Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022 I 2023

Ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar ei weithgareddau yn ystod 2022/23 (copi ynghlwm) a chyflwyno sylwadau ar ei gynnwys ac ar waith y Bwrdd.

 

10.45am – 11.30am

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC)

 

Sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Roedd gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddau nod craidd:

Gwella lles y boblogaeth.

Gwella’r ffordd y darperir Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn y rhanbarth.

 

Bob blwyddyn, roedd gofyn i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru lunio adroddiad a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr adroddiad ar gyfer 2022-2023 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o gyflawniadau ac ymdrechion cyfathrebu ac ymgysylltu yn ogystal â gwybodaeth am flaenoriaethau’r BPRhGC i’r dyfodol.

 

Oherwydd maint yr adroddiad, gofynnodd yr Aelod Arweiniol a fyddai’n bosibl i’r drafodaeth gael ei hagor i’r Aelodau gyda chymeradwyaeth y Cadeirydd. 

 

Croeswyd cwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelodau at y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd prosiectau oedd yn cefnogi gofalwyr yn uniongyrchol yn bwysig, fodd bynnag nododd yr adroddiad bod y cyllid hwn wedi ei roi hyd at 2027. Holodd yr Aelodau a fyddai’r cyllid yn parhau ar ôl y dyddiad hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, cyn cyflwyno’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol bod Cronfa Gofal Integredig, a ddyrannwyd fesul blwyddyn. Ar hyn o bryd, roedd ymrwymiad o 5 mlynedd i’r cyllid, ond Llywodraeth Cymru fyddai’n penderfynu a fyddai hyn yn parhau ar ôl 2027.

 

Holodd yr Aelodau am nifer y Byrddau oedd yn gweithredu yn y BPRhGC a’u swyddogaethau.  Mynegwyd pryderon am ba mor fawr roedd y BPRhGC yn tyfu. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y BPRhGC yn amgylchedd prysur iawn a bod rheoli cyfarfodydd ac amser cydweithwyr yn cael ei drefnu mor effeithlon â phosibl. Roedd llawer o’r byrddau a’r cyfarfodydd yn ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a roddwyd mwy o gyfrifoldeb ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Swyddogion yn ystyriol bob amser bod Sir Ddinbych a phreswylwyr Sir Ddinbych yn cael y gwerth gorau bosibl o’u cyfranogiad yn y BPRhGC. Roedd elfen statudol i’r Bwrdd Partneriaeth a’r Byrddau sydd ynddo. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau mai adroddiad rhanbarthol oedd yr adroddiad a bod y gofynion o ran sut oedd yn cael ei lunio’n cael eu diffinio gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid oedd yr adroddiad mor fanwl am Sir Ddinbych ag yr hoffai Aelodau iddo fod. Os oedd meysydd yn yr adroddiad yr hoffai Aelodau gael mwy o fanylion amdanynt, dywedwyd wrthynt am roi gwybod i swyddogion ac efallai y gellir rhoi’r manylder hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.  

 

Cyfeiriodd Aelodau at y Gronfa Tai â Gofal. Pwrpas y Gronfa oedd cefnogi byw’n annibynnol yn y gymuned i bobl ag anghenion gofal a chymorth, ac i ddarparu safleoedd gofal canolradd yn y gymuned fel y gallai pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu fynd yn ôl i fyw’n annibynnol neu barhau yr un mor annibynnol. Roedd hon yn rhaglen ariannu 4 blynedd oedd yn ariannu cynlluniau dan 3 amcan.

 

Holodd yr Aelodau am amcan 1 - Cynyddu’r stoc tai â gofal presennol yn sylweddol, gan ofyn os oedd diweddariad ar hyn yn Sir Ddinbych. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai ychydig o gynnydd a fu gydag amcan 1 ar hyn o bryd, ond bod hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.  Roedd prosiectau dan amcanion 2 a 3 o’r adroddiad ar hyn o bryd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd Sir Ddinbych yn defnyddio eu dyraniad ac yn symud ymlaen gyda’r Gronfa Tai â Gofal.

 

Holodd yr Aelodau os oedd gwerthusiad o lwyddiant y Byrddau a chanlyniadau’r gwaith oedd ar y gweill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y Byrddau’n cael eu gwerthuso’n drylwyr. Roedd llawer o’r adroddiadau’n rhai statudol oedd yn gorfod cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cynnwys yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad. Roedd yr adroddiadau hyn yn cael eu gwerthuso pan oeddent yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd y BPRhGC yn destun adolygiadau gan Archwilio Cymru  a chynhaliwyd gwerthusiad anffurfiol ac arfer da. 

 

Cyfeiriodd Aelodau at y Cynllun Cyflawni Blynyddol yn atodiad 2 yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw).  Mynegwyd pryderon penodol am ganslo’r Prosiect Gweithlu Tîm Cefnogi Gofal Iechyd, yn y Tîm Nyrsys Ardal, er ei fod yn gwneud gwahaniaeth clir i nifer y cleifion oedd yn yr ysbyty yn aros am becynnau gofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod angen gwneud penderfyniadau anodd yn yr hinsawdd ariannol ar y pryd. Gan fod y tîm hwn yn cael ei ariannu drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, oedd yn gronfa raddol ble roedd cyllid yn gostwng bob blwyddyn, roedd yn rhaid penderfynu pa flaenoriaethau y gellid eu hariannu yn y dyfodol.   Yn anffodus, oherwydd yr hinsawdd ariannol bresennol, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd tebyg yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelodau fod gan Ogledd Cymru y Bwrdd Iechyd mwyaf yn y wlad a bod gan BPRhGC rôl hanfodol yng Ngogledd Cymru.  Dywedodd Aelodau nad oedd llawer o breswylwyr yn ymwybodol o BPRhGC a’i bwrpas a holwyd a oedd ffordd o ymgysylltu â chymunedau lleol a rhoi gwybodaeth iddynt am hyn. Roedd angen rhoi gwybod am BPRhGC o hyd a sicrhau bod pobl leol yn deall ble roedd yr arian yn cael ei wario a’i fod yn rheoli llawer o agweddau o’r system ofal yng Ngogledd Cymru. Eglurodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod ymgysylltu â’r cyhoedd am y BPRhGC yn anodd. Roedd y BPRhGC yn dda am gyfathrebu a rhannu gwybodaeth â phobl oedd yn rhan o’r BPRhGC ac roedd mwy o waith ar y gweill i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

 

Roedd gwaith yn parhau i gasglu straeon defnyddwyr gwasanaeth ar lwyddiant y prosiectau oedd wedi eu helpu. Y gobaith wedyn oedd y gellid dosbarthu llyfryn yn rheolaidd i breswylwyr, Aelodau lleol a Llywodraeth Cymru i helpu ymhellach â gwybodaeth a dealltwriaeth am BPRhGC yn y rhanbarth.

 

Wrth barhau, dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod digwyddiad ar y gweill ar gyfer mis Tachwedd 2023 i helpu preswylwyr ddeall y cynlluniau a phrosiectau oedd yn cael eu cyflawni bob dydd ar draws y rhanbarth.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at bryderon y swyddogion ar ddiwedd yr amserlen ariannu. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd y wybodaeth honno yn yr adroddiad gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn pennu cynnwys yr adroddiad. Awgrymwyd y dylid darllen yr adroddiad ochr yn ochr ag Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol gan fod hwn yn amlinellu’r gobeithion a dyheadau ond hefyd y pryderon am y flwyddyn sydd i ddod. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol a’r Swyddogion am ddod â’r adroddiad gerbron y pwyllgor.

 

 

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: 

 

(i)             bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith y mae'n ofynnol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ei wneud; ac

(ii)           yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod, derbyn y manylion a roddwyd am y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn ystod 2022/23 ar y meysydd oedd yn cael eu datblygu dan nawdd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.  

 

Dogfennau ategol: