Eitem ar yr agenda
SAFONAU PERFFORMIAD A DDANGOSWYD TRWY’R BROSES GWYNO
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol
(copi’n amgaeëdig) yn rhoi dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd trwy bolisi
adborth Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 1, 2012/13, ac yn amlygu gwaith sydd ar y gweill i wella perfformiad.
11.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol, yn rhoi dadansoddiad o’r
adborth a dderbynnir trwy bolisi adborth Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer
Chwarter 2012/13, ac yn amlygu meysydd gwaith a oedd yn
cael eu hymgymryd ar hyn o bryd i wella perfformiad, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd yr adroddiad wybodaeth ar faterion
perfformiad a nodwyd gan ‘Eich Llais’, a’r argymhellion i ddelio â’r meysydd a
nodwyd. Cyfeiriodd y Swyddog Cwynion Corfforaethol ar Atodiad A, gwybodaeth
‘Eich Llais’ a
oedd yn manylu amserau adrodd ‘Eich Llais’, mesurau perfformiad ac amserlenni
ymateb i gwynion. Roedd Atodiad B, data Chwarter 1 2012/2013 ‘Eich Llais’ yn
manylu amserau ymateb cyffredinol i gwynion, amserlen ymateb yn ôl cam,
canmoliaeth a dderbyniwyd a chategorïau cwynion, ac amlygodd y materion
allweddol canlynol:
Uchafbwyntiau:-
·
Cynnwys ystadegau yn ymwneud ag
amserau ymateb cyffredinol y Cyngor i gwynion yn ôl amserlenni ‘Eich
Llais’.
Amserau ymateb i gwynion:-
·
Rhoddwyd mwy o bwyslais ar
fonitro amserau ymateb y gwasanaeth i gwynion.
·
Atgoffwyd gwasanaethau sut i
ddefnyddio'r system gorfforaethol ar gyfer cofnodi a diweddaru cwynion.
·
Gwelliant gweladwy ym
mherfformiad cyffredinol y Cyngor wrth ymateb i gwynion o fewn amserlenni ‘Eich
Llais’.
·
Roedd y Gwasanaethau Tai a’r
Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dangos gwelliant o gymharu â chwarterau
blaenorol.
·
Rhagweld y bydd tuedd ar i fyny
yn parhau ar gyfer pob gwasanaeth.
·
Er gwaethaf cynnydd 18% yn
nifer cyffredinol y cwynion a dderbyniwyd yn Chwarter 1, roedd y nifer wedi
aros yn gymharol isel.
·
Dim ond hanner y meysydd
gwasanaeth a oedd wedi medru ymateb i 100% o’r cwynion o fewn yr amserlen
berthnasol.
Gwella perfformiad:-
·
Yr angen i wella sut caiff
cwynion eu trin ac ymateb i o leiaf 95% o’r cwynion o fewn yr amserlen a
nodwyd. Dwy safon generig i’w mabwysiadu ar draws yr Awdurdod.
·
Dwy safon generig i’w
mabwysiadu ar draws yr Awdurdod.
·
Yr angen i ddangos bod y Cyngor
yn gwrando ar ei gwsmeriaid ac yn newid pethau er gwell yn seiliedig ar yr hyn
a ddywedir wrthynt.
·
Trin cwynion o fewn yr
amserlen.
·
Gwelliannau mewn gwasanaeth o
ganlyniad i adborth cwsmeriaid.
Adroddiadau Wythnosol Gwasanaethau:-
·
Adroddiad wythnosol i’w
ddosbarthu i swyddogion sy’n gyfrifol am gydgysylltu ymatebion i gwynion yn y
gwasanaethau. Swyddogion i gael gwybodaeth i’w cynorthwyo gyda thrin cwynion yn
fwy effeithiol, a rhwystro diffyg cadw at amserlenni.
Cyflwyniad yng Nghynhadledd Rheolwyr Canol:-
·
Cyflwyniad i’w roddi i holl
‘Reolwyr Canol; i godi proffil ‘Eich Llais’ a chanolbwyntio sylw ar wella
profiadau cwsmeriaid.
Canolbwyntio ar y cwsmer:-
·
Cyflwyno elfen adborth ‘cyn
cwyno’ yn ‘Eich Llais’ i annog dialog ac ymgysylltiad gyda chwsmeriaid y Cyngor
i ddangos bod y Cyngor yn gwrando ar ac yn ymateb i adborth.
Adnabod perfformiad da:-
·
Yr angen i annog ac adnabod
cyd-destun ehangach ‘Eich Lais’ sy’n cyfeirio at ganmoliaeth dan faner
‘Adborth’. Gellid defnyddio dadansoddiad o’r ganmoliaeth a dderbyniwyd i
adnabod arferion gorau ac yna defnyddio’r rhain mewn meysydd eraill neu
wasanaethau eraill y Cyngor.
Rhoddodd y Swyddog Cwynion
Corfforaethol grynodeb byr o ganlyniad y Gynhadledd i Reolwyr Canol a
gynhaliwyd ar 17eg Hydref 2012. Esboniodd bod y ffocws nawr wedi symud i sut
mae’r cwsmer yn rhyngweithio a chysylltu â’r Cyngor, a chadarnhaodd bod
polisi’r Cyngor mewn perthynas â’r mater hwn wedi ei adolygu.
Mewn ymateb i bryderon a
godwyd gan y Cynghorydd M Ll Davies, ac a ategwyd gan y Cynghorydd M L Holland,
cytunwyd bod ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu i gofnodi cwynion a
dderbyniwyd. Cyfeiriodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg at yr angen am
newid diwylliannol yn yr Awdurdod, a’r angen i ail-ddylunio gwasanaethau, trwy
ystyried tuedd cwynion a dderbyniwyd, er mwyn newid sut mae’r Cyngor yn
cyflwyno ei wasanaethau i’r cwsmer. Cyfeiriodd hefyd at waith a ymgmerwyd mewn
perthynas â safonau gwasanaeth ar gyfer y cwsmer, y wefan newydd a’r adolygiad
o’r system CRM i ddelio â phroblemau gan y cyhoedd a swyddogion. Roedd yr
adolygiad wedi ei adnabod fel blaenoriaeth gorfforaethol a darparwyd
amlinelliad o’r gwaith a oedd yn cynnwys adolygiad llwybr o’r system trin
cwynion. Esboniodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y byddai mater
darparu cyfieithiadau yn cael ei ystyried o safbwynt y cwsmer. Esboniodd ei bod
yn bwysig sicrhau bod cwynion a dderbyniwyd yn y Gymraeg hefyd yn cael eu hateb
yn y Gymraeg.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad:-
(a)
Yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod yr awgrymiadau a wnaed i wella
perfformiad y Cyngor trwy drin cwynion yn effeithiol, a
(b)
Bod y swyddogion yn cydnabod yr awgrymiadau a wnaed.
Dogfennau ategol:
- Performance standards revealed through the Complaints process 18-10-12, Eitem 8. PDF 79 KB
- Performance standards revealed through the Complaints process 18-10-12 App A (W), Eitem 8. PDF 61 KB
- Performance standards revealed through the Complaints process 18-10-12 App B (W), Eitem 8. PDF 93 KB