Eitem ar yr agenda
NEWIDIADAU I’R RHAGLEN CEFNOGI POBL
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd R.L. Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) yn
manylu’r datblygiadau diweddaraf yn y trefniadau arfaethedig ar gyfer Rhaglen
Cefnogi Pobl a gofyn i’r Cabinet gytuno ar gynrychiolaeth Aelod Arweiniol ar y
Cyd-bwyllgor Rhanbarthol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Feeley yr
adroddiad a oedd yn amlinellu datblygiadau diweddar yn y trefniadau arfaethedig
i’r Rhaglen Cefnogi Pobl (SPP) ac yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i gynrychiolaeth yr Aelod Arweiniol ar y Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol.
Darparwyd
crynodeb o’r newidiadau allweddol i weinyddiad yr SPP a oedd yn digwydd ledled
Cymru. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys
symud tuag at fformiwla ddosbarthu arian newydd a throsglwyddo cyfrifoldebau
contractio rhai gwasanaethau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Roedd
trefniadau llywodraethu newydd, gan gynnwys Pwyllgorau Cydweithredol
Rhanbarthol (RCC) gyda chyfrifoldebau allweddol am yr SPP, yn cael eu sefydlu
ledled Cymru ar hyn o bryd.
Esboniwyd
bod yr SPP yn rhaglen arwyddocaol a oedd yn darparu gwasanaethau cymorth “cysylltiedig â thai” i
ystod eang o grwpiau sy’n agored i niwed. Nod y rhaglen oedd eu galluogi i
fanteisio ar sicrwydd tŷ wrth ddatblygu agweddau eraill o’u bywydau gan
hyrwyddo annibyniaeth. Roedd y Rhaglen
wedi’i gwerthuso ar lefel cenedlaethol gan ddangos ei bod yn arwain at fuddion
ariannol ac anariannol cadarnhaol iawn. Yn 2011/12, derbyniodd Sir Ddinbych
£6.9m o arian trwy’r SPP a oedd yn ddigon i ariannu oddeutu 2404 uned
cefnogaeth, sef y mwyaf posibl, gan gynnwys gwasanaethau warden i henoed, ar
unrhyw adeg, ar draws ystod o anghenion ac ymyriadau.
Roedd
argymhellion allweddol adolygiad annibynnol y SPP, a gomisiynwyd gan Lywodraeth
Cymru (LlC), wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â chrynodeb o’r goblygiadau
mwyaf nodedig i Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys materion ariannu. Pwysleisiodd
yr Arweinydd a’r Cynghorydd Feeley y byddai gan y Pwyllgor Craffu rhan bwysig
i’w chwarae o ran monitro ac arolygu’r rhaglen wrth iddi ddatblygu, a chytunwyd
y dylid cynnwys hyn yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu perthnasol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles at bryderon Sir Ddinbych ynghylch datblygiad y rhaglen, yn
enwedig y cydbwysedd pŵer ar lefel rhanbarthol ac Awdurdod unigol mewn
perthynas â’r broses gwneud penderfyniadau. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
Arweinydd, mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bryder ynghylch cyfansoddiad y
Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol a’r posibilrwydd o wrthdaro rhwng y
darparwyr gwasanaeth a’r cyrff sy’n comisiynu gwasanaethau.
Hysbyswyd aelodau bod y newidiadau arfaethedig wedi bod
yn ddadleuol mewn rhai ffyrdd. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad a
thrafodaethau, roedd LlC wedi newid rhywfaint ar y canllawiau, yn enwedig
ynghylch rôl y Pwyllgorau
Cydweithredol Rhanbarthol. Roedd Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru wedi dangos
eu bod yn cefnogi’r trefniadau newydd ac roedd LlC wedi cytuno i arolygu’r
trefniadau a amlinellwyd yn y canllawiau o fewn y flwyddyn bontio. Roedd pob rhanbarth wedi cael cais i
arddangos eu “parodrwydd” i sefydlu Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol erbyn
1 Awst 2012 ac roedd Gogledd Cymru
wedi bodloni’r meini prawf a osodwyd gan LlC. Roedd Sir Ddinbych wedi derbyn
amodau a thelerau’r grant newydd a’r canllawiau newydd. Fodd bynnag, roedd rhai
pryderon yn dal i fod, ac roeddynt wedi’u cofnodi’n ffurfiol gyda LlC.
Roedd
manylion yn ymwneud â’r strwythur gweithredol newydd wedi’u cynnwys yn Atodiad
1. Roedd hyn yn cynnwys y rôl
arfaethedig i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a’r Awdurdod Lleol a oedd yn
Cydlynu, ac roedd hefyd yn amlinellu sut y rhagwelwyd y byddai rôl yr Awdurdod
Lleol unigol yn ffitio gyda’r strwythur rhanbarthol. Mae’r argymhellion a
nodwyd ym mharagraffau 3.1 a 3.2 o’r adroddiad yn adlewyrchu’r farn y dylai Sir
Ddinbych gyfranogi yn y trefniadau newydd, er gwaetha’r risgiau. Fodd bynnag, esboniwyd y byddai angen i'r
Pwyllgor Craffu gadw golwg agos ar effaith y risgiau cysylltiedig â’r
trefniadau newydd dros y 12 mis nesaf wrth i’r newidiadau mawr gael eu
cyflwyno.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd
gan y Cynghorydd J.R. Bartley ynghylch
gostyngiad yn narpariaeth y gyllideb yn effeithio ar lefelau cynnal
gwasanaethau, y goblygiadau posibl i Sir Ddinbych a’r posibilrwydd o sicrhau
Wardeniaid newydd i olynu Wardeniaid a fyddai’n ymddeol neu’n gadael eu swyddi. Esboniwyd na fyddai’r SPP
yn effeithio ar y Gwasanaeth Warden a fyddai’n destun adolygiad ei hun.
Yn
dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet:-
(a)
yn enwebu’r Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant i
fod yn gynrychiolydd aelodau etholedig
Cyngor Sir Ddinbych ar Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd
Cymru, gyda’r Cyfarwyddwr Moderneiddio a Lles yn swyddog dirprwyedig yn ei
habsenoldeb, ac yn
(b) atgyfeirio
effaith y trefniadau Cefnogi Pobl newydd ar ddarparu ac ariannu gwasanaethau
Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych, ar gyfer ystyriaeth fanwl a thrylwyr fel rhan o
Raglenni Gwaith Craffu.
Dogfennau ategol: