Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF.47/2023/0389 - TYN Y FFYNNON, CWM, Y RHYL
Ystyried cais ôl-weithredol ar gyfer codi estyniad ochr garej dwbl i'r annedd yn Tyn Y Ffynnon, Cwm, Y Rhyl (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ôl-weithredol
i godi estyniad garej ddwbl ar ochr yr annedd yn Tyn Y Ffynnon Cwm Rhyl.
Siaradwr Cyhoeddus –
Darllenodd y Rheolwr Datblygu
ddatganiad ar ran yr ymgeiswyr a oedd yn dymuno peidio â bod yn bresennol yn y
cyfarfod – roedd y datganiad fel a ganlyn.
“Ysgrifennaf ynglŷn â
chais caniatâd cynllunio ôl-weithredol 47/2023/0389 mewn perthynas â Tyn Y
Ffynnon, Cwm - Cais ôl-weithredol i godi estyniad garej ddwbl ar ochr yr
annedd.
Prynwyd Tyn Y Ffynnon, Cwm,
Dyserth ym mis Ebrill 2021 a chyflogwyd adeiladwr lleol i gwblhau gwaith
amrywiol ar yr eiddo.
Roedd lle parcio ar ochr yr
eiddo wedi'i orchuddio â llechi mân rhydd ac wedi’i amgylchynu gan wal isel o
flociau concrit wedi'i rendro ar ddwy ochr.
Bwthyn bychan Cymreig wedi’i
ymestyn oedd Tyn y Ffynnon ac roedd wedi’i adeiladu o gerrig, ei rendro a’i
beintio’n wyn. Nid oedd lle storio ar gael yn yr eiddo ar gyfer eitemau fel
beiciau pedal ac offer pan brynom yr eiddo. Roeddem am ddatblygu man storio
rhag y tywydd; felly, fe wnaethom holi Swyddfa Gynllunio Cyngor Sir Ddinbych
ynglŷn â pha ganiatâd oedd ei angen a darganfod bod angen caniatâd
cynllunio arnom ar gyfer adeiledd ar ochr y tŷ. Fe wnaethom gyflogi
pensaer lleol a gynhyrchodd y cynlluniau a’u cyflwyno, a rhoddwyd y caniatâd ar
14 Gorffennaf 2021.
Roedd y cynllun gwreiddiol ar
gyfer adeiledd pren ar wahân. Pan drafodwyd hyn gyda'r adeiladwr, dywedodd mai
ateb gwell fyddai ymestyn waliau bloc presennol y tŷ i'r uchder
angenrheidiol, rendro a phaentio'r waliau hyn yn wyn a gosod drws codi gwyn ar
y ffrynt. Dywedodd y byddai parhau â'r cynllun gwreiddiol o adeiladu adeiledd
pren yn llai diogel, yn golygu mwy o waith cynnal a chadw, yn fwy costus
oherwydd pris pren, ac na fyddai mor ddeniadol i’r llygad gan y byddai adeiledd
wedi'i wneud o floc a’i rendro’n wyn yn cydweddu’n ddi-dor â gweddill y
tŷ.
Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn
cyngor yr adeiladwr ac yn cytuno â’i safbwynt, a gofynnodd iddo fwrw ymlaen â’r
gwaith adeiladu.
Nid oeddem yn ystyried bod
angen gwneud cais am newid caniatâd cynllunio. Roedd hwn yn gamgymeriad ar ein
rhan ni, ac nid ydym yn cynnig unrhyw esgus amdano a hoffem ymddiheuro'n
ddiffuant am ein gweithredoedd.
Y cais presennol am ganiatâd
cynllunio ôl-weithredol ar gyfer yr adeiledd hwn oedd testun y llythyr hwn.
Deallaf fod Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen
wedi codi’r gwrthwynebiadau a ganlyn i’r cais hwn: “Gwrthwynebiad i’r to fflat
gan fod yr adeilad o fewn AHNE ac yn ymddangos yn anghydnaws â gweddill yr
adeilad.”
Yn gyntaf, byddwn yn dweud bod
yr adeilad wedi'i adeiladu mewn modd a oedd yr un fath â blaen y tŷ, gyda
rendrad wedi'i baentio i sicrhau bod y gorffeniad yn cydweddu.
Yn fy marn i (er yn
rhagfarnllyd), mae'n ymddangos bod yr adeiledd a godwyd yn cydweddu'n ddi-dor
â'r tŷ. Mae'r to ar oleddf yn y cefn ac ni ellir gweld hyn o'r ffordd.
Nodaf mai ymateb Dave Williams
ar gyfer Cydbwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy oedd “Er gwaethaf
dyluniad gwael yr estyniad garej, sy’n sefyll yn lletchwith ar ochr yr annedd
bresennol, cyn belled â bod y deunyddiau yn cyd-fynd â’r rhai presennol, nid
oedd yr effaith ar yr AHNE ehangach yn cael ei ystyried yn un arwyddocaol. O ystyried
edrychiad a maint y garej sydd ynghlwm wrth y tŷ, argymhellwyd gosod amod
i atal unrhyw ddefnydd masnachol yn yr eiddo a'i fod yn parhau i fod yn atodol
i'r prif annedd. Nid oedd gan y Cydbwyllgor unrhyw wrthwynebiadau."
Byddwn yn dweud yn barchus bod
yr ymateb hwn gan yr awdurdod AHNE, sef nad yw’r effaith ar yr AHNE ehangach yn
cael ei ystyried yn un arwyddocaol, yn llawer mwy arwyddocaol na sylwadau’r
Cyngor Cymuned. Roedd yr amod a argymhellwyd o ran dim defnydd masnachol yn
gwbl dderbyniol, ac ni fyddai gennyf wrthwynebiad i’r amod hwnnw.
Gofynnwn yn barchus i’r cais
hwn gael ei basio ac ymddiheurwn unwaith eto am fethu â chydymffurfio â’r
rheoliadau cynllunio.
Trafodaeth Gyffredinol –
Dywedodd y Cynghorydd Merfyn
Parry fod yr ymgeiswyr yn gwybod eu bod wedi gwneud camgymeriadau gyda'r cais
a’u bod wedi ymddiheuro am hynny, gan nad oedd yr AHNE yn codi unrhyw bryder
gyda'r cais.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo’r
cais ôl-weithredol yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Alan James.
Roedd rhai o'r aelodau
cynllunio yn cefnogi'r cais, gan ddweud nad oedd gan yr AHNE unrhyw broblem
gyda'r datblygiad a'u bod yn teimlo ei bod yn dderbyniol cymeradwyo’r cais.
Roedd rhai aelodau hefyd wedi datgan eu bod yn mynd heibio'r
ardal yn aml a heb sylweddoli bod y datblygiad wedi digwydd o gwbl, cyn lleied
oedd yr effaith weledol.
Tra bod rhai aelodau yn
cefnogi'r cais, teimlai eraill nad oedd y datblygiad yn cydweddu â gweddill y
tŷ yn wahanol i'r adeiledd pren ar wahân gwreiddiol, a ganiatawyd yn
flaenorol.
PLEIDLAIS –
O blaid – 11
Yn erbyn – 3
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais cynllunio yn unol ag
argymhelliad y swyddog.
Dogfennau ategol: