Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRAWSNEWID ADDYSG ÔL 16

Derbyn adroddiad gan y Cydlynydd Addysg 14 - 19 (copi’n amgaeëdig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried effeithiolrwydd cyflenwi addysg ôl 16 yn y Sir a’r costau cysylltiedig.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Rhwydwaith 14-19 (14 -19 NC) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Pwyllgor  ystyried effeithiolrwydd  darpariaeth addysg ôl 16 yn y Sir a’r costau cysylltiedig. Dyma oedd y diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau ers 2009 ac roedd yn arddangos bod y cynllun trawsnewid yn gweithio’n dda trwy roi addysg ôl 16 mewn fformat gwahanol, a ddechreuwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru.  

 

Roedd y bartneriaeth yn gweithio mewn tair ardal ddaearyddol:-

(a)               Dyffryn Clwyd

(b)               Rhyl/Prestatyn a

(c)               Dyffryn Dyfrdwy

 

Roedd cyfradd gyfranogi'r disgyblion sy’n parhau yn y Chweched Dosbarth neu’n mynd i Goleg Addysg Bellach yn Sir Ddinbych wedi codi i 89.9%, sef ail agos iawn i Sir Fynwy.  Yn ardal Dyffryn Clwyd, roedd cyfradd gyfranogi'r disgyblion sy’n parhau yn y Chweched Dosbarth wedi codi i 63.2% yn 2011.

 

Roedd dadansoddiad wedi’i gynnal o’r myfyrwyr a oedd yn mynychu eu hysgolion “cartref” a hefyd rhai a oedd yn teithio i ysgolion partner.  Roedd wedi dangos bod y myfyrwyr a oedd yn teithio i ysgolion partner yn ennill ar gyfartaledd un chwarter gradd yn uwch na’r myfyrwyr a oedd wedi aros yn eu hysgol “cartref”. Prif reswm y myfyrwyr hyn dros symud ysgol oedd cael mynediad at gyrsiau ychwanegol neu mwy o amrywiaeth o ran cyfuno pynciau. Yn nhermau cost, roedd system o drosglwyddiadau ariannol yn digwydd yn ganolog gyda phob ysgol yn derbyn incwm i bob myfyriwr yn seiliedig ar faint y dysgu a nifer y pynciau a oedd yn cael eu hastudio.   Mae’r system yn gadael i ysgolion gadw 20% o’r arian a delir i’w cyllidebau craidd i’r ddarpariaeth ôl 16.  Roedd costau cludiant ysgol a choleg yn broblem botensial gan nad oedd dim cyfle o fewn y gyllideb bresennol i ariannu codiadau yng nghostau cludiant. Risg potensial arall i ddarpariaeth addysg ôl 16 yn y dyfodol oedd adolygiad cenedlaethol y Gweinidog Addysg a Sgiliau o’r System Gyllido.

 

Mewn ymateb i faterion amrywiol a godwyd gan Aelodau, ymatebodd y 14 -19 NC fel a ganlyn:

 

Ø      i ymchwilio a oedd bobl ifanc gydag anableddau neu Syndrom Asperger dan anfantais yn y system. Roedd yr ymateb i’w anfon ymlaen i’r Cydlynydd Craffu. 

Ø      i drafod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y gost o gludiant myfyrwyr i'r Chweched Dosbarth a cholegau, ac a fyddai’n ymarferol cyflwyno polisi taliadau i fyfyrwyr ôl-16. 

Ø      cadarnhaodd bod cyllid ar gael hyd haf 2014 o’r gyllideb addysg 14-19 i dalu costau cludiant, ond roedd y Gweinidog hyd yma ond wedi gwarantu cyllid grant hyd at fis Mawrth 31, 2014. 

Ø      bod llwybrau dysgu 14-19 yn llwyddiant digamsyniol ar draws Cymru.   Roedd safonau a chyfranogiad myfyrwyr wedi codi ac roedd mwy a mwy o bobl ifanc yn ennill cymwysterau sgiliau. Roedd posibilrwydd y byddai’r Llywodraeth yn parhau i ariannu ar ôl 2014 ond o bosibl ddim ar ffurf grant yn benodol i’r ddarpariaeth hon; byddai’n fwy tebygol o ffurfio rhan o Grant Cefnogi Refeniw'r Cyngor (RSG) ac felly ni fyddai’n rhaid ei gylch-ffensio. 

 

Trafodwyd taliadau cludiant ymhellach, ac awgrymwyd pe byddai myfyrwyr yn talu am gludiant y byddai’n rhaid cynnal prawf modd. Roedd hyn oherwydd yr effaith fyddai taliadau cludiant yn ei gael ar gyllideb teuluoedd ar incwm isel.

 

Soniodd 14-19 NC hefyd am bartneriaethau ysgol/coleg pellach i’r dyfodol a oedd yn cael eu trafod ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal yn fuan gyda Chyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam gyda golwg ar weithio partneriaeth yn ardal Dyffryn Dyfrdwy.  

 

Gan fod llawer o’r sir yn wledig ei natur, roedd Aelodau’n teimlo bod dyletswydd yn dal i fod ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau addysg i bobl ifanc. Awgrym pellach oedd newid amseroedd bysiau mewn ardaloedd gwledig i hwyluso plant a oedd yn teithio i ysgolion a cholegau.

 

Penderfynwyd  - yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn derbyn y deilliannau hyd yn hyn, costau, buddion, gwerth am arian a risgiau’r Partneriaethau Trawsnewid yn Addysg Ȏl-16 yn Sir Ddinbych. 

 

 

Dogfennau ategol: