Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TAIR TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu tair trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am fethu â chydymffurfio â gofynion y Cyngor i sefyll prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus.

 

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei symud ymlaen ar y rhaglen gyda chaniatâd y Cadeirydd]

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd tri Gyrrwr, rhifau 040298, 040448 a 040740 (adroddiadau unigol cyfatebol yn Atodiad 1 – 3 yn eu tro i’r prif adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl iddynt fethu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr y Cyngor o fewn yr amserlen a bennwyd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r amgylchiadau unigol yn ymwneud â phob Gyrrwr ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiant fel a ganlyn –

 

(1)               Gyrrwr rhif 040740 (Atodiad 3) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Anfonwyd 5 nodyn atgoffa at y Gyrrwr ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond ni wnaeth unrhyw ymdrech i gysylltu â'r swyddogion. Ar 6 Mehefin, hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu er ystyriaeth.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi ei achos ac yn ystod ei gyflwyniad siaradodd yn erbyn y prawf a oedd yn ei farn ef yn annigonol ac yn methu â chyflawni ei bwrpas o asesu’n ddigonol addasrwydd unigolion i fod yn yrwyr trwyddedig. Dywedodd ymhellach, i gefnogi ei gais am drwydded, iddo gyflwyno amrywiol dystysgrifau a thystlythrau a oedd, yn ei farn ef, yn profi ei addasrwydd ar gyfer cyflogaeth o’r fath, gan fynd y tu hwnt i’r prawf gwybodaeth gyrwyr. Aeth y Gyrrwr ymlaen i leisio nifer o gwynion ynglŷn â’r hyn a welai fel diffyg gweithredu gan yr Adran Drwyddedu wrth ddelio ag amrywiol bryderon a godwyd ganddo mewn perthynas â thrwyddedu tacsis. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Gyrrwr gyfyngu ei gyflwyniad i’r rhesymau pam nad oedd wedi ymgymryd â'r prawf gwybodaeth yn llwyddiannus yn unol â’r gofynion. Ailadroddodd y Gyrrwr ei farn bod y prawf yn annigonol ac nad oedd yn cyflawni ei bwrpas.

 

Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi’r Gyrrwr ynglŷn â’r achos a chadarnhawyd iddo fethu ag ymateb i unrhyw nodyn atgoffa i sefyll y prawf gwybodaeth a anfonwyd gan yr Adran Drwyddedu. Sefydlwyd, trwy beidio â sefyll y prawf ac wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu, ei fod yn protestio yn erbyn yr hyn a gredai ef oedd yn diffyg gweithredu gan yr Adran Drwyddedu o ran ymateb i’w bryderon a’i gwynion mewn perthynas â thrwyddedu tacsis. Ailadroddodd y pwynt hwnnw eto wrth wneud ei ddatganiad terfynol i’r pwyllgor. Ychwanegodd ei fod yn teimlo nad oedd wedi ei drin yn deg gan yr Adran Drwyddedu yn ei drafodaethau gyda hwy, a’i fod wedi ei aflonyddu gan Swyddogion Trwyddedu. Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu (JT) ei bod yn ymwybodol bod y Gyrrwr wedi codi pryderon ac ymholiadau gyda’r Adran Drwyddedu, a bod y swyddogion wedi gwneud eu gorau i ddelio â hwy.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried y cais ac fe –

 

BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr rhif 040740 i roddi cyfle pellach i’r Gyrrwr sefyll y prawf gwybodaeth. Byddai methiant ar ran y Gyrrwr i sefyll y prawf gwybodaeth yn llwyddiannus erbyn cyfarfod nesaf y pwyllgor (5 Rhagfyr 2012) yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w benderfynu.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Tra’n cydnabod bod gan y  Gyrrwr bwynt i’w wneud mewn perthynas â materion trwyddedu, nid gwrthod sefyll y prawf gwybodaeth, a oedd yn berthnasol i bob gyrrwr, oedd y ffordd i brotestio. Roedd angen i bob gyrrwr trwyddedig sefyll y prawf ac ni ellid cael amgylchiadau eithriadol a fyddain rhwystro’r Gyrrwr rhag sefyll y prawf. Aelodau’r busnes oedd wedi galw am y prawf ac roedd yn rhan o’r gofynion i ddod yn yrrwr trwyddedig. Byddai methu â chwblhau’r prawf yn llwyddiannus erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ar 5 Rhagfyr 2012 yn arwain at y Pwyllgor yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i ddirymu trwydded y gyrrwr oherwydd bod yr Ymgeisydd wedi methu â dangos arddangos ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Gyrrwr.

 

(2)               Gyrrwr rhif 040298 (Atodiad 1) – Dyddiad Adnewyddu 31 Awst 2011

 

Anfonwyd chwe nodyn atgoffa at y Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ac ar 6 Mehefin 2012 cafodd ei hysbysu y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu. Ar ôl cais aflwyddiannus gan y Gyrrwr i basio’r prawf gwybodaeth, roedd y Swyddog Trwyddedu (JT) yn falch o adrodd bod y Gyrrwr ers hynny wedi ail-sefyll y prawf yn llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD cydnabod cwblhad llwyddiannus y prawf gwybodaeth i yrwyr gan yrrwr rhif 040298 a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Roedd y Gyrrwr nawr wedi cydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus ac felly ystyriwyd nad oedd angen cymryd camau pellach.

 

(3)               Gyrrwr rhif 040298 (Atodiad 2) – Dyddiad Adnewyddu 31 Awst 2012

 

Anfonwyd chwe nodyn atogffa at y Gyrrwr ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond ni wnaeth unrhyw ymgais i gysylltu â swyddogion. Ar 6 Mehefin 2012 hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD atal trwydded Gyrrwr rhif 040448 nes bydd wedi cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus. Byddai methiant gan y Gyrrwr i sefyll y prawf yn llwyddiannus erbyn cyfarfod nesaf y pwyllgor (5 Rhagfyr 2012) yn arwain at ddod â’r mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w benderfynu. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o fewn y cyfnod atal yn arwain at ddileu’r ataliad.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Ystyriai’r pwyllgor bod y Gyrrwr wedi cael digon o gyfle i sefyll prawf gwybodaeth gyrwyr a’i fod wedi dangos amarch tuag at y pwyllgor trwy fethu â mynychu’r cyfarfod i gyflwyno ei achos. Felly ystyriodd y pwyllgor ei bod yn briodol atal trwydded y Gyrrwr nes byddai wedi llwyddo yn y prawf gwybodaeth. Byddai methiant ar ran y Gyrrwr i sefyll y prawf yn llwyddiannus yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor pan roddid ystyriaeth o ddifrif i ddirymu ei drwydded oherwydd nad oedd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

 

Dogfennau ategol: