Eitem ar yr agenda
CYDYMFFURFEDD CYNLLUNIO – DIWEDDARIAD
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio,
Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu’r adnoddau cyfreithiol ac
adnoddau eraill sydd ar gael i’r Tîm Gorfodi Cynllunio a’i berfformiad o ran
cyflwyno gwasanaeth
11.00
a.m.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio,
a oedd yn amlinellu’r adnoddau cyfreithiol ac eraill a oedd ar gael i’r Tîm
Gorfodi Cynllunio a’i berfformiad o ran cyflwyno
gwasanaeth, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn manylu sut
ymgymerwyd â swyddogaeth statudol
Cydymffurfiaeth Cynllunio. Roedd yn amlinellu gwaith y tîm
Cydymffurfiaeth Cynllunio wrth ddelio gyda thoriadau rheolaeth gynllunio
posibl, rôl y Cyngor o fewn y Grŵp Gorfodi Adfywio ehangach,
blaenoriaethau presennol lefel uwch y tîm ac esboniodd sut gellid trin peth o’r
gwaith lefel isel. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd ac effeithiolrwydd gwaith
cydweithredol rhwng yr amrywiol feysydd gwasanaeth a Chyfarwyddiaethau.
Rhoddodd y Rheolwr Rheoli
Datblygu grynodeb o faterion a meysydd allweddol yr adroddiad, a oedd yn
cynnwys:-
·
Amlinelliad o’r system Cynllunio Gwlad a Thref yng Nghymru sy’n
rheoleiddio defnydd a datblygiad holl dir ac adeiladau.
·
Ystod y pwerau gorfodi dan Ran VII Deddf Cynllunio Gwlad a Thref,
Awdurdodau Cynllunio Lleol.
·
Taflen canllaw cyflym Llywodraeth Cymru, a gynhwyswyd fel Atodiad 1, a
oedd yn esbonio trefniadau Gorfodi Cynllunio.
·
Crynodeb o Swyddogaeth Cydymffurfio Cynllunio Sir Ddinbych ar hyn o
bryd.
·
Copi o ddogfen Polisi a Gweithdrefn ddrafft Cydmffurfiaeth Cynllunio Sir
Ddinbych, Atodiad 2, a oedd yn nodi sut mae’r tîm yn delio â chwynion.
·
Matrics sgorio i amlygu safleoedd sy’n achosi problem yn ôl
blaenoriaeth.
·
Dogfen Cynnig Prosiect yn ymwneud ag ad-drefnu presennol y swyddogaeth
Cydymffurfiaeth, a gynhwyswyd fel Atodiad 3.
·
Rhestr o faterion Cydymffurfiaeth Cynllunio wedi eu categoreiddio fel
rhai lefel isel ac uchel, a gynhwyswyd fel Atodiad 4.
·
Amlinelliad o’r mesur perfformiad a dderbyniwyd ar gyfer delio â
chwynion cynllunio.
·
Creu dangosyddion mwy penodol, ynglŷn â monitro cytundeb
cyfreithiol adran 106, delio gyda safleoedd ac adeiladau sy’n achosi problem,
gan gynnwys safleoedd sy’n ddolur llygaid, a delio gydag achosion
cydymffurfiaeth cynllunio a amlygir gan Gynghorau Tref a Chymuned.
Cadarnhawyd bod risgiau yn
gysylltiedig â methu â darparu swyddogaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio a oedd yn
gydgysylltiedig a chadarn. Awgrymwyd y byddai agwedd mwy pendant tuag at holl
swyddogaethau rheoeliddio yn helpu gwella perfformiad yn y maes hwn.
Wrth ateb cwestiwn gan y
Cynghorydd M.LI. Davies, cadarnhawyd bod gwybodaeth ar natur cwynion, enw a
chyfeiriad eiddo, ar gael ar hyn o bryd ar ddatabas a gaiff ei fonitro gan yr
Adran. Esboniwyd bod materion yn ymwneud â pherchnogaeth eiddo a oedd yn destun
cwynion yn cael eu hymchwilio. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio,
Adfywio a Rheoleiddio at rôl swyddogion Gorfodi Cynllunio a’r agwedd holistig
tuag at ddelio â safleoedd sy’n achosi problem. Cyfeiriodd at y broses o
ad-drefnu’r gwasanaeth a’r angen i ddarparu ffocws mewn perthynas â swyddogaeth
graidd gorfodi cynllunio, i gynnwys dull aml-swyddogaeth bychan.
Ymatebodd y Rheolwr Rheoli
Datblygu i gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands mewn perthynas â monitro
Cytundebau Adran 106, swyddogaeth graidd gorfodi cynllunio. Rhoddodd grynodeb
o’r broses a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych a chyfeiriodd at dudalen 97,
Blaenoriaethau Baich Gwaith Cydymffurfio Cynllunio, Gwaith Lefel Uchel, a oedd
yn nodi rhestr o flaenoriaethau baich gwaith Cydymffurfiaeth Cynllunio.
Ymatebodd y swyddog fel a
ganlyn i gwestiynau a materion a godwyd gan yr Aelodau:-
-
Y broses o enwi a rhifo strydoedd yn cael ei chyflwyno gan yr adran
briffyrdd.
-
Cadarnhawyd bod swyddogion ar y safle a oedd yn dod yn ymwybodol o
broblemau nad ydynt yn gysylltiedig â’u gwasanaeth penodol hwy, oherwydd
diwylliant y gwasanaeth, yn adrodd ar y mater i’r gwasanaeth perthnasol.
-
Wrth ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd A Roberts ar faterion
yn ymwneud â materion cynllunio yn Rhuddlan, amlinellodd y Rheolwr Rheoli
Adeiladu y cefndir a’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â safle Bryn Cwybr a
chytunodd ddiweddu’r Cynghorydd Roberts pan dderbynnir gwybodaeth bellach. Mewn
perthynas â’r safle datblygu ger
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, diolchodd y Cynghorydd M Ll Davies i’r Swyddogion Gorfodi am y
gwaith a ymgymerwyd.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad yn derbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad a chydnabu’r swyddogion
sylwadau’r Aelodau.
Dogfennau ategol:
- Planning Compliance Report 18-10-12, Eitem 7. PDF 83 KB
- Planning Compliance App1, Eitem 7. PDF 129 KB
- Planning Compliance App2, Eitem 7. PDF 97 KB
- Planning Compliance App3, Eitem 7. PDF 165 KB
- Planning Compliance App4, Eitem 7. PDF 10 KB