Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL PLAS BRONDYFFRYN – PROSIECT ARFAETHEDIG I ADEILADU YSGOL NEWYDD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer safle a ffafrir i ddatblygu prosiect adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais cynllunio;

 

(b)      cytuno bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad 3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer safle Ffordd Ystrad (Safle A) fel y safle a ffefrir ar gyfer datblygu’r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ac ar gyfer cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.  Roedd yr ysgol yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed ag awtistiaeth a’r cynnig oedd dod â 3 o’r 4 safle presennol at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol a chynyddu capasiti i fodloni galw.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r prosiect gan gynnwys gwaith dichonoldeb ar y cynigion am adeilad newydd ac ymgynghoriad â budd-ddeiliaid am safle Ffordd Ystrad (Safle A).  Roedd y prif broblemau a godwyd o’r ymgynghoriad cynllunio anffurfiol yn ymwneud â dewis safle, colli cyfleusterau chwaraeon a mynediad priffyrdd, a darparwyd ymatebion/camau lliniaru ar gyfer y materion hynny.  Wrth gefnogi’r angen am gyfleusterau gwell, roedd gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych bryderon dros Safle A a gofynnwyd i swyddogion adolygu’r pryderon hynny ac asesu safleoedd a lleoliadau amgen.  Gwnaed gwaith dichonoldeb ar safle arall (Safle B) a darparwyd cyngor cwnsler cyfreithiol am y risgiau i’r Cyngor o safbwynt polisi cynllunio.  Ni allai’r Aelod Arweiniol na’r swyddogion gefnogi symud ymlaen â Safle B oherwydd bod cyfyngiadau cynllunio sylweddol i’w goresgyn y tu hwnt i’r rhai ar Safle A, ac o safbwynt addysgol, o ystyried yr effaith ar gynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych. Fodd bynnag, Safle B oedd y dewis a ffefrir gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych. 

 

Amlygodd y Cynghorydd German fesurau lliniaru i fynd i’r afael â phryderon dros Safle A. Tynnodd sylw at yr Asesiad o Effaith ar Les a derbyniodd yr effaith negyddol gyffredinol ar gymunedau cydlynol a phreswylwyr Dinbych a’r angen am fesurau lliniaru ychwanegol i fynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd.  Roedd y Cynghorydd Martyn Hogg wedi sôn am effaith gymunedol y tu allan i’r cyfarfod ac roedd sicrwydd wedi’i ddarparu y byddai’n parhau fel mater byw. Byddai gwaith yn cael ei wneud i nodi cyfleoedd a chynyddu manteision mannau agored eraill yn y dref, yn ogystal â disodli’r cyfleusterau chwaraeon.  Yn gyffredinol, roedd hwn yn ganlyniad cadarnhaol net ar gyfer y cynnig gyda buddiolwyr ar draws Sir Ddinbych.

 

Wrth gloi, cadarnhaodd y Cynghorydd German ei bod wedi bod yn broses hir ac roedd hi wedi’i siomi nad oedd canlyniad wedi’i sicrhau a oedd wrth fodd pawb ond diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am eu gwaith caled a’u gwedduster.  O ganlyniad, argymhellodd ddatblygu â safle Ffordd Ystrad (Safle A) ar gyfer yr adeilad newydd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon nad oedd y broses ymgysylltu ac ymgynghori, fel a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, wedi’i dilyn yn briodol, a dangosodd hyn trwy dynnu sylw at ddogfennau gan fudd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, hysbysiad o fwriad y Cyngor i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar Safle A tua deuddeg mis o flaen llaw, argraff arlunydd o safle’r ysgol tua chwe mis cyn hynny, a’r ffaith nad oedd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych wedi’i gynnwys mewn cyfarfod safle gyda datblygwyr.  Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei bod yn debyg bod cyfres o fethiannau wedi bod dros gyfnod hwy na deunaw mis a gofynnodd a oedd tystiolaeth fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Dinbych wedi mynegi barn.  Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am ragor o eglurder hefyd am faterion a godwyd gan y Cynghorydd Martyn Hogg (yr oedd wedi’u hanfon dros e-bost at bob Aelod) o ran yr Asesiad o Effaith ar Les.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·       eglurwyd rôl y Cabinet ar lefel strategol i roi awdurdod clir i gyflwyno cais cynllunio; yna byddai’n fater i’r broses gynllunio a’r Pwyllgor Cynllunio o ran a fyddai’r cais yn llwyddiannus

·       roedd delweddau o ddyluniadau posibl o’r ysgol at ddibenion enghreifftiol yn unig, ac weithiau byddent yn newid yn sylweddol o ddelweddau gwreiddiol yr artist

·       roedd tystiolaeth ddogfennol o negeseuon e-bost, cyfarfodydd wyneb i wyneb a galwadau ffôn o ran ymgysylltu ag Ysgol Uwchradd Dinbych o fis Tachwedd 2019, yn cwmpasu arweinyddiaeth flaenorol yr ysgol, hyd at fis Mawrth 2023; roedd adolygiad tebyg o dystiolaeth wedi’i gynnal gyda phartneriaid allweddol eraill, gan gynnwys Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, gyda thrafodaeth ddechreuol ym mis Ionawr 2020

·       roedd y Prif Weithredwr wedi mynychu nifer o gyfarfodydd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych ar y pwnc hwn hefyd ac roedd yn fodlon bod Aelodau wedi cael cyfle priodol i ymgysylltu

·       eglurwyd cyfranogiad y Cabinet yn y broses gwneud penderfyniadau o ran prosiectau ysgol, a rhoddwyd cymeradwyaeth ym mis Medi 2020 a mis Ebrill 2022.  Roedd datblygiad wedi’i oedi er mwyn caniatáu rhagor o graffu ar brosesau a dewisiadau

·       anghytunwyd bod cyfres o fethiannau wedi bod, ond derbyniwyd bod bob amser lle i wella

·       ymgysylltwyd yn unol â phrosiectau eraill, gan gynnwys Band A

·       roedd cofnodion y Corff Llywodraethu wedi’u cymeradwyo ar gael i’r cyhoedd

·       cyfeiriwyd at ddatganiad ar y cyd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023 gan Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Plas Brondyffryn, lle dywedwyd mai’r brif flaenoriaeth ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych oedd ysgol wedi’i hadnewyddu a’i hailfodelu er lles disgyblion a staff, yr hiraf yr oedd prosiect Ysgol Plas Brondyffryn yn ei gymryd, yr hiraf yr oedd yr ansicrwydd yn para; mae’n rhaid i’r ddau brosiect symud ymlaen gan eu bod wedi’u cysylltu’n gynhenid

·       cadarnhawyd bod y Cynghorydd Martyn Hogg yn fodlon â’r ymatebion a roddwyd i’r materion a godwyd o ran yr Asesiad o Effaith ar Les, a mannau gwyrdd yn benodol

·       rhoddwyd rhagor o wybodaeth am ddatblygiad yr Asesiad o Effaith ar Les yn unol ag Asesiadau eraill o Effaith ar Les, a gwaith i sicrhau bod y ddogfen yn adlewyrchu barn pob budd-ddeiliad yn gywir, a oedd wedi’i ddangos yn benodol gan yr adran ar gymunedau cydlynol.

 

Roedd angen adeilad newydd gyda chapasiti ychwanegol er mwyn bodloni galw presennol a galw’r dyfodol am ddarpariaeth arbenigol yn Sir Ddinbych ac roedd pawb o blaid cynyddu capasiti’r ysgol i ddiwallu’r anghenion hynny.  Roedd y materion a oedd yn achosi pryder yn ymwneud â’r broses dewis safle ar gyfer yr adeilad newydd a lefel yr ymgysylltu/ymgynghori a gynhaliwyd.

 

Wrth agor y drafodaeth i Aelodau nad oeddent ar y Cabinet, trafodwyd y canlynol –

 

·       Pwysleisiodd y Cynghorydd Delyth Jones bwysigrwydd bod ysgol lwyddiannus â lle cyfforddus yn ei chymuned, ac edrychodd eto ar rai o’r pwyntiau a wnaed o ran yr Asesiad o Effaith ar Les, i sicrhau bod barn pob budd-ddeiliad allweddol wedi’i gwerthuso a’i hadlewyrchu’n briodol, a’r angen am ragor o gyfranogiad a phroses ymgysylltu ehangach am effaith y cynnig.  Ailadroddodd swyddogion fod yr Asesiad o Effaith ar Les yn ddogfen gynhwysfawr, fyw, sy’n cael ei hadolygu’n gyson a bod canllawiau o ran ei chwblhau wedi dod gan Swyddog Arweiniol Asesiadau o Effaith ar Les.  Eglurwyd hefyd bod cyfarfod wedi’i drefnu yn benodol i fynd i’r afael â mater mannau agored yn Ninbych yn dilyn y pryderon a godwyd gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych.

·       Roedd y Cynghorydd Mark Young yn sylweddoli’r anawsterau ac roedd yn cefnogi cydweithio’n gadarnhaol wrth symud ymlaen; gofynnodd am ymrwymiad o ran cyfleusterau ystafelloedd newid a hefyd ymgysylltiad gwell gydag Ysgol Uwchradd Dinbych.  Cadarnhawyd y byddai lleoliad y cyfleusterau newid yn cael ei ystyried wrth weithio gydag Ysgol Uwchradd Dinbych fel rhan o’r broses ddylunio gyffredinol.  Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a’r Aelod Arweiniol y byddent yn fodlon mynychu cyfarfodydd y Corff Llywodraethu a bod y pwnc yn eitem sefydlog ar y rhaglen.

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Pauline Edwards at gynigion cyffredinol Band B a oedd yn cynnwys prosiect ar gyfer Ysgol Pendref, a oedd yn dal i fod ar ddau safle gwahanol, a dywedodd fod angen datblygu’r prosiect fel blaenoriaeth.

 

Diolchodd y Cynghorydd German i bawb am eu cyfraniadau i drafodaeth gadarn, a dywedodd fod ymdrechion gorau wedi’u gwneud i fynd i’r afael â’r materion a godwyd, a fyddai’n parhau wrth symud ymlaen.  Ar ôl ystyried pob ffactor, ac am y rhesymau a amlinellwyd, gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais cynllunio;

 

(b)      cytuno bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a

 

(c)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad 3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (12.25pm) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: