Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYLETSWYDD ARWEINWYR GRWPIAU - CANLLAWIAU STATUDOL AC ANSTATUDOL AR GYFER PRIF GYNGHORAU YNG NGHYMRU

Derbyn diweddariad llafar ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a'r camau nesaf a Chanllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau Cymru.

 

Cofnodion:

Roedd Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau yng Nghymru - gan gefnogi darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi’u dosbarthu ymlaen llaw gyda’r rhaglen.

 

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r wybodaeth ddiweddaraf ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a’r camau nesaf a’r Canllawiau Statudol ar gyfer Prif Gynghorau yng Nghymru.   Gofynnwyd i’r Aelodau gytuno i wahodd Arweinwyr Grwpiau i’r Grŵp Cyswllt Moesegol yn y dyfodol.   Tynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw’r aelodau at y pwyntiau amlwg o ran Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau fel y nodwyd yn y Canllawiau Statudol fel a ganlyn-

 

·       mae arweinydd grŵp gwleidyddol sy’n cynnwys aelodau o Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru yn gorfod cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal ymddygiad o safon uchel gan aelodau’r grŵp

·       nid oedd y ddyletswydd yn golygu bod arweinwyr grwpiau gwleidyddol yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau ond fod ganddynt rôl i gymryd camau rhesymol i gynnal safonau uchel, gosod esiampl, defnyddio eu dylanwad i gefnogi diwylliant cadarnhaol, bod yn rhagweithiol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel yn eu grŵp a mynd i’r afael â materion o ddiffyg cydymffurfio honedig wrth iddynt godi.

·       ymhelaethu ar y deg cam rhesymol fel y nodwyd y mae’n rhaid i Arweinwyr Grwpiau eu hystyried ac y gallent eu cyflawni gyda’r nod o ddatblygu a chefnogi diwylliant sy’n rhagweithiol, yn ymateb i ymddygiad amhriodol ac sy’n gwrthod ei oddef.

·       pwysigrwydd hyfforddiant y Cod Ymddygiad a sefydlu perthnasoedd gydag aelodau sy’n eu hannog i rannu problemau gyda’r Arweinwyr Grwpiau

·       gallai methiant Arweinydd Grŵp i gydymffurfio’n ystyrlon gyda’r ddyletswydd ddwyn anfri ar eu swydd, gan dorri’r Cod o bosib.

·       Dylai Arweinwyr Grwpiau dystiolaethu eu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd newydd ac adrodd ar eu cydymffurfiaeth gyda’r ddyletswydd i’r Pwyllgor Safonau.

·       Dylai Arweinwyr Grwpiau gydweithio a sicrhau bod eu grŵp yn cydweithio gyda’r Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau pan fydd mater yn cael ei atgyfeirio.

·       ar ddechrau bob blwyddyn yn y cyngor dylai’r Arweinwyr Grwpiau gyfarfod gyda’r Pwyllgor Safonau i gytuno sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd, amlder y cyfarfodydd rhyngddynt drwy gydol y flwyddyn, y trothwy y byddai’r Pwyllgor Safonau’n ei ddefnyddio i bennu a yw Arweinwyr Grwpiau wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau, a’r mecanwaith er mwyn i Arweinwyr Grwpiau gyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor Safonau.

 

Trafododd yr Aelodau’r ddogfen gyda’r Dirprwy Swyddog Monitro yn egluro mai dim ond yn ddiweddar y cyhoeddwyd y canllawiau, ac er eu bod yn ddefnyddiol ac y dylid rhoi sylw iddynt, roedd cwmpas i’r Pwyllgor eu haddasu fel y bo’n briodol, yn enwedig o ran terfynau amser ar gyfer y camau gweithredu ac ati.   Cydnabu’r Aelodau’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud o ran y cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor a’r Arweinwyr Grwpiau, gan gynnwys ymateb cadarnhaol o ran y ffurflen a fabwysiadwyd, a bod angen trafodaethau pellach i ddatblygu’r prosesau hynny, meithrin perthnasoedd da a chydweithio.   Tynnwyd sylw at y cyfle i godi’r mater o ran hyfforddiant hefyd, awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro efallai y byddai’n ddefnyddiol cynnwys Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn hynny.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylid trefnu cyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol (yn cynnwys y Pwyllgor Safonau a’r Arweinwyr Grwpiau) gyda’r nod o ddechrau’r trafodaethau hynny a’r camau gweithredu fel y nodwyd yn y canllawiau i symud ymlaen â’r mater.   Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i drefnu cyfarfod ar yr un diwrnod â’r Pwyllgor Safonau nesaf os oedd modd, fel arall gellir ystyried dyddiad arall.   Roedd y canllawiau yn fanwl a chymhleth ac eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’r cyfarfod cychwynnol yn canolbwyntio ar grynhoi Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a hwyluso trafodaeth ar sut y byddai’r Arweinwyr Grwpiau a’r Pwyllgor Safonau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r broses honno a’r camau rhesymol, fel y nodwyd yn y canllawiau.

 

Cydnabu’r Pwyllgor hefyd bod elfennau eraill o fewn y Canllawiau Statudol yn ymwneud â’r Pwyllgor Safonau ac fe gytunwyd y byddai’r Dirprwy Swyddog Monitro yn darparu manylion pellach ar Ran 2:  Adrannau 5, 6 a 7 ynghyd â Rhan 4:  Yr Atodlen, Adran 6 a’r Rhaglen ac adroddiadau, Adran 15.80 (papurau cefndir), Cadeirio Cyfarfodydd, Adran 15.138 ymlaen, o ran eu perthnasedd i’r Pwyllgor Safonau mewn cyfarfod yn y dyfodol.   Er eglurder, tynnodd y Cadeirydd sylw at Adran 7:  Dyletswydd y pwyllgor safonau i gyflwyno adroddiad blynyddol, ac yn unol â’r canllawiau cytunodd y Pwyllgor y dylid rhannu eu hadroddiad blynyddol gydag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a Chynghorau Tref/ Dinas/ Cymuned drwy’r ohebiaeth adborth cyffredinol cyntaf yn dilyn presenoldeb yn y cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      derbyn a nodi’r diweddariad ar lafar ar Ddyletswydd yr Arweinwyr Grwpiau;

 

(b)      bod y Dirprwy Swyddog Monitro’n trefnu cyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol er mwyn hwyluso trafodaethau rhwng y Pwyllgor Safonau a’r Arweinwyr Grwpiau ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a’r camau nesaf, a

 

(c)      bod y Dirprwy Swyddog Monitro’n cyflwyno adroddiad yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol o ran adrannau perthnasol y Canllawiau Statudol cyn belled ag y bo’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau.

 

 

Dogfennau ategol: