Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TORRI GWAIR AR YMYLON PRIFFYRDD 2012

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn adolygu’r rhaglen dorri gwaith ar gyfer 2012, ac yn asesu effeithiolrwydd yr argymhelliad a roddwyd ger bron gan y Pwyllgor ar gyfer tymor 2012.

                                                                                                         9.35 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen, yn adolygu rhaglen torri gwair 2012, asesu effeithiolrwydd yr argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor ar gyfer 2012 ac yn galluogi llunio argymgellion ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf yn sicrhau bod cymunedau Sir Ddinbych yn daclus a diogel ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr. Dosbarthwyd copi o “Life on the Edge”, Prosiect Ymylon Ffyrdd, Amddiffyn Blodau Gwyllt Sir Ddinbych yn y cyfarfod.

 

Bu i’r Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith, grynhoi’r adroddiad ac amlinellodd raglen torri gwair y Cyngor, yn amlinellu problemau torri gwaith yn 2012 ac yn rhoi manylion a oedd yn berthnasol i’r Contract. Ymatebodd i gwestynau’r Aelodau ac esboniodd bod y drefn torri gwair wedi ei chytuno a’i mabwysiadu, lle byddai’r toriad cyntaf yn driniaeth lai ar ffyrdd gwledig o fewn yr AHNE i sicrhau lefelau diogelwch, ac mewn mannau eraill byddai toriad unffurf o ddarn 1 medr o led gyda thriniaeth ehangach mewn mannau megis cyffyrdd, ymlediadau gwelededd ac ati, i sicrhau nad yw gwelededd yn cael ei beryglu. Roedd ardaloedd a oedd wedi cynrychioli sialens yn 2012, a manylion problemau torri gwair, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

Esboniwyd bod sylwadau yn mynegi pryderon wedi eu derbyn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a'r angen i gydbwyso cydymffurfedd gyda gofynion deddfwriaethol a disgwyliadau’r cyhoedd. Cadarnhawyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng yr Aelod Arweiniol, swyddogion ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i drafod y materion a godwyd.       

 

Roedd contract 2010 wedi ei ymestyn i gynnwys ffyrdd nad oedd yn brif ffyrdd am y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r gwaith yn cael ei wneud gan un contractwr allanol. Oherwydd problemau a amlygwyd y llynedd, ymgymerwyd â gwaith gyda’r Contractwr i wella pethau. Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â safon y torri, esboniwyd ar ôl toriad cyntaf llwyddiannus, bod safonau wedi dirywio oherwydd yr haf gwlyb a’r cynnydd cysylltiedig yn nhwf y gwair, a bod cwsmeriaid wedi eu hysbysu ynglŷn â’r cynnydd trwy’r adran Gwasanaethau Cwsmeriaid, ond roedd hyn wedi dod yn anoddach wrth i'r rhaglen lithro.

 

Gan nad oedd y contract safonol yn cynnwys cymalau cosbau ariannol i gwblhau gwaith y tu allan i amserlenni  a gytunwyd, ni ellid cymryd camau. Gellid hysbysu’r contractwr o fethiant a rhoi cyfle iddo ddelio â’r problemau mewn cyfnod a gytunwyd yn hytrach na dioddef colli incwm. Mynegodd Aelodau’r farn y dylid adolygu’r contract a’i ail-dendro ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond gallai hyn arwain at gynnydd mewn costau. Roedd y Contractwr wedi ad-drefnu trefniadau rheoli a rhoddwyd sicrhad ynglŷn â rheolaeth y contract yn y dyfodol. Nid oedd gwelliannau a gyflwynwyd ar ôl 2011 wedi gweithio cystal ag y rhagwelwyd, yn bennaf oherwydd y tywydd, ac anawsterau pellach a gafodd y Contractwr yn cwrdd ag anghenion y Cyngor. Mewn perthynas â’r angen i esbonio gofynion cyfreithiol y Cyngor a'r cyfyngiadau i gydymffurfio â deddfwriaeth mewn perthynas â thorri gwair a gwrychoedd, cytunodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith bod dalen ffeithiau yn manylu dyletswyddau’r Cyngor yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau, a chyhoeddi’r wybodaeth ar y mewnrwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd H O Williams, cadarnhaodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith, ar ôl ymgynghori ag Aelodau Lleol a Chymunedau lleol, bod rhaglen ar gyfer torri gwair ar ffyrdd yn yr AHNE wedi ei chytuno. Amlinellwyd y cyfraddau codi tâl ar gyfer torri gwair a gwrychoedd, a oedd yn cynnwys y cyfraddau gwahanol a godwyd ar gyfer ardaloedd megis cyffyrdd lle gellid cael anawsterau. Cadarnhawyd bod y meini prawf ar gyfer torri gwair mewn ardaloedd trefol y wahanol i ardaloedd gwledig ac yn y rhan fwyaf o achosion yn cael ei wneud yn fewnol.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

- cytunodd y swyddogion â’r farn y gellid adolygu’r amserlenni ymateb ar gyfer cwynion a gofnodwyd trwy system CRM.

- amlinellwyd mynegiannau o fuddiant yn y contract, a chadarnhawyd bod y rhaglen a manylion y contract wedi eu pennu gan y Cyngor ac roeddynt yn y bon yn seiliedig ar ac yn cael eu harwain at ansawdd.

- esboniwyd bod gan y Cyngor bwerau i gyflwyno Hysbysiadau Gorfodi i berchnogion gwrychoedd nad oeddynt yn cael eu torri ac yn cynrychioli perygl neu risg i’r cyhoedd. Cyfeiriwyd at Ddeddf Priffyrdd 1980 a’r Pwerau Gorfodi perthnasol a oedd yn galluogi i’r Cyngor wneud y gwaith a chodi tâl ar y tirfeddiannwr.

- y gellid ymgymryd â phroses ail-dendro. Fodd bynnag, gallai hyn fod â goblygiadau ariannol i’r Cyngor pe byddai cyfraddau uwch yn cael eu cyflwyno gan gontractwr.

- cafwyd problemau o ganlyniad i’r ffaith bod yr offer a ddefnyddiwyd gan y Contractwr yn rhy fawr neu’n anaddas i’w ddefnyddio ar lonydd a ffyrdd culion. Rhoddwyd sicrhad y byddai’r gwaith yn cael ei wneud yn y dyfodol, mewn achosion lle na wnaed y gwaith oherwydd offer anaddas.   

- ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau a chytuno darparu adroddiad gwybodaeth ar y drefn o dorri gwair a gwrychoedd a fabwysiadwyd yn nhrefi ac ardaloedd trefol y Sir.

- mynegwyd cefnogaeth i’r agwedd bioamrywiaeth gan y Cynghorydd M.L. Holland, ond pwysleisiodd bwysigrwydd yr elfen ddiogelwch wrth benderfynu ar y drefn o dorri gwair a gwrychoedd. Amlygodd hefyd bwysigrwydd ymgynghori â Chynghorau Cymuned penodol a chael mewnbwn Aelodau, wrth ystyried trefniadau contract yn y dyfodol.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i adolygu’r contract a darparu tystiolaeth ac esboniad ar ofynion presennol ac i’r dyfodol, disgwyliadau a manylion y matrics. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd sicrhau contract cadarn a Chytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau bod safonau perfformiad yn bodloni disgwyliadau. Amlinellodd arwyddocad ymgynghori â’r gymuned a chynnwys Aelodau wrth lunio’r contract, gyda chyfeiriad penodol yn cael ei wneud at yr angen i esbonio materion mewn perthynas â’r AHNE a gofynion bioamrywiaeth.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid at y penderfyniadau blaenorol a gymerwyd mewn perthynas â chaffael y contract presennol, ac amlinellodd yr amserlenni ar gyfer sicrhau contract ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mynegodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith ei gefnogaeth i’r penderfyniadau a gymerwyd eisoes ac roedd yn hyderus y gellid datrys y materion a godwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Cytunodd y gellid rhoi gwybodaeth bellach ar weithrediad a matrics y contract presennol ac y gellid ymgymryd â gwaith i gaffael contract newydd gyda mewnbwn gan yr Aelodau. 

 

Cefnogodd y Pwyllgor y farn bod y contract yn cael ei adolygu, a bod y Cynghorwyr W. Mullen-James, J.S. Welch a H.O. Williams, ynghyd â’r Aelod Arweiniol, yn rhoi mewnbwn Aelodau i’r broses. Cytunodd yr Aelodau bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Ionawr, 2013 y Pwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth a  ddilynodd, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau:-

 

(a)                                       Yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod cynnydd a llwyddiant y drefn dorri gyffredinol a fodolai ar gyfer 2012.

(b)                                       Yn cytuno bod y swyddogion, yr Aelod Arweiniol a’r Aelodau a enwyd yn cyfarfod i adolygu matrics y Contract presennol gan ddefnyddio’r dystiolaeth a’r ystadegau a oedd ar gael, a

(c)                                       Bod adroddiad gwybodaeth pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Ionawr, 2013, y Pwyllgor Craffu Cymunedau i hysbysu’r Pwyllgor o ganlyniad y trafodaethau hyn.

 

 

Dogfennau ategol: