Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH

Trafodaeth gyda chynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â chyflawni'r prosiect hwn.

 

10.15am – 10.45am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych.

 

Dywedodd wrth yr aelodau, er mai prosiect gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gefnogi’r prosiect hanfodol hwn.  

 

Eglurwyd bod y Prosiect yn hanfodol oherwydd y pwysau a’r galw cynyddol ar Uned Frys a Damweiniau Ysbyty Glan Clwyd.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi gorfod drafftio eu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd cyntaf, oedd bellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn un o dri phrosiect blaenoriaeth a gyflwynwyd oedd o fewn ffiniau Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd ceisiadau Ffurflenni Sero wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol erbyn hyn, ond er ei fod yn cynnig sicrwydd, dywedwyd y byddai hyn ond yn cyfri am 20% o gyfanswm cyllid y prosiect.  Hefyd dim ond cam cyntaf y cais oedd hwn ac nid oedd yn warant o unrhyw gyllid. 

 

Ym mis Awst 2023, cyfarfu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol â Chadeirydd dros dro a Phrif Weithredwr BIPBC. Roedd hwn yn gyfarfod buddiol iawn oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Pwysleisiwyd bod BIPBC wedi ymrwymo i barhau â’r prosiect hyd y pen a’u bod yn parhau i gysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflymu datblygiad y prosiect.  

 

Mynegodd yr Aelod Arweiniol yr angen diymwad i gwblhau’r prosiect hwn, ond bod angen cadw mewn cof y sefyllfa ariannol anodd sy’n ein hwynebu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y broses a’r amserlenni ymhellach fel a ganlyn:

·       Roedd y Ffurflen Sero (ffurflen gais) bellach wedi cael ei chyflwyno a’i chymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

·       Bydd Prosiectau Gogledd Cymru sydd wedi cael eu cymeradwyo ar lefel Ffurflen Sero yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod yn gam arwyddocaol ymlaen yn y prosiect, ond nid oedd y cyllid wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru eto.

 

Rhestrodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig y mathau o wasanaethau fyddai yn safle Ysbyty Brenhinol Alexandra a’r disgwyliadau, fel a ganlyn:

 

·       Ail gomisiynu gwelyau cymunedol

·       Parthau triniaeth uwch

·       Iechyd Rhywiol Lefel 1-3

·       Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

·       Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

·       Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

·       Symud y Tîm Un Pwynt Mynediad

·       Uned Mân Anafiadau

·       Gwasanaethau Amlddisgyblaethol

·       Awdioleg

·       Radioleg Uwch

·       Gwasanaethau cynghori ataliol e.e. rhoi’r gorau i ysmygu ac ati

·       Lleoedd i’r sector gwirfoddol

 

Pwysleisiwyd eto ei bod yn hinsawdd ariannol anodd iawn a bod costau’r prosiect wedi newid yn sylweddol.  Roedd ar y prosiect cyfalaf angen adolygu’r costau refeniw a dynodi ffynonellau i gau unrhyw fylchau ariannol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r Swyddogion am eu diweddariad cynhwysfawr a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith ar y Prosiect, ond gan fynegi eu siom bod y prosiect hwn wedi cael ei addo i’r gymuned ers cymaint o amser a gofynnwyd am eglurhad am amserlenni’r Prosiect o hyn ymlaen. 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn deall rhwystredigaeth y Pwyllgor ond dywedodd nad oedd amserlen ar hyn o bryd o ran pryd fyddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r Ffurflen Sero y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn ei chyflwyno iddynt. Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am bennu dyddiad ar gyfer ystyried y cais wedi iddynt ei dderbyn.

 

Holodd yr Aelodau pam na chafodd y Pwyllgor adroddiad cyn y cyfarfod, a bod Achos Busnes wedi’i gyflwyno ond nad oedd y Pwyllgor wedi’i weld. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Aelodau’r Pwyllgor wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych ers blynyddoedd lawer.  Ni chyflwynwyd adroddiad ar gyfer y cyfarfod gan nad oedd unrhyw beth ysgrifenedig i’w rannu ar hyn o bryd.

 

Ar y pwynt hwn, eglurodd y Cydlynydd Craffu nad oedd yn rhaid i gynrychiolwyr BIPBC rannu dogfennau â’r Pwyllgor.

 

Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau y Pwyllgor y byddent yn parhau i gysylltu â Llywodraeth Cymru i symud y prosiect yn ei flaen.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd rheolau statudol i orfodi’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru i ymateb yn brydlon i geisiadau a gyflwynwyd. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cydlynydd Craffu ofyn am eglurhad ar hyn gan y Swyddog Monitro.

 

Roedd y mater pryderus o goncrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC) wedi cael sylw mawr yn y wasg yn ystod yr wythnos ddiwethaf a holodd yr Aelodau os oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal arolwg ar safle Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau fod arolygon wedi cael eu cwblhau ar yr adeilad ac na chanfuwyd unrhyw broblemau gyda’r concrid.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am ddod i’r cyfarfod ac am y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd.

 

 

Diolchodd yr Aelodau i Alyson Constantine am ddod i’r cyfarfod ac am rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â nhw.  Felly:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)             bod y Pwyllgor yn cydnabod y wybodaeth a roddwyd am y cynnydd a wnaed hyd yma i ddarparu Prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych;

(ii)           cofrestru ei siom barhaus am y diffyg amserlen bendant ar gyfer cyflawni’r prosiect; a

(iii)          gofyn am i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl cael penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar Gynllun Cyfalaf 10 mlynedd y Bwrdd Iechyd a Chynllun Strategol 10 mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.