Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2022/23

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi, a oedd yn manylu ynghylch gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd”) yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23.

10.15 – 10.55 am

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Pwyllgor. Rhoddodd yr adroddiad gyfle i'r aelodau graffu ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) a'i gynnydd wrth gyflawni’r gwaith. Cadarnhaodd fod adroddiadau chwarter 1, 2 a 3 yn cael eu cyflwyno i'r aelodau er gwybodaeth gyda chwarter 4 a'r Adroddiad Blynyddol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor i'w trafod ymhellach.

 

Diolchodd i'r Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru a'r Rheolwr Rhaglen Ddigidol am ddod i gyfarfod y Pwyllgor i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor.

 

Gwnaeth Hedd Vaughan Evans, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, gyflwyniad PowerPoint i’r aelodau. Cyflwynodd Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Ddigidol y Bwrdd, i’r Pwyllgor.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir i’r aelodau am y Bwrdd a dywedwyd wrthynt fod y Swyddfa Rhaglenni’n uniongyrchol atebol i’r Bwrdd, a oedd yn pennu cyfeiriad y gwaith ac yn gwneud unrhyw benderfyniadau angenrheidiol. Roedd BUEGC wedi bodoli ers 2016, yn gosod gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru. Clywodd yr aelodau fod y Bwrdd wedi sicrhau buddsoddiad o £240m yng Ngogledd Cymru. Gyda chyfanswm targed buddsoddi o £1biliwn dros gyfnod o 15 mlynedd, gan greu 4200 o swyddi newydd.  Tywyswyd yr aelodau drwy amcanion y Bwrdd gan gynnwys datblygu economi mwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru. Adeiladu ar gryfderau i hybu cynhyrchiant wrth fynd i’r afael â heriau hirdymor. Y gobaith oedd y byddai hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gynaliadwy a oedd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddwyd gwybodaeth i'r aelodau am rai o'r heriau yr oedd y Bwrdd wedi'u hwynebu dros y 12 mis diwethaf. Pwysleisiwyd na fu'r cynnydd mewn rhai meysydd mor gyflym ag y gobeithiwyd yn gyntaf. Cafwyd nifer o oedi gyda phrosiectau ac roedd nifer o heriau yn ymwneud â chwyddiant costau wedi effeithio ar rai prosiectau.

Mewn achosion busnes pellach, cymeradwywyd achosion amlinellol cychwynnol gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Roedd hyn yn galluogi i brosiectau gwblhau prosesau caffael a dychwelyd i'r Bwrdd am benderfyniad buddsoddi terfynol. Sef:

  • Canolfan Peirianneg Menter ac Opteg
  • Yr ychydig % sy’n weddill
  • Ynni Lleol Clyfar

 

Clywodd yr aelodau fod cyllid wedi'i gaffael gan Lywodraeth Cymru i gyflawni Cynlluniau Ynni Lleol. Roedd y tîm yn cydlynu'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau hynny.

 

Roedd arolwg cysylltedd symudol ar ansawdd cysylltedd 4G ar draws y rhanbarth wedi’i gynnal, byddai’r data a geir yn bwydo i mewn i raglen ddigidol yn y cynllun. Tywyswyd yr aelodau drwy'r uchafbwyntiau pellach y manylwyd arnynt yn y cyflwyniad.

Cytunwyd ar ailddyrannu cyllid i ailgyfeirio arian o brosiectau a dynnwyd yn ôl oherwydd newid ym mholisi isadeiledd ffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC).  Roedd hyn wedi arwain at ddyrannu £7miliwn ychwanegol i rai prosiectau aeddfed, i'w cefnogi gyda chwyddiant cysylltiedig â chostau. Yna sicrhawyd bod gweddill yr arian a oedd ar gael i'w ailddyrannu ar gael i brosiectau wneud cais amdanynt. Daeth cyfanswm o 26 o geisiadau prosiect i law, ac roedd adolygiad parhaus o'r prosiectau hynny'n cael ei gynnal.

 

Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen Ddigidol fwy o wybodaeth i’r aelodau am brosiectau’r fargen dwf o dan y ffrwd Cysylltedd Digidol. O fewn y Fargen Dwf, roedd 3 phrosiect isadeiledd a oedd i’w cyflwyno ar draws pob sir. Rhoddwyd manylion y prosiectau i'r aelodau. Y Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol oedd y prosiect cyntaf i symud ymlaen i'r cam cyflawni. Gwelwyd 12 mis llawn o ddarpariaeth gyda nifer o swyddi'n cael eu creu yn y ganolfan ac yn ehangach.

 

Diolchodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd i'r cynrychiolwyr am y cyflwyniad manwl ac am ddod i'r Pwyllgor i gyflwyno i'r aelodau ac ateb unrhyw gwestiynau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau rhoddodd y swyddogion a’r cynrychiolwyr fwy o fanylion am y canlynol:

·      Gwelwyd nifer o newidiadau ers cytuno ar y Cynllun Twf i ddechrau. Roedd y cytundeb gyda’r Llywodraeth ar Fargen Dwf Gogledd Cymru ar lefel rhaglen a phortffolio, gan ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer y prosiectau. Cynhaliwyd adolygiad ar ôl covid er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau yn y fargen dwf yn gywir ar gyfer economi Gogledd Cymru, a gefnogwyd gan ymgynghorwyr allanol. Daethpwyd i'r casgliad bod meysydd y rhaglen a nodwyd yn parhau i fod y meysydd cywir ar gyfer ymyrraeth. Bu'r prosiectau unigol yn destun craffu a her sylweddol.

·      Hyblygrwydd o fewn y fargen i dynnu'n ôl a dewis prosiectau newydd. Roedd y prosiect ym Modelwyddan wedi'i dynnu'n ôl. Roedd y cyllid a oedd wedi'i ddyrannu'n wreiddiol wedi'i neilltuo i ganiatáu ar gyfer prosiectau eraill i wneud cais am y cyllid. Roedd 26 o geisiadau prosiect wedi'u cyflwyno ar draws y rhanbarth. Y gobaith oedd y byddai prosiect yn cael ei argymell a’i gynnig yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Gan fod y Cynllun Twf yn rhaglen waith ranbarthol mae'n bosibl na fyddai'r prosiect newydd arfaethedig o fewn Sir Ddinbych.

·      Nid oedd y Cynllun Twf yn dyrannu prosiectau na chyllid i bob awdurdod. Roedd yn rhaid i bob prosiect fynd drwy broses anodd i asesu eu haddasrwydd a’u hyfywedd i’w cynnwys ym mhortffolio rhaglen y Fargen. Roedd y prosiectau’n rhanbarthol a byddent o fudd i economi Gogledd Cymru gyfan, nid dim ond yr ardal y maent wedi’i lleoli ynddi.

·      Roedd prosiect Fferm Sero Net Llysfasi wedi bod yn rhan o’r Fargen Dwf yn wreiddiol.  Fodd bynnag, roedd y prosiect hwn bellach yn cael ei adnabod fel prosiect addysgol yn hytrach na phrosiect twf economaidd bwyd-amaeth a thwristiaeth. Roedd y prosiect wedi'i dynnu'n ôl ac roedd y coleg yn ceisio gwahanol ffrydiau cyllid i ariannu'r prosiect. Deallwyd bod y prosiect yn dal i fynd yn ei flaen gyda chefnogaeth LlC 

·      Byddai adnoddau a chapasiti bob amser yn her i'r tîm rhanbarthol. Ariannwyd y tair blynedd gyntaf gan raniad o gyfraniadau awdurdodau lleol a chyfraniad sylweddol o arian Ewropeaidd. Roedd y cyllid Ewropeaidd wedi dod i ben ers hynny, gan greu bwlch. Roedd y Bwrdd wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffynonellau cyllid eraill heb ofyn am gyfraniadau ychwanegol gan y partneriaid. Roedd y ddwy lywodraeth wedi cytuno y gallai’r Bwrdd ddyrannu cyfran o gyllid y fargen dwf i gefnogi costau staffio, gyda’r nod o sicrhau ffynonellau cyllid eraill.

·      Roedd yr aelodau'n falch o nodi'r cyllid ychwanegol oedd ar gael ar gyfer prosiect Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Er bod swyddogion wedi adleisio barn yr aelodau ac yn falch y gallai'r prosiect symud ymlaen, fe wnaethant bwysleisio bod hwn yn brosiect risg uchel.

·      Roedd gan bob un o'r prosiectau gyllideb wrth gefn wedi'i chynnwys yn y cyllidebau gwreiddiol. Oherwydd graddfa'r chwyddiant costau, nodwyd efallai nad oedd rhai o'r cyllidebau hynny yn ddigonol. Yn anffodus, ni ellid bod wedi rhagweld graddfa’r chwyddiant costau. Y gobaith oedd bod costau adeiladu yn sefydlogi. Gofynnwyd i brosiectau ddod o hyd i unrhyw fylchau cyllid gan noddwyr y prosiect neu nodi unrhyw arbedion. Roedd y risg yn cael ei fonitro a'i adolygu'n gyson. 

·      Ni fyddai’r Fargen Dwf yn cael ei chyflawni gyda chyllid gan y Llywodraeth yn unig. Roedd buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a phreifat yn hanfodol ar gyfer cyflawni prosiectau. Roedd yn risg sylweddol ar lefel portffolio ehangach ac ar gyfer pob prosiect unigol. Wrth geisio buddsoddiad yn y farchnad, ymgysylltwyd yn helaeth â'r sector preifat, gyda'r bwriad o ddenu buddsoddiad preifat.

·      Roedd £35 miliwn wedi'i ddyrannu o Fargen Dwf Gogledd Cymru ar gyfer prosiect Porth Caergybi. Roedd angen y cyllid i hwyluso’r gwaith o ehangu’r porthladd, gan gynnwys adennill tir a fyddai’n diogelu gweithredoedd y porthladd yn y dyfodol. Roedd yr £20 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiect y morglawdd yn arian ychwanegol ac nid yn rhan o’r Cynllun Twf. Byddai'r cyllid yn cefnogi'r gwaith ar y morglawdd. Roedd yn fuddsoddiad ychwanegol pwysig i gefnogi’r prosiect.

·      Roedd Cydbwyllgorau Corfforedig yn bodoli ac wedi'u creu gan ddeddfwriaeth; roedd llawer o weithgarwch yn digwydd ar hyn o bryd o ran creu trefniadau llywodraethu a threfniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cydbwyllgorau.  Roedd yn cael ei arwain gan y Swyddog Monitro yng Ngwynedd. Mewn egwyddor, roedd pob awdurdod partner wedi cytuno y dylai’r Fargen Dwf gael ei llywodraethu yn y pen draw gan y Cydbwyllgorau Corfforedig.    

 

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Amgylchedd a’r Economi, a swyddogion 

Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am ddod i’r cyfarfod ac ateb cwestiynau’r aelodau.   .

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –

 

(i)   derbyn adroddiad Chwarter 4 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’i Adroddiad Blynyddol ar ei waith a’i gynnydd yn ystod 2022/23; ac

(ii) argymell i swyddogion bod nodau ac amcanion Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu cyfleu i gynghorau dinas, tref a chymuned Sir Ddinbych er mwyn iddynt allu ymgysylltu’n weithredol â’r Bwrdd a’i waith er budd cymunedau’r sir.

 

Dogfennau ategol: