Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2022 I 2023

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2022 i 2023 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2022-2023 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023 i’w gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2022 i 2023 i’r Cabinet eu hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2023.

 

Yr oedd Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad yn darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn ôl amcanion perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun Corfforaethol) a data yn ôl fframwaith rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol newydd.

 

Arweiniodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau yr aelodau drwy’r adroddiad, a oedd yn cynnwys dau atodiad.  Yr oedd yn cyflwyno Crynodeb Gweithredol (Atodiad I) yn amlygu perfformiad yn ôl amcanion a’r saith maes llywodraethu, a’r Adroddiad Diweddaru Perfformiad chwarterol rheolaidd (Atodiad II), yn ymdrin â’r cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2023 yn fframwaith rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol newydd.  Yr oedd y ddwy ddogfen hyn, wrth eu cyfuno â’r tri adroddiad diweddaru blaenorol, yn ffurfio’r Hunanasesiad ar gyfer 2022 i 2023.  Pwysleisiwyd bod adroddiadau rheolaidd yn un o ofynion monitro hanfodol y fframwaith rheoli perfformiad a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Rhoddwyd yr adroddiad ger bron Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a darparwyd trosolwg o’r materion a godwyd yn y cyfarfodydd hynny hefyd.

 

Cydnabu’r Cabinet y dogfennau cynhwysfawr a oedd â’r nod o ddarparu adlewyrchiad clir a thryloyw o berfformiad y Cyngor mewn meysydd allweddol, a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith caled yn hyn o beth.  Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cymerodd aelodau’r Cabinet y cyfle i dynnu sylw at brosiectau a mesuryddion perfformiad penodol yn eu meysydd portffolio unigol, i roi sicrwydd a rhesymeg y tu ôl i feysydd penodol a nodwyd ar gyfer eu gwella a pherfformiad yn y dyfodol.  Yr oedd y themâu’n drawsbynciol ac yn ategu ei gilydd, ac amlygwyd hyblygrwydd y trefniadau llywodraethu gyda phrosesau i fonitro darpariaeth yn effeithiol yn ôl y Cynllun Corfforaethol a nodi camau unioni ar gam cynnar.  Byddai adroddiad am y trefniadau llywodraethu a mewnbwn a chraffiad aelodau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·         amlygodd yr aelodau a swyddogion bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau diwylliant o drin pobl ag urddas a pharch ym mhob agwedd o’r Cyngor a’i waith, ac annog unigolion i godi llais a rhannu pryderon er mwyn gallu gweithredu.  Yr oedd Cod Ymddygiad a Fframwaith Moesegol ar gyfer aelodau, gyda phrosesau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau y darperid digon o hyfforddiant a chefnogaeth i fodloni’r safonau perthnasol, ac yr oedd hefyd brosesau cenedlaethol a lleol i’w gweithredu pan nad oedd y safonau wedi eu cyrraedd.  Eglurwyd rôl y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol hefyd.  Cynlluniwyd gwaith i lunio canllaw i gynghorwyr ar gyfer ymdrin ag aflonyddu, camdriniaeth a bygythion, a disgwylid yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd yn yr adroddiad chwarterol nesaf.  Cytunodd swyddogion hefyd i adolygu’r defnydd o unrhyw ymadroddion goddrychol yn y ddogfen

·         eglurwyd y fethodoleg ar gyfer meincnodi data perfformiad, a nodwyd y disgwylid nifer uwch o ddangosyddion coch ar y cam cynnar hwn, a bod gwelliannau wedi eu dangos fel cynnydd yn cael eu gwneud dros hyd bywyd y Cynllun Corfforaethol.  Yr oedd statws perfformiad Coch / Melyn / Oren / Gwyrdd yn rhoi darlun clir o berfformiad a’r meysydd yr oedd angen canolbwyntio mwy arnynt.  Yr oedd y mesurau’n adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd mewn cymunedau, a dyluniwyd y prosiectau i gael effaith gadarnhaol ar y mesurau hynny.  Yr oedd gan y Cyngor hanes blaenorol da o reoli prosiectau, a dim ond nifer fach o brosiectau ‘mewn perygl’ oedd yna fel arfer, lle’r oedd swyddogion yn hynod ymwybodol ohonynt a chamau unioni wedi eu cymryd yn gyflym

·         wrth ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Brian Jones parthed statws prosiectau’n ymwneud yn benodol â’r Rhyl, gan gynnwys datblygu ceisiadau cyllido, materion yn ymwneud â’r parth cyhoeddus, a chysylltu’r Stryd Fawr gyda’r traeth, cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a’r Economi i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf y tu allan i’r cyfarfod i’w rannu gyda Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl.  Nodwyd bod llawer o’r prosiectau hynny wedi bod yn rhan o’r cais aflwyddiannus am arian o rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro (CFfB 2).  Rhoddwyd sicrwydd bod y Cyngor yn parhau i fod yn ymroddedig i’r prosiectau a adolygwyd gan ystyried yr adborth a dderbyniwyd yn dilyn CFfB 2 yn barod ar gyfer y posibilrwydd o CFfB 3 neu ffrydiau ariannu amgen.  Byddai angen adolygu’r prosiectau eto pan fyddai manylion CFfB 3 wedi eu darparu

·         yr oedd recriwtio a chadw yn broblem a oedd yn effeithio ar rai gwasanaethau a swyddi fwy nag eraill, ac yr oedd AD wedi bod yn gweithio gyda’r bwriad o wneud y broses ymgeisio ddigidol yn haws ar gyfer gwahanol fathau o swyddi; cyflwyno graddfeydd gyrfa mewn gwasanaethau a meysydd proffesiynol sy’n anodd recriwtio iddynt, a bod yn bresennol mewn Ffeiriau Swyddi.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2022-2023 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023 i’w gymeradwyo.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: