Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF. 15/2022/0154 -FFERM NORTH HILLS, GRAIANRHYD, YR WYDDGRUG
Ystyried cais i godi annedd
menter wledig, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig yn Fferm North Hills, Graianrhyd, yr Wyddgrug (copi
ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi annedd menter wledig, gosod gwaith
trin pecynnau a gwaith cysylltiedig ar Fferm North Hills, Graianrhyd, Yr
Wyddgrug.
Siaradwr Cyhoeddus –
Simon Garret (O blaid) – diolchodd i'r pwyllgor am y
cyfle i siarad; Hysbysodd Mr Garret y pwyllgor ei fod yn byw ar y fferm ochr yn
ochr â'i wraig a'i deulu, a’i fod wedi datblygu’r fferm o'r newydd dros gyfnod
o ddeuddeg mlynedd. Roeddent yn rhedeg busnes unigryw o fagu ceirw, tyfu coed Nadolig
a llety gwyliau. Roedd cais am annedd menter wledig i ganiatáu i'r teulu barhau
i fyw a gweithio gyda'r ceirw, gan fod angen sylw arnynt bob awr o’r dydd.
Mae trafodaethau helaeth wedi bod rhwng yr ymgeisydd a
swyddogion cynllunio; roedd y gofynion swyddogaethol wedi'u cyflawni, ac mae'r
prawf amser hefyd wedi'i fodloni i redeg y fenter. Roedd y fenter yn hyfyw i
ariannu datblygiad yr eiddo newydd ar y safle a chynnal y busnes; fodd bynnag,
mae swyddogion wedi argymell gwrthod oherwydd Nodyn Cyngor Technegol Polisi
Cynllunio (TAN6). Gwerthwyd cartref y teulu i fuddsoddi yn y busnes er mwyn
caniatáu iddo dyfu i'r dyfodol. Nid oedd gan yr ymgeisydd unrhyw fwriad i
gamdrafod y system gynllunio; eu dymuniad oedd diogelu eu teulu a dyfodol y
fferm yn unig. Roedd Fferm North Hills yn atyniad i ymwelwyr ac yn dod â hwb
economaidd i’r gymuned leol; roedd hefyd ffactorau addysgol yn gysylltiedig â’r
fenter. Ni fyddai'n bosibl i'r busnes barhau heb i’r teulu fyw ar y safle.
Trafodaeth Gyffredinol –
Gwahoddodd y cadeirydd y rheiny a ymwelodd â’r safle i
ddweud eu dweud am y cais yn dilyn eu hymweliad.
Diolchodd y Cynghorydd Merfyn Parry i'r cadeirydd am y
cyfle i siarad. Pan ymwelwyd â'r safle, gwelwyd gwaith da drwyddi draw; fodd
bynnag, teimlai fod sawl agwedd ar y safle a oedd yn ymddangos yn ddi-awdurdod
neu’n ddireolaeth. Cytunodd y Cynghorydd Ellie Chard, a ymwelodd â’r safle
hefyd, â'r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Parry.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies (aelod lleol) na
allai gefnogi'r cais; roedd y gymuned leol yn gwrthwynebu’r cais. Credai fod yr
ymgeisydd yn ceisio osgoi cyfraith cynllunio; roeddent wedi gwerthu eu tŷ
ac wedi byw mewn llety dros dro am chwe blynedd. Dywedodd mai'r unig reswm yr
oedd y cais yn cael ei drafod yn y pwyllgor cynllunio oedd oherwydd y
rhybuddion gorfodi ar y safle.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Terry Mendies y dylid
gwrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd James Elson.
Yn dilyn ymholiadau gan aelodau ynghylch yr adeiladau
eraill ar y safle, dywedodd y swyddogion fod sawl achos ar y gweill; fodd
bynnag, atgoffwyd yr aelodau i ganolbwyntio ar y cais a'r materion
cysylltiedig.
Holodd yr aelodau pam mae angen gofal bob awr o’r dydd ar
y ceirw ac a oedd y gofal yn wahanol i dda byw eraill. Gofynnodd yr Aelodau
hefyd am eglurhad ynghylch pam mae gwerthu'r eiddo i ariannu'r busnes yn torri'r
polisi cynllunio. Mewn ymateb, eglurodd swyddogion cynllunio y byddai angen yr
un faint o ofal ar geirw â da byw eraill; eglurodd Swyddogion hefyd mai’r elfen
allweddol o ran diffyg cydymffurfio â pholisi a chanllawiau oedd y ffaith bod
yr ymgeisydd wedi gwerthu’r annedd gwledig yn ôl yn 2017. Mae'r ymgeisydd wedyn
wedi creu angen am ail annedd mewn lleoliad gwledig sy'n rhan hanfodol o’r
polisïau cyfyngiadau gwledig sy'n ceisio gwarchod cefn gwlad agored rhag
datblygiad diangen. Eglurodd Swyddogion mai'r dull arferol oedd datblygu busnes
o amgylch eiddo sy'n bodoli eisoes.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts na allai
gefnogi'r cais fel ag yr oedd; fodd bynnag, teimlai pe bai'r cais yn cael ei
gyflwyno fel cais safle cyfan, y byddai ganddo fwy o rinwedd ac, yn ei
gyfanrwydd, y byddai’n gais mwy cadarn.
Dywedodd y pwyllgor y byddai'r penderfyniad ynglŷn
â’r cais yn un anodd gan y byddai'n effeithio ar y teulu lleol; fodd bynnag,
roeddent yn deall bod angen iddynt edrych ar y cais gan seilio eu penderfyniad
ar ystyriaethau perthnasol.
PLEIDLAIS –
O blaid – 15
Yn erbyn – 0
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y
cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Dogfennau ategol: