Eitem ar yr agenda
ADOLYGU DARPARIAETH CYFNOD SYLFAEN A CHANLYNIADAU ASESIADAU DATA CYFNOD SYLFAEN, CA2 A CA3
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu canfyddiadau’r Cyfnod Sylfaen a
chanlyniadau darpariaethol arholiadau ac asesiadau athrawon.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, a oedd yn aminellu
canfyddiadau canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen ac arholiadau darpariaethol ac
asesiadau athrawon wedi eu dosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Manylodd yr adroddiad y perfformiad mewn ysgolion ym mhob cyfnod
allweddol ac amlinellodd ganlyniadau arholiadau allanol darpariaethol yng
Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16. Byddai dadansoddiad o’r canlyniadau yn cael ei
ddarparu pan fyddai wedi ei ddilysu a phan fyddai gwybodaeth a feincnodwyd ar
gael ym mis Rhagfyr.
Bu i’r Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Cynradd,
grynhoi’r meysydd canlynol yn yr adroddiad:-
Cyfnod Sylfaen – Roedd proses gadarnach ar gyfer Canlyniadau Cyfnod
Sylfaen wedi ei mabwysiadu ym mhob ysgol i sicrhau bod trefniadau yn ddibynadwy
ac yn gadarn. Roedd dulliau blaenorol o asesu cynnydd plant rhwng Canlyniadau
Cyfnod Sylfaen ac Asesiadau CA1 wedi bod yn ddangosol ac nid yn ddiamod. Roedd
Sir Ddinbych bellach yn 11eg yng Nghymru, o gymharu â 18fed yn y flwyddyn
flaenorol, a oedd yn cymharu’n ffafriol gyda'r sefyllfa prydau bwyd ysgol.
Cynhwyswyd canlyniadau manwl yn Atodiad 1.
Canlyniadau Asesiad Athrawon Cyfnod Allweddol 2 – Ar ddiwedd CA2,
disgwyliwyd y byddai disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn Lefel 4 Asesiad Athrawon.
Er bod sefyllfa Sir Ddinbych yn 12fed wedi cymharu’n ffafriol gyda’r sefyllfa
prydau bwyd ysgol, roedd wedi bod yn siomedig gan mai uchelgais yr Awdurdod
oedd bod yn y deg Awdurdod a berfformiai orau yng Nghymru ar gyfer yr holl ddangosyddion
allweddol. Cynhwyswyd canlyniadau manwl yn Atodiad 2.
Bu i’r Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd,
grynhoi meysydd canlynol yr adroddiad:-
Canlyniadau Asesiad Athrawon Cyfnod Allweddol 3 – roedd perfformiad
yn CA3 wedi gwella gyda’r holl bynciau craidd wedi gweld gwelliannau
arwyddocaol. Roedd y raddfa wella yn is na llawer o Awdurdodau Lleol eraill.
Fodd bynnag roedd Sir Ddinbych wedi symud o’r 13eg i’r 17eg yng Nghymru. Cynhwyswyd
canlyniadau manwl yn Atodiad 3.
Arholiadau Allanol Cyfnod Allweddol 4 – Cynhwyswyd canlyniadau manwl
yn Atodiad 3.
Roedd holl ysgolion uwchradd wedi gwella yn nhrothwy Lefel 1 a Lefel
2. Fodd bynnag, roedd dwy ysgol wedi gostwng mewn perfformiad. Roedd y duedd
genedlaethol mewn Saesneg a Mathemateg wedi dirywio gyda chanlyniadau Ôl-16
wedi aros yr un fath. Roedd canlyniadau cyfnod allweddol 4 yn rhai
darpariaethol a byddai Llywodraeth Cymru yn darparu data manwl gwerth
ychwanegol i Awdyrdodau Lleol ac ysgolion. Cynhwyswyd manylion canran
disgyblion yn cyflawni Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a
chynhwyswyd canlyniadau trothwy Lefel 3 yn Atodiad 3.
Canlyniadau trothwy Lefel 3 (Lefel A a chymwysterau galwedigaethol
cyfatebol) – roedd canran ymgeiswyr yn cyflawni Trothwy Lefel 3 wedi gwella o
97% yn 2011 i 98% yn 2012. Cynhwyswyd canlyniadau manwl yn Atodiad 3.
Cadarnhawyd bod moderneiddio’r gwasanaeth
addysg i gyflawni lefel perfformiad uchel yn un o flaenoriaethau Corfforaethol
y Cyngor, ac roedd codi cyrhaeddiad ym mhob cyfnod allweddol, yn enwedig Cyfnod
Allweddol 4, yn nod allweddol.
Byddai cymorth i ysgolion mewn Llythrennedd a Rhifedd yn cael ei
ddarparu’n rhanbarthol o fis Ebrill 2013. Byddai her a chymorth i Benaethiaid a
rheolwyr mewn ysgolion yn cael eu darparu’n rhanbarthol o Ebrill 2013 gan
Arweinwyr System. Byddai Swyddogion Addysg yn monitro ac asesu ansawdd y
cymorth rhanbarthol pan fyddai’r systemau a’r strwythurau newydd yn bodoli
erbyn Ebrill 2013. Byddai swyddogion yn gweithio yn y rhanbarth yn cryfhau’r
broses gymedroli ar gyfer Asesiadau Athrawon CA3 a byddai hyn yn gwella ansawdd
cymedroli allanol a sicrhau dilyniant a chydraddoldeb Asesiadau Athrawon ledled
Gogledd Cymru. Hysbyswyd yr aelodau bod ansicrwydd yn parhau ynglŷn â
Grant Llwybrau Dysgu 14-19 a chyllid ‘Potensial’ CGE ar ôl 2014.
Ymatebodd y Swyddog
Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Cynradd i gwestiynau gan Ms G. Greenland. Esboniodd y byddai
papur ymgynghorol yn cael ei ddosbarthu a fyddai’n cynnwys cynigion radical
mewn perthynas â’r Cyfnod Sylfaen ac yn cynorthwyo gyda rhoi arweiniad cliriach
i ysolion, Cadarnhawyd hefyd y byddai Gweithwyr Cyswllt Teulu yn cael ei
defnyddio i ddelio â’r gostyngiad yn y nifer o Ymwelwyr Iechyd.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y
Cynghorydd J. Butterfield, cadarnhawyd y byddai’r papur ymgynghorol, a fyddai’n
adolygiad radical o ddarpariaethau cymorth, yn cael ei ddosbarthu i’r holl
randdeiliaid yn y Cyfnod Syflaen. Rhoddodd y Swyddog Perfformiad
Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd, fanylion Asesiadau Athrawon CA3 a
Chanlyniadau Arholiad Darpariaethol mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd y Rhyl ac
amlinellodd y camau a oedd yn cael eu cymryd i ddelio gyda, a gwella’r
ffigurau. Esboniodd bod yr anghysonder mewn asesiadau lefel darllen rhwng
ysgolion cynradd ac uwchradd yn ymwneud ag amrywiad mewn Asesiadau Athrawon, a
chadarnhawyd bod cofnodion yn ymwneud â chyraeddiadau academaidd plant dan
ambarél rhianta corfforaethol ar gael.
Mynegodd y Cynghorydd E.W.
Williams bod angen pwyll mewn perthynas â Chanlyniadau Sylfaen a gyflwynwyd gan
rai Awdurdodau Lleol a mynegi’r farn bod Sir Ddinbych wedi bod yn gadarn iawn
wrth ddadansoddi ei chanlyniadau Cyfnod Sylfaen. Pwysleisiodd y Swyddog
Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Cynradd bwysigrwydd yr angen am asesu
cadarn, unffurfiaeth a chymedroli rhanbarthol.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynol, rhoddodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a
godwyd gan yr Aelodau:
Roedd perfformiad i lawr
oherwydd amrywiad
- Cadarnhawyd bod perfformiad i lawr oherwydd
amrywiad yn y canlyniadau yn Ysgolion Santes Ffraid, Dinbych ac Ysgol Dinas
Bran ond nad oedd hyn wedi bod yn fater a achosodd bryder
- Amlinellwyd manylion y broses ar gyfer asesu
plant o ysgolion bwydo, a’r effaith ar asesiadau Ysgolion Uwchradd. Hysbyswyd
yr aelodau bod proses drosglwyddo gadarn yn bodoli a strategaethau cysylltu
rhwng ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
- Mynegodd Dr D. Marjoram ei gwerthfawrogiad i’r swyddogion am
gynnwys Ysgolion Arbennig yn yr adroddiad.
- Cadarnhawyd bod data ar gael i alluogi i
Ysgolion Cynradd olrhain cynnydd disgyblion ar ôl iddynt drosglwyddo i’r Ysgol
Uwchradd. Pwysleisiodd y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Cynradd
bwysigrwydd sicrhau troslwyddiad effeithiol disyblion a’r gallu i fonitro eu
cynnydd.
- Cyfeiriodd y Swyddog Perfformiad
Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd at lwyddiant Ysgol Plas Bron Dyffryn,
Dinbych a chadarnhaodd y byddai’r canlyniadau yn cael eu rhannu gydag
Awdurdodau Lleol eraill.
- Esboniwyd bod y mannau gwag dan bennawd
Cymraeg yng Nghanlyniadau Asesiad Athrawon CA3 yn ymwneud ag ysgolion a oedd yn
dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith. Amlinellwyd manylion opsiynau
asesu gan y swyddogion.
- Cyferiodd y Cadeirydd at ganlyniadau CA4 yn
Ysgol Uwchradd Dinbych. Cadarhaodd y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd
Ysgolion: Uwchradd bod canlyniadau mewn Cymraeg a Saesneg wedi bod yn ffafriol.
- Ymatebodd y Swyddog Perfformiad
Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd i gwestiwn gan y Cadeirydd yn ymwneud â
Bandiau. Esboniodd y rhagwelwyd y byddai Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych ym
Mandiau 2 a 3 a dim un ym Mandiau 4 a 5.
Cyfeiriodd y Cynghorydd A.
Roberts at y Pwyllgor Safonau Ysgolion a chadarnhaodd bod Ysgol Y Castell,
Rhuddlan wedi dangos arwyddion o wella. Esboniodd bod Ysgol Gynradd Clocaenog
wedi cael canlyniadau eithriadol. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon bod disgyblion
a oedd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn cael eu hanfanteisio wrth gael eu hasesu
trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig plant o gefndir lle nad oeddynt yn siarad
Cymraeg a bod hyn wedi ei adlewyrchu yn ffigurau cyrhaeddiad craidd yr Ysgol.
Cymeradwyodd y Cynghorydd E W Williams y farn a fynegwyd a theimlai y dylid
cymryd hyn o ystyriaeth.
PENDERFYNWYD:-
(a) Bod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad yn derbyn yr adroddiad, a
(b)
Cydnabod barn a sylwadau’r
Aelodau ar berfformiad ysgolion o gymharu â pherfformiad blaenorol a’r
meincnodau allanol.
Dogfennau ategol:
- Teach Assess Rep, Eitem 5. PDF 78 KB
- App1 Foundation Phase Teacher Assessment Results, Eitem 5. PDF 150 KB
- App2 KS2 Teacher Assessment Results, Eitem 5. PDF 154 KB
- App3 KS3 Teacher Assessment Results, Eitem 5. PDF 174 KB