Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL

Derbyn diweddariad llafar ar y Fforwm Safonau Cenedlaethol.

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro wedi mynychu’r ail Fforwm Safonau Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2023.   Amlygodd y Cadeirydd y materion allweddol canlynol:-

 

·       byddai nodiadau’n cael eu rhannu gyda’r Pwyllgorau Safonau a byddent ar gael i’r cyhoedd

·       byddai sesiwn hyfforddi ar gadeirio Pwyllgorau Safonau yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

·       anerchiad gan yr Athro Mark Philp ar ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Bwrdd Ymgynghorol Ymchwil ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

·       anerchiad gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23.

·       trafodaeth ar hyrwyddo safonau uchel, Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a dyletswydd y Pwyllgor Safonau i gyflwyno sylwadau ar gydymffurfiaeth Arweinwyr Grwpiau.   Cadarnhawyd y dylai arweinwyr gyfarfod gyda’r Pwyllgor Safonau llawn.

·       cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned; eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod rhai Cynghorau yn Sir Ddinbych wedi mabwysiadu proses datrysiadau lleol ac eraill heb fabwysiadu’r broses; awgrymodd y Cadeirydd y gellir cynnwys cyfeiriad at y testun yn yr adborth cyffredinol ar ôl mynychu cyfarfodydd.

·       roedd darparu adnoddau ar gyfer Pwyllgorau Safonau’n her, gyda mwy o gyfrifoldebau ar Bwyllgorau Safonau a llwyth gwaith trymach ar gyfer  Swyddogion Monitro.

·       cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar Adolygiad Penn gyda’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn yr hydref; yn dibynnu ar y canlyniadau efallai y byddai angen is-ddeddfwriaeth a chyfnod ymgynghori o 12 wythnos pellach.

·       Roedd Swyddogion Monitro yn ceisio cyflwyno £25 fel yr isafswm o ran gwerth ar gyfer rhoddion a lletygarwch a oedd yn arferiad cyffredin ymysg y mwyafrif o Gynghorau (gan gynnwys Sir Ddinbych).

·       roedd eitemau i’w hystyried yn y dyfodol yn cynnwys protocolau datrysiad lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig a Chyd-bwyllgorau Safonau.

 

Eglurodd y Cadeirydd bod y cyfarfod wedi bod yn hynod ddefnyddiol a phwysleisio y byddai cofnodion cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor Safonau.

 

Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith mai dim ond 35 o’r 280 o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad) oedd wedi’u hymchwilio ac fe drafodwyd y rhesymau posibl dros y niferoedd isel, a allai gynnwys nifer uchel o faterion lefel isel, cwynion gwamal neu flinderus a / neu’n gymhwysiad llym o brawf lles y cyhoedd.   Nodwyd bod y broses o gyflwyno cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn glir a syml.   Roedd yr Aelodau’n derbyn fod gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adnoddau cyfyngedig a dewisiadau i’w gwneud o ran ymchwiliadau a chydbwyso difrifoldeb y materion sy’n cael eu cyflwyno, gan ddefnyddio esgeuluster clinigol fel enghraifft.   Fodd bynnag, roeddent o’r farn y gallai nifer uchel o gwynion nad ydynt yn cael eu hymchwilio arwain at ddadrithiad a cholli cefnogaeth y cyhoedd ac ymddiriedaeth yn y broses, a dim ond drwy gyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai’r Pwyllgor Safonau gyflawni ei waith.   Y ffordd arall o gael cyfranogiad y Pwyllgor Safonau oedd drwy’r protocol cwynion anffurfiol, ond y safbwynt cyffredinol oedd y byddai hynny’n tanseilio safbwynt y Pwyllgor pe bai cwynion yna’n cael eu hatgyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.   Wrth gloi’r drafodaeth, cytunodd yr aelodau y dylid anfon llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi sylwadau’r Pwyllgor o ran niferoedd uchel o gwynion a oedd yn methu prawf lles y cyhoedd, a chyfeirio at bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i atgyfeirio materion at y Pwyllgor Safonau drwy ei ewyllys ei hun i gael datrysiad lleol.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar gyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2023, a

 

(b)      bod y Dirprwy Swyddog Monitro’n drafftio llythyr i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau, yn nodi sylwadau’r Pwyllgor o ran y niferoedd uchel o gwynion sydd heb basio prawf lles y cyhoedd a chyfeirio at bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i atgyfeirio materion at y Pwyllgor Safonau i’w datrys yn lleol.

 

Ar y pwynt hwn (11.55am), cymerodd y pwyllgor egwyl.