Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI / CARTREFI GWAG HIRDYMOR

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewis i gynyddu premiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofyn am farn y Cabinet ar gynigion i barhau â chodi premiwm ychwanegol ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor -

 

(a)       bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag yn yr hirdymor yr un fath, i leihau nifer yr achosion o drethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad (c) isod;

 

(b)       bod y premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025, a

 

(c)        bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r premiwm safonol.

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gynyddu’r lefel uchafswm ar gyfer premiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor, a diweddaru’r Cabinet ar ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer codi tâl ychwanegol ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.   Ceisiwyd safbwyntiau’r Cabinet ar y cynigion i symud ymlaen â chodi tâl ychwanegol, ac i gyflwyno argymhelliad i’r Cyngor er mwyn ceisio penderfyniad terfynol ym mis Medi.

 

Y rheswm dros y cynigion oedd cynyddu’r stoc o dai yn y sir a darparu mwy o dai ar gyfer pobl leol.   Roedd yr adroddiad yn ymwneud â phremiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor yn unig, nid oedd yn cynnwys unrhyw faterion eraill sy’n destun deddfwriaeth arall.   Roedd y Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y cynigion i gadw’r premiwm yn 50% ar gyfer Ebrill 2023, cynyddu i 100% o fis Ebrill 2024, ac i 150% o fis Ebrill 2025, gyda phremiwm uwch o 50% yn fwy na’r premiwm safonol ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn am 5 mlynedd a mwy.   Uchafswm y cynnydd a ganiateir oedd 300%.  

 

Tynnodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio sylw at y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys y cefndir a’r cyd-destun, newidiadau deddfwriaethol, adborth o’r ymarfer ymgynghori a thablau data, a’r Asesiad o Effaith ar Les.   Roedd canlyniadau’r ymgynghoriad yn dangos bod y mwyafrif o’r ymatebwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych yn teimlo bod angen cynyddu premiymau Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor; ac felly’n cefnogi’r argymhelliad.   Yn gyffredinol nid oedd perchnogion ail gartrefi a thai gwag hir dymor yn cefnogi’r cynigion.   Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Refeniw at y mesurau cynllunio a threthu eraill a gyflwynwyd gan LlC i fynd i’r afael â phroblemau tai, a byddai’r ymagwedd fesul cam yn caniatáu monitro’r sefyllfa’n ofalus.   Roedd gan y Cyngor bwerau dewisol i hepgor unrhyw bremiwm mewn achos o galedi ariannol neu amgylchiadau eithriadol. 

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a’r cynigion i fynd i’r afael â’r galw am dai yn y sir, gan annog ail-ddefnyddio eiddo a chefnogi pobl leol i aros yn eu cymunedau.  Roedd yr Asesiad o Effaith ar Les yn nodi’n glir mai nod y cynigion yw mynd i’r afael â’r galw am dai yn y sir a’r cyfle i ddefnyddio incwm o’r premiymau i fynd i’r afael â’r anghenion tai, gan gynnwys digartrefedd ac i leihau effaith ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor ar gymunedau lleol.   Cytunodd y Cabinet â’r ymagwedd fesul cam o gynyddu’r premiwm er mwyn gallu monitro effaith y cynigion ochr yn ochr â mesurau eraill i fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy.   Roedd yr eithriadau amrywiol ar gyfer y premiymau wedi’u nodi ac roedd y Cabinet yn falch o nodi’r mesurau diogelu a oedd yn eu lle ar gyfer y rhai sy’n dioddef caledi ariannol neu amgylchiadau eithriadol y gellir eu hystyried fesul achos.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â sawl agwedd o’r adroddiad, gan gynnwys sut byddai’r cynigion yn cael eu cymhwyso mewn amgylchiadau penodol, fel a ganlyn-

 

·       egluro sut yr oedd ymagwedd Sir Ddinbych yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, gyda’r mwyafrif yn ystyried adolygu’r cyfraddau presennol gyda’r nod o gynyddu premiymau yn sgil yr hyblygrwydd newydd i godi’r tâl.

·       nid oedd eiddo yn cael ei gyfrif fel un gwag hirdymor nes ei fod yn wag a heb ddodrefn am 12 mis, ac os oedd eiddo ar y farchnad agored i’w werthu neu ei osod byddai’r eithriad yn parhau am 12 mis arall, gan olygu y byddai 2 flynedd lle na fyddai angen talu’r premiwm.   Gellir ystyried unrhyw amgylchiadau penodol nad ydynt yn cyd-fynd â’r eithriadau hyn fesul achos.

·       roedd meini prawf penodol ar gyfer llety gwyliau i’w hystyried ar gyfer ardrethi busnes: roedd yn rhaid gosod yr eiddo am nifer o ddiwrnodau y flwyddyn (roedd y nifer wedi cynyddu’n ddiweddar o 70 i 140 diwrnod) a bod ar gael i’w osod am 250 diwrnod.   Os diwellir y meini prawf, roedd mwyafrif yr eiddo yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach ac felly nid oeddent yn talu treth. O ystyried y cynnydd diweddar yn nifer y diwrnodau y mae eiddo’n cael ei osod, rhagwelir y byddai mwy o eiddo yn symud yn naturiol o ardrethi busnes i dreth y cyngor ac ar yr adeg hynny gellir ystyried hepgor y premiwm mewn achosion o galedi ariannol neu amgylchiadau eithriadol.

·       manylu ar brosesau llym a gwaith yr Arolygydd Eiddo gan gynnwys ymweld ag eiddo, arolygon rhithiol, chwiliadau credyd / gwiriadau cyfleustodau, a gwaith a gynlluniwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ganfod tai gwag ac ail gartrefi sydd heb eu nodi.

·       o ran eiddo rhent dros dro, o dan denantiaeth byddai’r preswylydd yn gyfrifol am dreth y cyngor ar gyfer y cyfnod y byddant yn yr eiddo; pan fyddai’r eiddo’n wag, a bod yr eiddo heb ddodrefn, byddai gan y landlord 6 mis heb orfod talu treth y cyngor; nid oedd tai rhent yn cael eu cyfrif fel ail gartrefi.

·       ymhelaethu ar greu rôl Swyddog Prosiect i weithio gyda grwpiau dan anfantais ar draws Sir Ddinbych gan godi ymwybyddiaeth o wneud y mwyaf o incwm ac ategu at y gwaith da a wnaed yn flaenorol o ran hynny.   Byddai’r swydd dros dro wedi’i hariannu gan y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf i werthuso effeithiolrwydd cyn ystyried gwneud y swydd yn un parhaol.

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a’r wybodaeth ategol, gan gynnwys yr adborth o’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ac argymhellion y swyddog -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor -

 

(a)      bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau nifer yr achosion o drethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad (c) isod;

 

(b)      bod y premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025, a

 

(c)      bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r premiwm safonol.

 

 

Dogfennau ategol: