Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD RHEOLI’R TRYSORLYS

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn cydnabod Adroddiad Rheoli Blynyddol y Trysorlys 2011/12 ar weithgareddau buddsoddi a benthyca’r Cyngor yn ystod 2011/12 ynghyd â manylion yr hinsawdd economaidd a chydymffurfio gyda Dangosyddion Darbodus. Hefyd i gydnabod Adroddiad Diweddaru Rheoli’r Trysorlys ar y gweithgareddau yn ystod 2012/13.

10.30am – 12.00pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau’r adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a rhoddodd beth gwybodaeth gefndir ar swyddogaethau rheoli trysorlys y Cyngor a swyddogaeth a chyfrifoldeb y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ynglŷn â hynny.  O ystyried graddfa a chymhlethdod rheolaeth y trysorlys, byddid yn darparu diweddariadau rheolaidd a hyfforddiant i’r pwyllgor i gynorthwyo dealltwriaeth aelodau ac i alluogi craffu effeithiol y swyddogaethau hynny.

 

Tynnodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau sylw aelodau at amserlen o adroddiadau a hyfforddiant ar gyfer y pwyllgor (paragraff 2.2.1 yr adroddiad) ynghyd â threfniadau adrodd i’r Cyngor a’r Cabinet.  Wrth dywys aelodau drwy’r adroddiad, esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau bob un o’r materion yn fanwl i gynorthwyo dealltwriaeth y pwyllgor o’r cymhlethdodau sy’n ymglymedig o fewn gweithgareddau rheoli’r trysorlys a rhoi gwybodaeth weithio o’r swyddogaethau arbennig hynny.  Roedd y prif adroddiad yn cynnwys adroddiadau unigol ar y meysydd canlynol -

 

Papur ar Fenthyca (Atodiad 1) –

 

Cyfeiriodd y PCA at amseroldeb y papur hwn o ystyried y byddai aelodau’n trafod cyllido’r Cynllun Corfforaethol ar ôl y Cyngor Llawn yr wythnos ddilynol.  Wrth ystyried dyheadau’r Cyngor am fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer blynyddoedd y dyfodol roedd yn bwysig fod gan aelodau ddealltwriaeth o fenthyca.  Esboniodd y PCA pam fod y Cyngor yn benthyca a sut y byddai’n benthyca a rhoddodd fanylion o’r strategaeth a fabwysiedir.

 

Roedd y cyflwyniad ar fenthyca’n cwmpasu –

 

  • cefndir i’r sefyllfa gyfreithiol o ran benthyca
  • caniateir benthyca i ddibenion cyfalaf yn unig i adeiladu asedau newydd neu i wella/atgyweirio asedau presennol
  • gellid ariannu gwariant cyfalaf gan grantiau, cyfraniadau a derbyniadau cyfalaf ond roedd yn rhaid cyfarfod ag unrhyw ddiffyg drwy fenthyca
  • y gwahanol fathau o fenthyca (Mewnol/Allanol) ac elfennau a chyfrannau pob math ynghyd â lefel y benthyca dros y pum mlynedd ddiwethaf
  • lefel bresennol y ddyled a manylion y benthyciadau unigol gwahanol sy’n amrywio yn eu hyd o 1 flynedd i 50 mlynedd ynghyd â sail y benthyciadau hynny (Aeddfedrwydd/Rhandaliad Cyfartal Prifswm/Blwydd-dal) a phroffil aeddfedrwydd y ddyled honno gyda manylion y cyfraddau llog sy’n daladwy
  • manylion elfennau’r Gyllideb Ariannu Cyfalaf (oddeutu £12m) a roddwyd o’r neilltu i dalu cost benthyca.
  • yr egwyddorion yr oedd strategaeth reoli’r trysorlys yn seiliedig arnyn nhw i sicrhau nad oedd y Cyngor yn benthyca mwy nag a oedd ei angen ac y gallai ei fforddio i dalu’r ddyled yn ôl.  Roedd hynny’n cynnwys gosod dangosyddion darbodus i bennu cyfyngiadau benthyca ac i fesur fforddiadwyedd
  • ffynhonnell ddyled gyfredol y Cyngor gyda benthyciadau’n gysylltiedig â ffrydiau refeniw’r dyfodol a chyfeiriad at gyfraddau llog ar gyfer benthyciadau a’u cyfrifiadau.

 

Manteisiodd Aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod nifer o faterion efo’r Pennaeth Cyllid ac Asedau, yn codi o’i gyflwyniad a’i ymateb oedd -

 

-          o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill roedd cyfrannedd benthyca’r Cyngor rywle yn y canol, ond roedd wedi ei ystumio braidd gan yr arian a wariwyd ar y stoc tai fel y’i nodir yn y Cyfrif Refeniw Tai

-          roedd cyfyngiad credyd y Cyngor yn cael ei osod gan y Cyngor Llawn

-          cadarnhaodd y bwriad i gynnwys oblygiadau refeniw wrth gostio’r Cynllun Corfforaethol

-          ymhelaethodd ar y Fenter Cyllid Preifat a oedd wedi ei defnyddio’n flaenorol gan awdurdodau lleol fel dull o ariannu cynlluniau ac nid oedd hynny’n boblogaidd bellach

-          adroddodd ar gronfeydd wrth gefn a gweddillion y Cyngor gan ddweud fod oddeutu £7.2m ar gael mewn gweddillion cyffredinol gyda thros £20m mewn cronfeydd wrth gefn a oedd wedi eu rhoi o’r neilltu ar gyfer dibenion penodedig.

 

Nododd Aelodau hefyd mai awdurdodau rhagflaenol yn y 1980au a’r 1990au a oedd yn gyfrifol am fwyafrif llethol dyledion y Cyngor  (oddeutu £100m yn erbyn cyfanswm benthyciad o £134.39m).  Fe ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar effaith y gwahanol fathau o fenthyciadau ar gyllid y Cyngor a thrafododd yr aelodau ragoriaethau pob math ar fenthyciad.  Fe fu yna symud yn y blynyddoedd diwethaf o Fenthyciadau Aeddfedrwydd i Randaliadau Cyfartal o Brif Fenthyciadau i sicrhau fod y ddyled yn cael ei thalu’n rheolaidd.  Ystyriodd Aelodau’r gwahanol risgiau sy’n gysylltiedig â benthyca ynghyd â’r manteision y gellir eu cyflawni o ganlyniad.  Fe drafodwyd enghreifftiau o fuddsoddiadau cyfalaf yn unol â blaenoriaethau Cyngor yn cynnwys ysgolion, priffyrdd a thai gofal ychwanegol a’r cynilion potensial a gynhyrchir gan fuddsoddiadau o ganlyniad mewn ardaloedd penodol.  Derbyniwyd y byddai’r materion hynny’n cael eu trafod ymhellach gan gynghorwyr yn y sesiwn ar ariannu’r Cynllun Corfforaethol yr wythnos ganlynol.

 

Adroddiad Blynyddol Rheolaeth y Trysorlys 2011/12 (Atodiad 2) –

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau Adroddiad Blynyddol Rheolaeth y Trysorlys a oedd yn darparu manylion gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor a throsolwg o’r cefndir economaidd am y flwyddyn.  Fe adroddodd hefyd ar  oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys a chadarnhaodd gydymffurfiad â chyfyngiadau’r trysorlys a Dangosyddion Darbodus.  Fe ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar yr elfennau canlynol a gynhwysid o fewn yr adroddiad –

 

  • gweithgaredd benthyca a strategaeth i ddefnyddio adnoddau mewnol gan fwyaf yn hytrach na benthyca allanol fel y ffordd fwyaf cost effeithiol o ariannu gwariant cyfalaf
  • gweithgaredd buddsoddi a lefel buddsoddiadau’r Cyngor ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn gyda chyfraddau llog isel yn parhau i gael effaith sylweddol ar yr enillion ar fuddsoddi a enillwyd gan y Cyngor; roedd amcanion buddsoddi’n canolbwyntio ar sicrwydd, hylifedd ac arenillion gyda sicrwydd yn brif amcan ar gyfer buddsoddi
  • cydymffurfiad â dangosyddion darbodus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dibrisiad asedau, dywedwyd wrth yr aelodau nad oedd y Cyngor yn codi tâl dibrisiad drwy gyfraith oherwydd y potensial o drin ffigurau.  Yn hytrach fe roddwyd tâl yn erbyn asedau’n seiliedig ar fformiwla benodol.  Yn ogystal, nid oedd gwerthiannau asedau wedi eu cynnwys yn y gyllideb refeniw ond roedd yn rhaid eu cadw ar wahân drwy gyfraith.

 

Adroddiad Diweddariad ar Reolaeth y Trysorlys 2012/13 (Atodiad 3) –

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau Adroddiad Diweddariad ar Reolaeth y Trysorlys a oedd yn darparu manylion gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn ystod 2012/13 yn cynnwys Rhagolwg Economaidd; Risgiau, Gweithgaredd, Rheolau a gweithgaredd y Dyfodol.  Tynnwyd sylw Aelodau at y pwyntiau canlynol -

 

  • y marchnadoedd ariannol cyfnewidiol a’r sefyllfa yn Ewrop
  • strategaethau rheoli risg i ddiogelu buddsoddiadau’r Cyngor
  • proffil aeddfedrwydd buddsoddiadau’r Cyngor a oedd yn gyfyngedig i saith diwrnod ac o ganlyniad roedd enillion wedi aros yn isel
  • archwilio cadarn o reolaeth y trysorlys gan Archwilio Mewnol a Swyddfa Archwilio Cymru’n rheolaidd.  Roedd yr adolygiad Archwilio Mewnol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2012 wedi casglu fod prosesau a gweithdrefnau’n gadarn, wedi eu sefydlu’n dda a’u dilyn yn ofalus iawn gyda risgiau allweddol yn cael eu rheoli’n effeithiol
  • bwriad y Cyngor oedd lleihau ei weddillion buddsoddi a defnyddio benthyca dros dro fel dull o ariannu gofynion llif arian tymor byr.

 

Ymateb y Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwestiynau aelodau oedd fel a ganlyn –

 

-          adroddodd ar y swyddogion a oedd yn gyfrifol a’r diogelwch a oedd wedi ei sefydlu wrth wneud buddsoddiadau a oedd yn canolbwyntio mwy ar reoli llif arian yn yr amgylchedd ariannol cyfredol yn hytrach na buddsoddi strategol

-          yr angen am ddadl ar natur a phwrpas y cronfeydd wrth gefn a’r gweddillion i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol a oedd yn gysylltiedig â’r drafodaeth a oedd ar ddod ar y Cynllun Corfforaethol a drefnwyd ar ôl y Cyngor Llawn yr wythnos ddilynol.

-          nid oedd yna unrhyw ganllawiau ar isafswm gweddillion ac roedd yn fater i Gynghorau unigol osod eu lefel ariannu eu hunain

-          cytunai fod benthyca ar gyfer unigolion a chyrff corfforaethol yn gwbl wahanol ac roedd angen i aelodau ystyried yr hyn yr oedden nhw am ei gyflawni a sut yr oedden nhw’n barod i wireddu’r cyflawniadau hynny.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ei fod wedi derbyn e-bost gan yr Aelod Lleyg Paul Whitham yn dweud ei fod yn falch o nodi’r hyfforddiant a’r diweddariadau a gynlluniwyd ar gyfer aelodau’r pwyllgor.  Roedd wedi gofyn hefyd a oedd rheolaeth y trysorlys yn cael asesiad risg blynyddol a ffurfiol.  Yn ei anerchiad roedd y Pennaeth Cyllid ac Asedau wedi ymhelaethu ar yr adolygiadau archwilio rheolaidd a gynhaliwyd ar y swyddogaeth ac yr oedd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi cytuno i’w hadrodd yn ôl yn syth i Mr Whitham.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod yr adran â’i chofrestr risg ei hun yn ogystal ag archwilio rheolaidd y swyddogaeth a byddai’n adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn chwarterol.

 

Cafodd y cyflwyniad dderbyniad da gan aelodau ac ar ei ddiwedd roedd y pwyllgor yn awyddus i ddysgu mwy am swyddogaeth a phrosesau rheolaeth y trysorlys ac amlygwyd yr angen i aelodau gael mwy a gwell dealltwriaeth o’r gweithgareddau hynny.  Yn ystod ystyriaeth o’u gofynion hyfforddi cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y gellid cynnal sesiynau cyn cyfarfodydd i adeiladu dealltwriaeth o’r pwnc a byddid yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r pwyllgor.  Ychwanegodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ei fod wedi ei gytuno’n flaenorol y byddai hyfforddiant felly’n orfodol i aelodau’r pwyllgor.

 

I gloi diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau am ei gyflwyniad diddorol ac addysgiadol a’r wybodaeth a roddwyd i roi gwell dealltwriaeth i aelodau a mewnwelediad i weithgareddau rheoli’r trysorlys.

 

PENDERFYNWYD 

 

(a)       nodi’r Papur ar Fenthyca (Atodiad 1 i’r adroddiad);

 

(b)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2011/12 a’i gydymffurfiad â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol fel y’u hadroddwyd yn Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2011/12 (Atodiad 2 i’r adroddiad)

 

(c)        nodi Adroddiad Diweddaru Rheolaeth y Trysorlys 2012/13 (Atodiad 3 i’r adroddiad).

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.

 

 

Dogfennau ategol: