Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AIL BLEIDLAIS ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ar gynigion ar gyfer ail dymor Ardal Gwella Busnes y Rhyl.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB (Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8 a 4.9 yr adroddiad);

 

(b)      awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB, trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar gyfer yr AGB arfaethedig;

 

(c)      cadarnhau y bydd CSDd yn defnyddio un o’i bleidleisiau ym mhleidlais AGB o blaid yr AGB, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad ar gynigion am ail dymor 5 mlynedd ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl a threfniadau cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yr adroddiad a oedd yn egluro cefndir sefydlu AGB y Rhyl ym mis Tachwedd 2018 ynghyd â’r broses o ddatblygu’r AGB a’r agweddau cyfreithiol yn hynny o beth.  Roedd y tymor 5 mlynedd cyntaf yn dod i ben ac roedd angen pleidlais newydd pe bai’r AGB am barhau.  Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yn Gyfarwyddwr AGB y Rhyl gan gynrychioli’r Cyngor.  Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried y canlynol –

 

·       a oedd yn cytuno ag argymhelliad y swyddog, sef nad oedd sail i roi feto ar gynnig yr AGB.  Gallai'r Cyngor roi feto ar gynnig yr AGB pe bai’n gwrthdaro ag unrhyw bolisi corfforaethol CSDd neu yn gosod baich ariannol sylweddol anghymesur ar unrhyw unigolyn neu ddosbarth o unigolion.  Ar ôl adolygu’r Cynllun Busnes newydd (ynghlwm i’r adroddiad), roedd swyddogion o’r farn nad oedd yr un o’r darpariaethau’n berthnasol, a

 

·       sut ddylai’r Cyngor (CSDd) ddefnyddio ei bleidleisiau yn y bleidlais.  Roedd y Cyngor yn berchen ar nifer o eiddo yn ardal AGB y Rhyl ac roedd yn gymwys i ddefnyddio 20 o bleidleisiau.  Barn y Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd y gallai AGB fod yn rym da a chadarnhaol a byddai ail dymor o fudd i waith adfywio parhaus y dref.  Roedd y Cynllun Busnes yn cefnogi thema Sir Ddinbych Ffyniannus yn y Cynllun Corfforaethol ac roedd barn Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r AGB.  Felly, roedd yn gobeithio bod AGB y Rhyl yn parhau y tu hwnt i’r bleidlais am ail dymor ac y byddai’r gymuned fusnes yn cefnogi parhad yr AGB.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y gefnogaeth roedd wedi’i darparu trwy gydol y broses.  Diolchodd hefyd i Nadeem Ahmed, Cadeirydd AGB y Rhyl ac Abigail Pilling, Rheolwr AGB y Rhyl, yr oedd wedi cwrdd â nhw’n ddiweddar gyda’r Cynghorydd Barry Mellor, ac am eu presenoldeb yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, ac roedd yn gwerthfawrogi gwaith y Pwyllgor a’i Gadeirydd wrth graffu ar y cynigion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod AGB yn rhoi pŵer i fusnesau benderfynu ar welliannau yr oeddent am eu gwneud mewn ardal ddaearyddol a chodi arian i’w darparu.  Roedd yn ffurf leol iawn o ddemocratiaeth.  Er bod CSDd yn fudd-ddeiliad allweddol yn AGB y Rhyl, roedd yn annibynnol i’r Cyngor.  Fodd bynnag, roedd yr AGB wedi’i chael yn anodd cael eu hystyried yn annibynnol o ystyried sylwadau mai dim ond oherwydd bod gan CSDd gyfran anghyfiawn o’r pleidleisiau yr oedd wedi llwyddo.  Roedd o’r farn fod gan yr AGB gefnogaeth busnesau, ond roedd yn anodd dadlau yn erbyn y naratif negyddol oherwydd y nifer isel a bleidleisiodd. Cafodd 99 o’r 463 o bleidleisiau cymwys eu bwrw; enillodd y bleidlais gadarnhaol o 66 pleidlais, ond roedd 36 o’r pleidleisiau hynny wedi’u bwrw gan CSDd. Gellid priodoli amryw resymau i’r nifer isel a bleidleisiodd, ond disgwyliwyd nifer uwch mewn ail bleidlais, a byddai mwy o fusnesau’n gefnogol o ystyried yr hyn a oedd wedi’i ddarparu dros y tymor 5 mlynedd.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda swyddogion nad oedd sail i roi feto ar gynigion yr AGB a gofynnodd i’r Cabinet roi ystyriaeth ofalus i sut i ddefnyddio pleidleisiau CSDd mewn ail bleidlais.  Cyfeiriodd at ymgynghoriadau gyda chraffu ac eraill, gan gynnwys argymhelliad Grŵp Ardal yr Aelodau y Rhyl, sef nad yw CSDd yn arfer ei hawl i bleidleisio yn rownd nesaf yr AGB.  Barn yr Arweinydd oedd fod AGB y Rhyl yn chwarae rôl sylweddol yn adfywiad y dref, ar ôl darparu mentrau cadarnhaol yn y tymor cyntaf, ac y dylai’r Cabinet fod yn glir ei fod yn cefnogi’r AGB a’i fod am barhau i weithio mewn partneriaeth er gwelliant y Rhyl.  Fodd bynnag, o ystyried y canfyddiadau negyddol o ran dylanwad CSDd yn y bleidlais gyntaf, roedd yn teimlo y dylid sicrhau digon o bleidleisiau gan fusnesau lleol i ennill y bleidlais am ail dymor.  Felly, cynigiodd fod CSDd yn defnyddio un o’i bleidleisiau yn unig yn yr ail bleidlais.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad, gan gynnwys yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd, ynghyd â barn yr Arweinydd am gynnig yr AGB a threfniadau pleidleisio.  Cydnabu’r Cabinet fanteision AGB y Rhyl a’i barhad gan gytuno â barn yr Arweinydd yn hynny o beth.  Roedd y Cabinet hefyd yn cytuno â’r cynnig i CSDd fwrw un bleidlais i gefnogi’r AGB, a fyddai’n dangos ymrwymiad i degwch, gyda chanlyniad y bleidlais yn cael ei benderfynu gan y gymuned fusnes leol.  Amlygwyd bod angen sicrhau ymgysylltiad priodol â busnesau er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio.   Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd fod AGB y Rhyl eisoes wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu a chadarnhaodd y gallai’r Cyngor wneud rhagor o waith yn hynny o beth er mwyn pwysleisio’r pwysigrwydd fod busnesau’n pleidleisio yn yr ail bleidlais.

 

Ar y pwynt hwn, agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i’r Aelodau nad oeddent ar y Cabinet a mynegwyd sawl barn wahanol am y ffordd orau ymlaen, gan gynnwys CSDd yn ymatal yn llwyr rhag pleidleisio yn yr ail bleidlais a pheryglon posibl peidio â defnyddio ei ddyraniad pleidleisio llawn.  Cafwyd rhywfaint o drafodaeth am y trefniadau blaenorol hefyd a sut yr oeddent wedi’u rheoli, gan gynnwys y broses gwneud penderfyniadau, nifer isel yn pleidleisio yn y bleidlais ddechreuol, ynghyd â materion o ran ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol ar y cyd a phwysigrwydd cydweithio er budd y Rhyl.  Ailadroddwyd bod angen proses deg a chynhwysol, a sicrhau nad yw busnesau bach yn cael eu heffeithio mewn modd anghymesur yn yr hinsawdd economaidd anodd.

 

Ymatebodd yr Arweinydd i’r materion a godwyd a gwnaeth y pwyntiau allweddol canlynol –

 

·       roedd hyder y byddai busnesau lleol yn cefnogi ail dymor AGB y Rhyl, a fyddai’n cryfhau AGB y Rhyl wrth symud ymlaen

·       nid oedd safbwynt y Cabinet yn mynd yn groes i argymhelliad swyddogion ac ni oedd gofyniad cyfreithlon i’r Cyngor arfer pob un o’i bleidleisiau

·       roedd yn briodol y dylai’r Cabinet fynegi barn am yr ail bleidlais ond peidio â defnyddio pob un o’i bleidleisiau cymwys, gyda bwriad o ddylanwadu ar ganlyniad y bleidlais

·       y bwriad oedd defnyddio’r un bleidlais a oedd agosaf at werth trethiannol cyfartalog holl bleidleisiau cymwys CSDd

·       nid oedd peidio ag arfer pob un o’i bleidleisiau cymwys yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor a’i gefnogaeth ar gyfer ail dymor i AGB y Rhyl, a oedd yn glir

·       roedd yn briodol bod barn Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl yn cael ei hystyried gan mai nhw oedd y cynrychiolwyr etholedig ar gyfer ardal yr AGB

·       roedd rhywfaint o ymddieithrio yn y broses ond byddai ymdrech ar y cyd gan CSDd i bawb gydweithio er budd y Rhyl

·       byddai’r Cabinet a CSDd yn gweithio’n gadarnhaol ar y cyd â busnesau lleol a budd-ddeiliaid allweddol er budd yr ardal.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd mater sy’n ymwneud ag ymddygiad ar sail y cyfarfod â Chynrychiolwyr AGB y Rhyl a chyhoeddiad honedig am benderfyniad y Cabinet cyn cyfarfod heddiw.  Gwadodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Barry Mellor fod unrhyw benderfyniad wedi’i wneud na’i rannu ac eglurwyd amgylchiadau’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan AGB y Rhyl i drafod y cynigion am ail bleidlais.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw achos o dorri’r Cod Ymddygiad.  Gofynnodd y Cynghorydd Mellor fod ei bryderon difrifol am y mater a’r torri ymddiriedaeth yn cael eu cofnodi.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Win Mullen-James at honiad ar wahân a wnaed yn ystod y cyfarfod a oedd yn ymwneud â sylwadau a wnaed yng Nghyngor Tref y Rhyl a oedd yn gweithio yn erbyn yr AGB yn 2018 a gofynnodd eu bod yn cael eu hymchwilio’n llawn.

 

Ailddatganodd y Cabinet eu bod yn cefnogi AGB y Rhyl a’r bwriad i fwrw un bleidlais, ar sail gwerth trethiannol cyfartalog, o blaid dangos eu cefnogaeth i’w pharhad, wrth ganiatáu i fusnesau lleol benderfynu ar ganlyniad cyffredinol yr ail bleidlais.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB (Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8 a 4.9 yr adroddiad);

 

(b)      awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB, trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar gyfer yr AGB arfaethedig;

 

(c)      cadarnhau y bydd CSDd yn arfer un o’i bleidleisiau ym mhleidlais yr AGB i gefnogi’r AGB, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: