Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Gwyliau - cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig dros wyliau’r haf.

Cofnodion:

Derbyniodd yr Arweinydd gais gan y Cynghorydd Delyth Jones i ystyried y mater canlynol a oedd angen sylw brys-

 

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Gwyliau  -  cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig dros wyliau’r haf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Delyth Jones at y cyhoeddiad hwyr gan Lywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf a mynegodd bryder am yr effaith andwyol ar y teuluoedd â’r angen mwyaf.   Roedd wedi bod yn falch o weld cyflwyniad prydau ysgol am ddim i’r holl blant cynradd o dan gytundeb cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ac nid oedd eisiau gweld y gwaith yn cael ei amharu o ganlyniad i’r penderfyniad diweddaraf.   O ganlyniad, roedd wedi gofyn am drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru gyda’r nod o newid y penderfyniad, ac i ystyried y gost i’r Cyngor pe cymerir camau i fynd i’r afael â’r sefyllfa er mwyn cefnogi teuluoedd diamddiffyn yn Sir Ddinbych.

 

Darparodd y Cynghorydd Gill German (Aelod Arweiniol) rywfaint o gefndir i’r sefyllfa bresennol ac estyniad diweddaraf y ddarpariaeth o ran prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at hanner tymor mis Mai fel y cyhoeddwyd ym mis Mawrth.   Er ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, roedd y cronfeydd wrth gefn ar gyfer y ddarpariaeth (a fu’n dibynnu’n helaeth ar gyllid argyfwng Covid) wedi dod i ben ac roedd yr ysgolion wedi rhoi gwybod i deuluoedd ers mis Mawrth nad oedd sicrwydd y byddai estyniad arall.   Ond, roedd yn bwysig sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn derbyn cymorth yn ystod gwyliau’r haf ac fe ymhelaethodd ar y gwaith sylweddol a’r cyfoeth o fentrau sydd ar gael i gefnogi teuluoedd o ran hynny.   Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys cyfeirio teuluoedd at gefnogaeth Llywodraeth Cymru gyda chostau byw, Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl ar gyfer gweithgareddau / prydau am ddim, gwaith a wnaed gan Deuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg gyda rhestr hir o weithgareddau ar gyfer teuluoedd gan gynnwys sesiynau coginio a chynhwysion i fynd adref gyda nhw.   Roedd grwpiau cymunedol hefyd yn gweithio i lenwi’r bwlch a chefnogi teuluoedd.   Rhoddwyd sicrwydd bod llawer o waith ar y gweill i fynd i’r afael â’r sefyllfa a byddai cyfleoedd pellach yn cael eu harchwilio i sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn cael cefnogaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ar y sefyllfa ariannol, gan egluro bod y ddarpariaeth cyllid dros dro wedi’i weinyddu gan awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru.   Byddai parhau â’r cyllid dros wyliau’r haf yn costio rhwng £600,000 - £700,000 i’r Cyngor, a byddai’n golygu pwysau o £1m+ dros gyfnod o flwyddyn.   Fel Swyddog Adran 151 ni fyddai’n gallu cefnogi parhad y cyllid hwn o ystyried rhagolygon ariannol heriol y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd lwyddiannau’r cytundeb cydweithredu a chydweithrediad llwyddiannus y ddwy blaid wleidyddol yn y Senedd ac yn y Cyngor.   Roedd yn falch o glywed am y gwaith caled i dargedu teuluoedd â’r angen mwyaf a sicrhau y gallant dderbyn cefnogaeth, a darparodd sicrwydd y byddai trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar y mater yn parhau er budd y teuluoedd hynny.   Cydnabu’r Cynghorydd Delyth Jones y gwaith caled sy’n cael ei gyflawni ac o ystyried pwysigrwydd y mater roedd yn awyddus i gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru.   Nododd amgylchiadau ariannol anodd y Cyngor hefyd ond roedd yn dymuno parhau i archwilio llwybrau eraill i gefnogi’r teuluoedd hynny.   Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gwirfoddol ac yn ymwybodol bod ysgolion yn atgyfeirio at sefydliadau’r trydydd sector i gael cefnogaeth.   Gofynnodd bod y Cyngor yn anfon e-bost at holl ysgolion Sir Ddinbych cyn gwyliau’r haf yn eu hatgoffa o’r gefnogaeth sydd ar gael ac i rannu’r manylion gyda’r rhieni / gofalwyr.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Gill German bod y sgyrsiau hyn yn parhau â’r ysgolion ond cytunodd i olrhain y mater gyda’r Pennaeth Addysg gyda’r nod o sicrhau y rhennir nodyn atgoffa o’r holl gefnogaeth sydd ar gael gyda’r holl ysgolion cyn cau.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jones am godi’r mater ac am y sicrwydd a roddwyd o ran y gwaith caled sy’n cael ei wneud a’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd.