Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AIL BLEIDLAIS ARDAL GWELLA BUSNES Y RHYL

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Arweiniol Datblygu Economaidd a Busnes ynglŷn â threfniadau arfaethedig ail bleidlais ar gyfer ail gyfnod Ardal Gwella Busnes y Rhyl.

10.55 – 11.35 am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad ail bleidlais Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Rhoddodd yr adroddiad gyfle i aelodau graffu ar y cynnig ar gyfer ail dymor yr AGB. Atgoffwyd yr aelodau y sefydlwyd AGB y Rhyl ym mis Tachwedd 2018, yn dilyn pleidlais lwyddiannus gyda mandad i weithredu am uchafswm o 5 mlynedd.  Er mwyn parhau i weithredu, roedd angen set newydd o gynigion er mwyn ei roi i bleidlais. Darparodd yr AGB fath o ddemocratiaeth leol, rhoddodd y pŵer i fusnesau lleol godi arian ar y cyd i gyflawni gwelliannau cytûn i'r ardal leol. Ariannwyd yr AGB gan fusnesau lleol a gyfrannodd gyfran fechan o ardoll busnes gwerth trethiannol. Dim ond ar ôl cynnal pleidlais lwyddiannus y gellid ffurfio AGB, a dim ond ar eitemau neu wasanaethau na ddarperir gan yr awdurdod lleol y gellid defnyddio unrhyw arian ychwanegol a godwyd.  Clywodd yr aelodau bod y cynllun busnes arfaethedig ynghlwm wrth bapurau’r rhaglen fel Atodiad 1.

 

Pwysleisiwyd bod yr AGB yn annibynnol ar y Cyngor. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn fudd-ddeiliad allweddol ac roedd ganddo ddyletswydd statudol i gynnal unrhyw bleidleisiau AGB ac i gasglu a gorfodi ardollau'r AGB. Roedd yr awdurdod yn dalwr ardoll sylweddol yn ardal yr AGB ac felly roedd ganddo nifer o bleidleisiau o fewn y broses bleidleisio.

Cynrychiolwyd y Cyngor ar Fwrdd AGB y Rhyl gan Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd, Tony Ward.

 

Diolchodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd i'r Arweinydd am y trosolwg o'r adroddiad. Cyflwynodd Abigail Pilling i’r Pwyllgor, a gyflogwyd gan AGB y Rhyl fel rheolwr AGB y Rhyl, a Nadeem Ahmed - perchennog Jean Emporium yng Nghanol Tref y Rhyl a Chadeirydd Bwrdd AGB y Rhyl.

Roedd tair rhan i’r adroddiad; yn gyntaf, i archwilio'r cynigion ar gyfer ail dymor pum mlynedd ar gyfer AGB y Rhyl, yn ail i hysbysu'r aelodau am y camau sydd ynghlwm wrth drefnu a chynnal pleidlais, ac yn olaf i alluogi i'r Pwyllgor godi a gofyn unrhyw gwestiynau ynghylch yr AGB neu broses y bleidlais. 

Cyfeiriodd yr aelodau at baragraffau 4.11 a 4.12 o'r adroddiad eglurhaol, a oedd yn hysbysu'r aelodau mai rhan o rôl y Cyngor oedd penderfynu a oedd unrhyw sail i roi feto ar gynigion yr AGB. Gallai'r Cyngor roi feto ar y cynigion pe baent yn gwrthdaro ag unrhyw bolisi corfforaethol y Cyngor neu os teimlai eu bod yn gosod baich ariannol sylweddol anghymesur ar unrhyw unigolyn neu ddosbarth o unigolion. Yn y pen draw, byddai'r Cabinet yn gofyn y cwestiynau hynny ym mis Medi 2023, cyn caniatáu i'r AGB fynd yn ei flaen. Clywodd yr aelodau mai barn swyddogion oedd nad oedd y cynigion yn dod o dan y naill faes na’r llall i roi feto ar y cynigion.

 

Anerchodd Abigail Pilling y Pwyllgor gan roi trosolwg byr o'r hyn yr oedd yr AGB wedi gallu ei hwyluso a'i gyflawni hyd yma. Dywedodd fod yr AGB gwreiddiol yn nodi 4 maes gweithredu - diogel a chroesawgar, glanhau a chynnal a chadw, marchnata a chefnogaeth busnes. Un o'r prosiectau mwyaf adnabyddus oedd y Prosiect Ceidwaid Tref a oedd yn cwmpasu pob un o'r 4 maes gweithredu. Hysbysodd yr aelodau o'r rhaglen ddigwyddiadau a oedd yn manylu ar ddigwyddiadau nodweddiadol y bwriedir eu cynnal. Ochr yn ochr â'r digwyddiadau hyn, roedd rhaglen hyfforddi wedi’i drefnu i gynnig hyfforddiant mewnol ar feysydd penodol i fusnesau.  Roedd yr AGB hefyd yn rhan o rai mentrau cymunedol ac wedi datblygu nifer o bartneriaethau.  Ychwanegodd Cadeirydd y Bwrdd AGB, Nadeem Ahmed, fod y cynllun busnes newydd arfaethedig a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn adeiladu ar yr hyn a sefydlwyd yn ystod tymor 5 mlynedd cyntaf yr AGB, a'i fod yn anelu at symud ymlaen a mynd ymhellach.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r siaradwyr a'r swyddogion am y cyflwyniad. Rhoddwyd cyfle i aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau i'r Arweinydd, siaradwyr cyhoeddus a’r Swyddogion. Wrth ymateb i gwestiynau ac arsylwadau, rhoddwyd cadarnhad ar gyfer y canlynol:

  • Cysylltwyd â Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch prosiectau posibl.  Y prif gyswllt oedd mewn perthynas â chefnogi Sioe Awyr y Rhyl. Cysylltwyd â swyddogion ym Mhafiliwn y Rhyl hefyd ynghylch y Llwybr Saffari a oedd ar ddod ar gyfer yr haf, yn y gobaith y byddai ganddynt atyniad neu bwynt ffocws i ddenu ymwelwyr i'r ardal honno o'r Rhyl.
  • Nid oedd gan Gyngor Sir Ddinbych fwy na 50% o gyfanswm y pleidleisiau. Roedd nifer o reolau a oedd yn llywodraethu'r broses bleidleisio. Pennwyd y rheolau gan Reoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) ac felly wedi’u nodi yn unol â’r gyfraith. Roedd yn rhoi manylion y busnesau a oedd yn gymwys i bleidleisio a sut y mae'n rhaid cynnal y bleidlais. Wedi’i chynnwys yn y rheolau roedd gwybodaeth am sut y cafwyd canlyniad.
  • Roedd yn ofynnol i fusnesau cymwys fwrw eu pleidlais/pleidleisiau er mwyn i'r bleidlais gael ei chyfrif. Os oedd pobl yn erbyn y cynnig roedd angen iddynt gyflwyno eu pleidlais a pheidio ag anwybyddu'r papur pleidleisio nac ymatal. Eglurwyd hynny yn y ddogfennaeth atodol. Roedd ymgynghorydd wedi'i gyflogi gan Fwrdd yr AGB i gynorthwyo gyda'r gwaith o ymgysylltu â busnesau.
  • Cafodd arolwg ei ddosbarthu i fusnesau cymwys yn yr ardal, yn gofyn am sylwadau ar feysydd oedd angen cefnogaeth. Yna ffurfiwyd yr achos busnes mewn ymateb i'r arolwg. Roedd yr arolwg yn dal ar agor ac anogwyd busnesau i gwblhau'r holiadur. Roedd hyn yn sail i sut y cytunwyd ar brosiectau. Roedd nifer o feysydd wedi'u nodi a oedd yn parhau o AGB presennol y Rhyl.
  • Unwaith y byddai'r achos busnes wedi'i gwblhau, byddai rhestr fanwl a dyraniad cyllid posibl yn cael eu cyhoeddi.
  • Byddai'r achos busnes ar gael i fusnesau cyn y bleidlais.
  • Roedd y buddsoddiad posibl gydag arddangosiadau blodau yn y Rhyl yn gynnig ar gyfer y dyfodol. Roedd Bwrdd AGB y Rhyl mewn trafodaeth gyda Chyngor Tref y Rhyl. Y gobaith oedd cefnogi ac ehangu gwaith y Cyngor Tref mewn perthynas ag arddangosiadau blodau.
  • Yr AGB sy’n penderfynu ar ei flaenoriaethau ei hun. Mater i’r busnesau oedd trafod a chytuno ar y cynllun gweithredu o fewn blaenoriaethau cynllun busnes yr AGB. Roedd yn rhaid i'r AGB gyflawni pethau y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n cael ei ddarparu i'r dref gan yr awdurdod lleol. 
  • Roedd AGB y Rhyl yn llais cyfunol i fusnesau y Rhyl, gan gynnig cyfleoedd cydweithredol i bawb. 
  • Roedd yr awdurdod lleol yn un busnes a oedd â hawl i bleidleisio. Dylai busnesau gymryd rhan i sicrhau bod eu pleidlais yn cyfrannu at y canlyniad.
  • Bu 33 o achosion lle bu'n rhaid i'r Awdurdod gymryd camau gorfodi ar fusnesau i dalu'r ardoll. Cyfanswm cost y camau gorfodi oedd tua £900.
  • Roedd rheolau gorfodi'r AGB yn adlewyrchu'r rheolau a osodwyd gan adran orfodi treth y cyngor ac ardrethi busnes. Roedd eiddo busnes gwag wedi'i eithrio am dri mis ac yna byddai'n ofynnol iddynt dalu'r ardoll.
  • Cafodd pob busnes ei gynnwys yn y trafodaethau, gan gynnwys y busnesau hynny a oedd yn dod o dan y trothwy ardoll. Roedd AGB y Rhyl yn cynnwys popeth yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig. Yr amcan oedd y byddai pawb yn elwa o'r AGB gan gynnwys y busnesau bach.
  • Byddai penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet pe bai Cyngor Sir Ddinbych yn arfer ei bleidlais o blaid, yn erbyn neu'n atal rhag pleidleisio ar AGB y Rhyl.
  • Byddai'r cynllun busnes terfynol yn cael ei gyhoeddi i'r holl fudd-ddeiliaid allweddol a byddai ar gael ar wefan AGB y Rhyl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddau siaradwr cyhoeddus am ddod i'r cyfarfod ac am ateb cwestiynau'r aelodau. Diolchwyd hefyd i'r Arweinydd a'r swyddogion.

 

Ar ddiwedd trafodaeth gynhwysfawr, ar ôl ystyried yr adroddiad a’r cynllun busnes drafft, dyma’r canlyniad gan y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:

 

(i)   yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn cynnwys Cynllun Busnes drafft Ardal Gwella Busnes (AGB) 2024-2029 (Atodiad 1 i'r adroddiad);

(ii) ar yr amod nad oes unrhyw newid/newidiadau sylweddol i'r cynigion AGB presennol a fyddai'n effeithio ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar y defnydd o'r pŵer i roi feto fel y nodir yn Adran 51(2) o Reoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005, i gefnogi argymhelliad y Swyddog nad oedd unrhyw sail i'r Cyngor arfer pŵer feto mewn perthynas â'r bleidlais; a

(iii)                chefnogi’r camau a’r terfynau amser sy’n ymwneud â’r broses ail bleidlais, gan gynnwys y camau i fynd â hyn drwy broses ddemocrataidd Cyngor Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ategol: