Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol –

 

(a)      bod yr Aelodau'n cyfarwyddo'r swyddogion i ymgynghori ar weithredu cynnydd i'r tariff o 5% (wedi'i dalgrynnu i'r ganran gyfan agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro;

 

(b)      awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â hysbysiad statudol sydd â dyddiad gweithredu o leiaf 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad, a

 

(c)      rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os ceir unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol.

 

Cofnodion:

[Ymatalodd y Cynghorydd Win Mullen-James rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan ei bod wedi ymuno â’r cyfarfod yn hwyr ac nad oedd wedi bod yn bresennol am y drafodaeth gyfan.]

 

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (RhBGC) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), gan gynnwys dewisiadau i’w hystyried ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.  Roedd y ffioedd tariff cyfredol wedi eu gosod yng Ngorffennaf 2022.

 

Yn dilyn cais gan yrrwr trwyddedig, roedd swyddogion wedi ymgynghori ar gynnydd arfaethedig o 10% i’r holl dariffau a ffioedd ychwanegol i ganfod safbwyntiau’r fasnach drwyddedig.  Roedd yr ymateb yn cynnwys cefnogaeth gyffredinol ar gyfer cynnydd ac amrywiadau amgen niferus i’r cynnig.  Roedd Adroddiad yr Ymgynghorydd Trwyddedu ar adolygiad o’r ffioedd 2022 wedi argymell methodoleg ar gyfer cyfrif ffioedd yn y dyfodol a oedd yn ddibynnol ar ddata digonol yn cael ei ddarparu gan y fasnach drwyddedu; roedd y gwaith ymgysylltu hwnnw wedi dechrau heb unrhyw amserlen benodol ar gyfer cwblhau.  Yn absenoldeb y data hwn, roedd yr Ymgynghorydd wedi argymell defnyddio'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro (4.8% ar Awst 2023) fel adnodd i gynyddu/gostwng ffioedd.

 

Fe arweiniodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd Aelodau drwy’r adroddiad yn fanwl a’r dewisiadau oedd ar gael i un ai cadw’r tabl ffioedd presennol, cefnogi’r cynnig ar gyfer cynnydd o 10% mewn tariff neu gefnogi cynnydd yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro.  Pe byddai Aelodau’n cefnogi cynnydd mewn ffioedd byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cynnig gydag unrhyw wrthwynebiadau’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w hystyried.  Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun Penderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol.  Roedd swyddogion wedi argymell ymgynghoriad ar gynyddu ffioedd 5% (wedi ei dalgrynnu i’r canran llawn agosaf) yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd.

 

Ystyriodd Aelodau’r adroddiad a’r dewisiadau oedd ar gael iddynt, ac roedd yna safbwyntiau cymysg ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen.  Codwyd cwestiynau gyda’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud ag agweddau amrywiol o’r adroddiad a’r ymgynghoriad cychwynnol gyda’r fasnach, a chodwyd rhai pryderon yn ymwneud â thybiaethau nad yw’r rhai na ymatebodd yn gefnogol i adolygiad, diffyg ymateb cyffredinol o’r fasnach tacsis i lywio’r broses ac amrywiadau graddfa chwyddiant pan oeddent yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer cynyddu ffioedd.  Tra codwyd pryderon cyffredinol yn ymwneud ag amseru cynnydd mewn ffioedd yn ystod argyfwng costau byw a’r effaith ar ddefnyddwyr tacsis, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r effaith ar y fasnach dacsis a oedd yn ymdrin â chostau cynyddol sy’n effeithio ar y diwydiant.  Teimlwyd y dylai fod yna ddull mwy strwythuredig o adolygu ffioedd yn rheolaidd.

 

Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau fel a ganlyn –

 

·       nid oedd yna unrhyw derfynau amser statudol ar gyfer adolygu ffioedd a phrisiau tacsis

·       yn dilyn y cais i gynyddu tariff, ystyriwyd ei bod yn briodol i fesur cefnogaeth ar gyfer cynnydd gan y fasnach dacsis

·       ymgynghorwyd â 280 o yrwyr trwyddedig, roedd 56 wedi ymateb gyda 47 yn cefnogi cynnydd, ac ystyriwyd hynny’n ddigonol i fynd ymlaen gydag adolygiad

·       nid oedd yna unrhyw fethodoleg y tu ôl i’r dybiaeth fod y rhai hynny a fethodd ymateb yn fodlon gyda’r tariff presennol, ac o ystyried y gyfradd ymateb isel i ymgynghoriadau’n gyffredinol ni ellid dod i gasgliad boddhaol ynglŷn â’r dybiaeth honno 

·       roedd swyddogion yn gweithio i ymgysylltu gyda’r fasnach dacsis fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd gyda’r bwriad o gyfrifo cynnydd mewn prisiau yn y dyfodol ac wedi cwblhau’r gwaith hwnnw byddai adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar sail strwythurol ac amserol

·       tra y cyfeiriwyd at ymgyngoreion ac ymatebwyr fel gyrwyr trwyddedig roeddent hefyd yn cynnwys perchnogion busnesau tacsis

·       pe byddai cynnydd mewn prisiau’n cael ei gefnogi byddai ymgynghoriad eang gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid yn dilyn

·       fe dderbyniwyd fod y cynnydd a argymhellwyd o 5% yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro, fel yr oedd ym mis Awst 2023, yn newid yn fisol ond i ddibenion adolygiad roedd angen ffigwr y cytunwyd arno er mwyn symud ymlaen

·       nodwyd er bod chwyddiant wedi gostwng yn ddiweddar roedd yn golygu fod costau wedi codi’n fwy sylweddol nac yn flaenorol ac roeddent yn parhau i gynyddu ond ar raddfa arafach

·       mae tariffau yn gosod y ffi uchaf posibl a ganiateir, a gellid codi ffi is

·       roedd yr Ymgynghorydd wedi cwblhau ei adroddiad ac nid oedd yna unrhyw gostau eraill yn ymwneud ag ymgynghoriaeth yn cael eu hysgwyddo gan yr awdurdod mewn perthynas â’r gwaith hwnnw.

 

Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn anghyfforddus gyda chynnydd mewn tariff ar yr adeg hon, ond roedd yn cydnabod y cynnydd mewn costau yr oedd y fasnach dacsis yn ei wynebu.  Roedd yn teimlo y byddai ymgynghoriad ar gynnydd o 5% yn briodol i geisio cael safbwyntiau’r cyhoedd yn ehangach i lywio unrhyw benderfyniad dilynol.  O ganlyniad cynigodd y Cynghorydd Butterfield, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Alan James, argymhellion y swyddog fel y nodir ym mharagraffau 6.1, 6.3 a 6.4 yn yr adroddiad, i ymgynghori ar gynnydd o 5%, parhau gyda’r hysbysiad statudol o ran hynny, ac adrodd unrhyw wrthwynebiadau yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Ni allai’r Cynghorydd Brian Jones gefnogi cynnydd mewn tariff ar yr adeg hon o ystyried yr argyfwng costau byw presennol ac nid oedd yn credu fod y nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad mewn cefnogaeth i gynnydd yn ddigonol i barhau gyda hynny.  Cynigodd y Cynghorydd Jones ddiwygiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin, i gadw tabl presennol y ffioedd.   Eglurodd y Cyfreithiwr y broses yn ymwneud â diwygiadau i gynigion a galwodd y Cadeirydd am bleidlais ar y diwygiad.

 

Cododd y Cynghorydd Gwyneth Ellis bwynt o drefn ar ddilysrwydd y diwygiad, roedd yn dadlau nad oedd hwn yn ddiwygiad ond yn bleidlais yn erbyn y cynnig.  Ailadroddodd y Cyfreithiwr y dewisiadau oedd ar gael i’r Pwyllgor fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Os oedd y diwygiad yn methu, roedd y Pwyllgor i bob pwrpas yn cytuno i gynnydd, ond roedd yna’r dewis nad oedd wedi ei benderfynu eto o gynyddu o 5% neu 10%.

 

Ar ôl cyfrif y pleidleisiau, ceisiwyd eglurhad gan y Cynghorydd Butterfield p’un ai a oedd wedi pleidleisio a sut roedd wedi pleidleisio, nid oedd wedi ei nodi.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Butterfield ei phleidlais a chanlyniad hynny oedd pleidlais gyfartal.  Defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y diwygiad a GOLLWYD.  Galwodd y Cadeirydd am bleidlais ar y cynnig gwreiddiol gan y Cynghorydd Joan Butterfield, a eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, a gafodd ei ailddatgan er budd yr Aelodau.   

 

Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD, drwy fwyafrif –

 

(a)      bod y swyddogion yn cael cyfarwyddyd i ymgynghori ar weithredu cynnydd i'r tariff o 5% (wedi'i dalgrynnu i'r ganran lawn agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro;

 

(b)      awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â hysbysiad statudol sydd â dyddiad gweithredu o leiaf 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad, a

 

(c)      rhoi cyfarwyddyd i swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os ceir unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol.

 

 

Dogfennau ategol: