Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.

10.45 am

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cafwyd cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)            nid yw swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad yw’r cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iii)          amodau ychwanegol yn berthnasol i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol megis yr un a gyflwynwyd yn yr achos hwn ynghyd â thystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, a

 

(iv)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos a chyfeiriodd at y ddogfennaeth gefnogol a oedd wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw gyda’r adroddiad.  Roedd yn weithredwr cerbydau arbenigol sefydledig gydag enw da a rhoddodd ychydig o gefndir i’r math o fusnes yr oedd yn ei weithredu a oedd yn darparu ar gyfer marchnad arbenigol.  Cyfeiriwyd at rinweddau’r cerbyd arbenigol arfaethedig ar gyfer trwyddedu yn ogystal ag amserlenni cynnal a chadw a thrin a gefnogwyd gan garej leol.  Roedd y cais ar gyfer cerbyd arbenigol gyda defnydd cyfyngedig ar gyfer digwyddiadau arbennig, a oedd yn cael ei gynnal i safon uchel ac yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a diogelwch.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd yr Ymgeisydd mae ei fwriad oedd i uwchraddio a chael cerbyd newydd yn lle ei gerbyd trwyddedig presennol yn hytrach nac ychwanegu at y fflyd.  Yn nhermau’r cyfundrefnau cynnal a chadw blaenorol, roedd gan yr Ymgeisydd fanylion hanes blaenorol o drin y cerbyd ac MOT ac roedd y cerbyd wedi ei archwilio ac roedd yn fodlon â’r archwiliad; hefyd rhoddodd sicrwydd ynglŷn â chyfundrefnau cynnal a chadw parhaus yn y dyfodol.  Yn olaf cadarnhaodd ei fod yn barod i gydymffurfio gyda’r amodau trwyddedu ychwanegol ar gyfer y cerbyd dan sylw fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod ac yn y cyfarfod ei hun.

 

Wrth ddod i benderfyniad, nododd y Pwyllgor natur a’r math o fusnes a weithredwyd, a bod y cerbyd dan sylw â milltiroedd isel ac mae ychydig o deithiau arbenigol fyddai’n cael eu gwneud a bod yr Ymgeisydd yn weithredwr gydag enw da ac wedi hen sefydlu mewn gwasanaethau arbenigol o’r fath.  Ar y sail honno, ac ar ôl ystyried yn benodol yr uchod, a’r gwasanaeth cynnal a chadw llym ddwywaith y flwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, cytunodd yr Aelodau bod achos wedi’i gyflwyno i wyro o’u polisi cyfyngiad oedran yn yr achos hwn, ac i ganiatáu’r cais fel a gyflwynwyd, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i’r math o gerbyd arbenigol, fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

[Wrth fynd heibio nododd y Pwyllgor ei bod yn debygol y byddai polisi ar wahân mewn perthynas â’r mathau o gerbydau arbenigol yn cael ei lunio yn y dyfodol, un ai fel rhan o ddiwygiad Llywodraeth Cymru o drwyddedu tacsis neu drwy fframwaith polisi y Cyngor ei hun.]

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.

 

Dogfennau ategol: