Eitem ar yr agenda
CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012-2017
Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol
(copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo fersiwn drafft terfynol y Cynllun
Corfforaethol 2012/17.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol, a oedd yn gofyn am gymeradwyo fersiwn
ddrafft Cynllun Corfforaethol 2012-17 y Cyngor, â phapurau’r cyfarfod. Hysbyswyd yr Aelodau
ei bod yn ofynnol cael penderfyniad i gymeradwyo fersiwn ddrafft derfynol
Cynllun Corfforaethol 2012-17, ynghlwm fel Atodiad I yr adroddiad.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd H.H. Evans, yr adroddiad ac
esboniodd, er nad oedd y gwaith o wella Sir Ddinbych wedi’i gwblhau eto, roedd
y sylfeini yn eu lle yn awr a gellid gwireddu’r dyheadau. Amlinellwyd
llwyddiannau o Gynllun Corfforaethol 2008/12 a chyfeiriwyd at yr Awdurdod yn
cyrraedd y nod o fod yn Gyngor sy’n perfformio ar lefel uchel, ac roedd
cyfleoedd i wella wedi eu hadnabod hefyd. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ddwy her
ymarferol yn y Cynllun, sef yr angen i fonitro a mesur effeithlonrwydd y
blaenoriaethau, a sicrhau bod y Cynllun Corfforaethol yn ymateb i anghenion
trigolion. Pwysleiswyd gwerthoedd allweddol Sir Ddinbych - Undod, Parch,
Uniondeb a Balchder - wrth yr Aelodau.
Esboniodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen
strategol lefel uchel a ddatblygwyd i lywio cyfeiriad y Cyngor am y pum mlynedd
nesaf, gyda’r buddsoddiad o £134m i gyflawni’r blaenoriaethau allweddol, yn
cynnwys buddsoddiad sylweddol o £97 miliwn mewn addysg. Paratowyd y Cynllun
Corfforaethol yn unol â’r polisi a’r cyd-destun ariannol i Awdurdodau Lleol
Cymru, ac roedd yn diffinio prif flaenoriaethau strategol y Cyngor ac yn nodi
ei uchelgais i’r dyfodol yn glir. Roedd y Cyngor wedi’i weddnewid yn ystod y
pum mlynedd ddiwethaf, a bellach yn cael ei ystyried yn rhagweithiol yn hytrach
nag adweithiol, ac eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn
hyderus y byddai’r Uwch Dîm Rheoli yn cynnal y safonau uchel sy’n cael eu cyflawni
yn awr, gydag arweinyddiaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth swyddogion yn elfen
hanfodol bwysig ar gyfer sicrhau llwyddiant.
Hysbyswyd yr Aelodau
y byddai’r Cynllun Corfforaethol drafft yn edrych ar y meysydd allweddol a
ganlyn:-
· Gwella perfformiad ym maes addysg a gwella ansawdd adeiladau ysgolion
· Datblygu’r economi leol
· Gwella ffyrdd
· Diogelu pobl fregus a’u galluogi i fyw mor annibynnol ag y bo modd
· Strydoedd glân a thaclus
· Sicrhau mynediad i dai ansawdd da
· Moderneiddio’r cyngor er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwella’r
gwasanaethau i gwsmeriaid.
Byddai’r prif
gynigion buddsoddi yn ystod y cyfnod pum mlynedd yn cynnwys:-
· £97 miliwn i wella adeiladau ysgolion, cynnal adolygiadau ardal,
ailwampio a gwelliannau eraill i ysgolion
· buddsoddi £10.4 miliwn yn y ffyrdd
· buddsoddi £21 miliwn mewn tri cynllun gofal ychwanegol yn y sir
· buddsoddi £2 filiwn i roi hwb i’r economi
· buddsoddi £4 miliwn mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a
swyddfeydd.
Rhagwelir y bydd
grantiau gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo â chyllido gwaith cynlluniedig i
wella ysgolion a ffyrdd, gyda phartneriaid eraill yn debygol o gyfrannu at y
prosiectau tai gofal ychwanegol cynlluniedig. Byddai cyfanswm o £78 miliwn yn
dod o ystod o ffynonellau, yn cynnwys cyllid wedi’i sicrhau trwy fenthyca
darbodus.
Esboniodd y Prif
Weithredwr bod y Cynllun Corfforaethol yn canolbwyntio’n glir ar wella
gwasanaethau i gwsmeriaid, gyda’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn fwy ymatebol i
anghenion cwsmeriaid. Byddai cyflawni’r Cynllun Corfforaethol yn gweddnewid
bywydau pobl yn Sir Ddinbych ac yn creu gwaddol i’r dyfodol. Cadarnhaodd y
bwriedir ymdrin â phob un o’r blaenoriaethau mewn ffordd wahanol, ag amserlenni
gwahanol a gwahanol ofynion o ran buddsoddiad ariannol. Byddai gan y
blaenoriaethau sy’n canolbwyntio ar yr economi ac addysg amserlen sy’n mynd y
tu hwnt i bum mlynedd y Cynllun. Disgwylir cynnydd go iawn yn y meysydd
blaenoriaeth hyn, gyda’r budd llawn i’w gweld y tu hwnt i 2017.
Byddai’r angen i fod
yn fwy cost effeithiol yn hanfodol trwy gyflwyno dulliau gweithio hyblyg.
Byddai cyflawni’r agenda moderneiddio yn allweddol o ran diogelu gwasanaethau
rheng flaen a diogelu swyddi, a bydd y flaenoriaeth hon yn bwysig fel sylfaen i
flaenoriaethau eraill y Cyngor hefyd.
Gofynnodd y
Cynghorydd B.A. Smith i’r Aelodau roi sylw i’r broses fonitro, a gynhwyswyd yn
yr adroddiad, sy’n ddogfen weithiol.
Amlinellwyd effaith
potensial maint y cyllido yn y Cynllun Corfforaethol, a oedd yn cynrychioli
newid enfawr i’r Awdurdod, gan y Cynghorydd J. Thompson-Hill. Rhoddodd sicrwydd
i’r Aelodau, er bod y Cynllun yn uchelgeisiol y gellid ei gyflawni, ac y
byddai’n cynorthwyo i hybu’r economi. Hefyd cadarnhaodd y gellid addasu’r
Cynllun yn y dyfodol, petai angen, er mwyn ymateb i unrhyw ffactorau
allanol.
Nid oedd y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys manylion am bopeth y
byddai’r Cyngor yn ei wneud yn ystod y cyfnod i gefnogi’r blaenoriaethau
corfforaethol. Y bwriad yw i’r Cynllun Corfforaethol fod yn ddogfen hygyrch ac
ni chynhwyswyd manylion am yr holl ddangosyddion a mesuriadau perfformiad a
ddefnyddiwyd i werthuso llwyddiant y Cyngor. Byddai dogfen ar wahân yn
diffinio’r dulliau monitro’r Cynllun yn cael ei chyhoeddi, a byddai Dogfen
Cyflawni’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei chynhyrchu’n flynyddol i ddarparu
manylion am yr hyn y disgwylir i’r Cyngor ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol
benodol honno i gefnogi’r blaenoriaethau.
Mewn ymateb i gwestiynau oddi wrth yr Aelodau, esboniodd y Pennaeth
Busnes, Cynllunio a Pherfformiad y darparwyd crynodeb o’r ymgynghoriadau a
gynhaliwyd a chyhoeddwyd set ddrafft o flaenoriaethau corfforaethol ar gyfer
ymgynghori â’r cyhoedd. Roedd yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn Atodiad 2.
Estynnwyd y cyfnod ymgynghori â Chynghorau Tref a Chymuned a dosbarthwyd rhestr
lawn o’r adborth, ynghyd ag un ymateb arall i’r ymgynghoriad, i’r Aelodau. Roedd y Tîm
Gwella Corfforaethol yn ystyried blaenoriaethau eraill a nodwyd gan Aelodau
unigol yn ystod y sesiwn ar y Cynllun Corfforaethol, a byddai dogfen yn dangos
sut mae’r gwasanaethau’n ymateb i’r blaenoriaethau hynny ar hyn o bryd yn cael
ei dosbarthu i’r Aelodau. Roedd Atodiad 3 yn cynnwys casgliadau’r
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a gynhaliwyd ar y Cynllun Corfforaethol
2012-17 drafft, a wnaed gan y Tîm Gwella Corfforaethol mewn ymgynghoriad â
gwasanaethau perthnasol.
Rhoddwyd yr atebion isod i gwestiynau a
materion a godwyd gan yr Aelodau yng nghyswllt y Cynllun Corfforaethol:-
·
Tudalen 87 – Mewn ymateb i
bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunodd y Rheolwr Gwella
Corfforaethol i adolygu’r geiriad ynghylch y costau.
·
Tudalen 94, Pobl fregus yn
byw’n annibynnol – hysbyswyd yr Aelodau bod ansicrwydd ynghylch nifer y
cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol i’w darparu yn y sir a dyma’r rheswm am y
geiriad presennol.
·
Tudalen 105, Mynwentydd –
mynegodd y Cynghorwyr J. Butterfield ac A. Roberts bryder am ddiffyg plotiau
beddau ym Mynwentydd y Rhyl a Rhuddlan, ac agweddau diogelwch cerrig beddau o
ran bodloni gofynion Iechyd a Diogelwch. Esboniodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio
a Pherfformiad y cynhaliwyd proses ymgynghori ar y mater hwn a byddai
sylwadau’r Aelodau yn cael eu nodi a’u cyfeirio at y Pennaeth Gwasanaethau
Amgylcheddol.
·
Mewn ymateb i gwestiynau oddi wrth
y Cynghorwyr W.L. Cowie a R.L. Feeley ynghylch yr angen am weithredu gorfodol
yng nghyswllt baw cŵn, troseddau parcio’n anghyfreithlon a chynnwys
ysgolion yn yr ymgyrch Glân a Thaclus, esboniodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad mai’r ffordd orau o ymdrin â’r materion hyn fyddai’n gorfforaethol
trwy orfodaeth, addysgu’r cyhoedd a newid agweddau a diwylliant.
·
Tudalen 115, Datblygu’r Economi
Leol – Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd C.L. Hughes am yr angen
i bwysleisio’r gair “lleol” a sicrhau gwasanaethau busnesau lleol, esboniodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau bod caffael yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth.
Serch hynny, roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar y strategaeth
gaffael.
·
Tudalen 82 – Gofynnodd y Cynghorydd
S.A. Davies am fanylion y costau ynghlwm â darparu cyfieithiadau. Esboniodd y
Rheolwr Gwella Corfforaethol y cafwyd dau gais yn ystod y ddwy flynedd
ddiwethaf am gyfieithiaid i ieithoedd ac eithrio’r Gymraeg neu’r Saesneg, ac
mai dim ond gwybodaeth yn ymwneud â’r cwestiynau penodol a gyfieithwyd.
·
Ymatebodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles i gwestiwn gan y Cynghorydd S.A. Davies a
chadarnhaodd bod cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol a ddarparwyd gan Sir Ddinbych
yn llawn. Cadarnhaodd nad oedd hi’n rhagweld unrhyw broblemau yn denu pobl i
fyw yn y datblygiadau newydd arfaethedig a nodir yn y Cynllun
Corfforaethol.
·
Mewn ymateb i faterion a nodwyd
gan y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts ynghylch eglurder o ran gwireddu’r
cynigion, esboniodd y Prif Weithredwr bod Cyngor Sir Ddinbych wedi darparu
amlinelliad clir o’i fwriadau. Fodd bynnag, dan amgylchiadau penodol byddai
unrhyw newidiadau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, megis newidiadau i gyllid
grant, yn medru dylanwadu ar gyflawni’r cynigion a gynhwysir yn y Cynllun
Corfforaethol. Hefyd esboniodd, oherwydd gofynion cyhoeddi roedd agendâu
cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi cyn ystyried materion mewn cyfarfodydd, a
chyfeiriodd yn benodol at y Blaen Raglen Waith, ac roedd hyn yn rhoi cyfle i’r
wasg a’r cyfryngau gyhoeddi straeon cyn i’r Aelodau drafod y mater.
·
Esboniodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad,
mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y
Cynghorydd E.W. Williams, bod nifer y
blaenoriaethau a nodwyd yn cael eu monitro gan Swyddfa Archwilio Cymru. Hefyd
cadarnhaodd bod mwy o strwythur a ffocws i’r blaenoriaethau yn awr.
·
Pwysleisiodd y Cynghorydd T.R.
Hughes bwysigrwydd sicrhau bod adroddiadau diweddariad a chynnydd ar y Cynllun
Corfforaethol yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn i’w monitro. Cadarnhaodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai adroddiadau am y Cynllun Cyfalaf yn cael
eu cyflwyno i’r Cyngor yn chwarterol.
Eglurodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad y byddai Adroddiad
Perfformiad Chwarterol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a Chraffu, ynghyd â
chyhoeddi’r ddogfen flynyddol Cyflawni’r Cynllun Corfforaethol yn amlinellu’r
gefnogaeth i’w darparu i’r Cynllun Corfforaethol yn ystod y flwyddyn ddilynol.
·
Cadarnhaodd y Pennaeth Busnes,
Cynllunio a Pherfformiad bod mater cysylltiadau cyhoeddus a chyfleu a chyfathrebu’r negeseuon yn
y Cynllun Cyfalaf, a gwaith y Cyngor yn gyffredinol, yn hanfodol bwysig.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd mynegodd yr Aelodau eu cefnogaeth
unfrydol i’r argymhelliad yn yr adroddiad, a:-
PHENDERFYNWYD – yn amodol
ar y newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cyngor yn cymeradwyo drafft terfynol
Cynllun Corfforaethol 2012-17 i alluogi cyfieithu a chyhoeddi’r ddogfen.
Dogfennau ategol:
- Corp Plan Rep, Eitem 7. PDF 77 KB
- Corp Plan App 1, Eitem 7. PDF 672 KB
- Corp Plan App 2, Eitem 7. PDF 177 KB
- Corp Plan App 3, Eitem 7. PDF 174 KB