Eitem ar yr agenda
MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb aelodau'r
Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Adroddodd yr Aelodau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –
·
Adroddodd yr Aelod Annibynnol
Samuel Jones ar gyfarfod Cyngor Cymuned Llandyrnog a gynhaliwyd am 7pm ar 18
Gorffennaf 2023, a oedd yn gyfarfod wyneb yn wyneb, heb aelod o’r cyhoedd yn
bresennol. Roedd y Cadeirydd a’r Clerc
yn hynod effeithlon, a bu i fwyafrif y cynghorwyr gymryd rhan yn y
cyfarfod. Ceisiwyd datganiadau o
gysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod, gydag un datganiad yn ddiweddarach yn y
cyfarfod gan gynghorydd a gyrhaeddodd yn hwyr, er nad oedd yn glir a oedd yn
gysylltiad personol neu’n un personol sy’n rhagfarnu, ac ni wnaed cyfranogiad
yr aelod yn yr eitem yn glir. Ar y
cyfan, cynhaliwyd cyfarfod proffesiynol, ac roedd yn dda gweld bod aelodau’n
rhagweithiol yn eu cymunedau, ac roedd y drafodaeth yn adeiladol. Roedd yn hawdd cysylltu â’r Clerc ac
roeddent yn ymateb i negeseuon.
·
Yn absenoldeb yr Aelod
Annibynnol Anne Mellor, darllenodd y Dirprwy Swyddog Monitro ei hadroddiad ar
gyfarfod diweddar Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl. Roedd y cyfarfod yn un prysur, ac fe gadwodd
y Cadeirydd cymwys drefn ar y cyfan ac arwain yr aelodau drwy’r cyfan gyda
chymorth y Clerc hynod brofiadol. Yn
anffodus, roedd y Clerc yn llenwi’r bwlch nes y ceir rhywun yn eu lle. Roedd rhywfaint o aflonyddwch yn y Cyngor
Cymuned gydag aelodau wedi ymddiswyddo ac aelodau newydd yn dechrau yn eu
swydd. Teimlir y byddai ymweliad arall
yn ddefnyddiol yn y dyfodol agos ac y croesewir cefnogaeth y Pwyllgor Safonau.
·
Adroddodd y Cadeirydd ar
gyfarfod hybrid Cyngor Sir Ddinbych a gynhaliwyd am 10am ar 5 Medi 2023, a oedd
wedi’i ddarlledu’n fyw. Roedd
presenoldeb da yn y cyfarfod, ond roedd yn gyfarfod hir a gadawodd rhai o’r
aelodau cyn y diwedd. Roedd swyddogion
yn bresennol yn yr ystafell ac ar-lein ac roedd yn anodd cadarnhau a oedd y
rhai yn oriel y cyhoedd yn swyddogion neu’n aelodau o’r cyhoedd, er y daeth dau
aelod o’r cyhoedd i ofyn cwestiynau ac anogodd y Cyngor fwy o gyfranogiad gan y
cyhoedd. Roedd datgan cysylltiad ar y
rhaglen a darllenwyd datganiad gydag un cysylltiad yn cael ei ddatgan ac fe
weithredodd yr aelod yn unol â’u datganiad.
Roedd pedwar mater brys wedi’u hychwanegu. Roedd yr holl aelodau a’r swyddogion yn
ymddwyn gyda pharch tuag at y Cadeirydd a’i gilydd, ac roedd y Cadeirydd yn
sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad.
Ni chaniataodd newid i gynnig yn ystod un o’r trafodaethau gan ei fod yn
teimlo ei bod yn rhy hwyr yn y broses i wneud hynny. Sicrhaodd y Cadeirydd bod y cyfarfod yn cael
ei gynnal yn llyfn ac effeithlon, ac yn arwain yr aelodau i ganolbwyntio ar y
drafodaeth yn barchus. Codwyd pwyntiau
o drefn a’u datrys yn ddigonol.
Rhoddodd y Swyddog Monitro gyngor ac eglurhad yn ystod y cyfarfod i
gefnogi’r Cadeirydd a’r cynghorwyr.
Nodwyd nad oedd y weithdrefn bleidleisio yn sicrhau bod y cynghorwyr
sy’n mynychu ar-lein yn gallu pleidleisio’n ddi-enw. Felly, cafodd y cyfarfod ei gynnal yn dda,
gan annog trafodaeth, roedd yr ymddygiad yn dda ac yn broffesiynol.
Tynnodd yr aelodau sylw at yr angen i gytuno ar fethodoleg o ran sut i
ddarparu adborth mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol ar ôl mynychu
cyfarfodydd. Cadarnhawyd y dull a
gytunwyd yn flaenorol bod materion sylweddol neu frys yn cael eu rhannu gyda’r
Swyddog Monitro. Cafwyd trafodaeth
helaeth ar fanteision darparu adborth unigryw i’r cynghorau unigol ac adborth
cyffredinol i’r holl gynghorau i rannu arferion gorau, yn enwedig o ystyried
mai dim ond cyfran o’r cynghorau fyddai wedi derbyn ymweliad. Mynegwyd safbwyntiau gwahanol o ran sut i
symud ymlaen ac fe drafodwyd y rhain gan arwain at gydsyniad y byddai’n gwrtais
darparu rhyw fath o gydnabyddiaeth ac adborth unigol ar ôl ymweliad mewn modd
cytbwys a chefnogol. Cytunwyd hefyd y
dylid cyflwyno adborth cyffredinol a negeseuon allweddol / themâu cyffredin i’r
holl gynghorau fesul chwarter ar ôl derbyn adroddiadau’r aelodau ar bresenoldeb
yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau.
(a) y
dylid nodi’r adroddiadau llafar oddi wrth aelodau a fu yn y cyfarfodydd, a
(b) bod
y fethodoleg ar gyfer adborth yn dilyn mynychu cyfarfodydd yn cael ei chytuno
fel a ganlyn –
-
os bydd unrhyw
bryderon, dylai’r Swyddog Monitro gysylltu â Chlerc neu Gadeirydd y Cyngor;
-
mewn perthynas
â Chynghorau unigol sydd wedi derbyn ymweliad, cyflwynir llythyr i’r Cyngor
hwnnw gydag adborth ar ôl pob Pwyllgor Safonau, a
-
cyflwyno
adborth di-enw gan y Pwyllgor Safonau i’r holl Gynghorau Tref/ Dinas/ Cymuned
fesul chwarter, mewn e-bost /llythyr.