyfrwng. Esboniwyd bod y ffigurau yn rhoi cymhariaeth rhwng yr hen fformiwla a’r fformiwla newydd ac nid oedd yn dangos y gyllideb  wirioneddol neu gostau gwariant yn yr ysgolion perthnasol. Roedd cyllid maint dosbarthiadau wedi ei gynnwys mewn polisi ar wahân a oedd yn rhoi cyfle i ysgolion wneud cais am gyllid dan y cynllun y tu allan i’r fformiwla. Cadarhaodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau nad oedd newidiadau yn yr Ysgolion Cymraeg eu Cyfrwng yn gysylltiedig â’r newidiadau i’r cyllid Cymreig. Fodd bynnag, cadarnhaodd y byddai agwedd Gymreig cyllid yn cael ei hasesu ar ganlyniadau ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol perthnasol ac nid yn seiliedig ar gategori’r Ysgolion.

 

- Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau y byddai dyraniadau ariannu ysgolion yn cael eu diogelu. Cyfeiriodd at bolisi’r Cyngor ar enillion o werthu asedau dros ben, megis Ysgol Rhuallt, yn cael eu dyrannu i’r blaenoriaethau corfforaethol a gwneud ceisiadau am unrhyw ofynion ariannu ar sail blaenoriaeth.

 

- Esboniwyd bod y ffigurau a ddarparwyd yn seiliedig ar ddata o’r flwyddyn flaenorol. Cadarnhawyd nad oedd data ar gael eto i gynhyrchu ffigurau cyllideb y flwyddyn nesaf. Serch hynny, byddant yn cynnwys niferoedd tebygol ar y gofrestr.

 

- Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies ar natur gadarn y penderfyniad yn yr adroddiad, cadarnhawyd mai drafft oedd y ddogfen a’i bod yn destun ymgynghoriad. Cyfeiriodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg at yr amserlen dynn mewn perthynas â dosbarthu cyllidebau i ysgolion a chadarnhaodd y gellid cyflwyno adroddiad cynnydd i gyfarfod mis Tachwedd 2012 y Pwyllgor Craffu.

 

Ar ôl trafodaeth bellach, fe:-

 

BENDERFYNWYD  - bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad:-

 

(a)   Yn derbyn yr adroddiad ac yn cadarnhau cydnabyddiaeth o oblygiadau newidiadau yn y Fformiwla ar gyfer y fframwaith ariannu.

(b)   Yn cymeradwyo’r fethodoleg ar gyfer pob elfen o’r Adolygiad Fformiwla, a

(c)   Yn cytuno bod swyddogion yn ymgymryd ag adolygiad o’r fframwaith ariannu ac yn cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i gyfarfod Tachwedd 2012 y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

 

Dogfennau ategol: