Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)       cymeradwyo’r cynlluniau i ddarparu arian cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gwag i ddod â defnydd yn ôl i eiddo gwag, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a

 

(c)        nodi’r defnydd o arian wrth gefn y rhaglen gyfalaf i ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun cyfalaf Depo’r Gerddi Botaneg (cam 1), fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. [Gohiriwyd Adroddiad llawn Crynhoi’r Gyllideb ar gyfer 2023/24, a byddai’n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet yn y dyfodol.]

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·         rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.348 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·         amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·         rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.182 miliwn)

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo rhoi arian cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gweigion a nodi’r defnydd o arian at raid y rhaglen gyfalaf er mwyn ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun cyfalaf Depo’r Gerddi Botaneg (cam 1).

 

Arweiniodd Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y gorwariant sylweddol a ragwelid eisoes yn gynnar yn y flwyddyn ariannol a oedd angen ei fonitro’n ofalus, a siaradodd am y dewisiadau posibl oedd ar gyfer rheoli’r gorwariant a oedd wedi eu llywio i raddau helaeth gan wasanaethau a arweinir gan alw.  Amlygwyd hefyd y peryglon yn ymwneud â setliadau cyflog ar gyfer 2023/24 ac ynni a phwysau chwyddiannol eraill, a byddai’r Cabinet yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Gill German (Aelod Arweiniol Addysg) a swyddogion i gwestiynau / sylwadau’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fel a ganlyn –

 

·         yr oedd y Cyngor wedi cytuno o’r blaen ar y rhaglen o brosiectau Band B (Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru), a chymeradwywyd amlen gyllid i reoli’r rhaglen honno, gyda’r prosiectau’n cael eu cyflwyno pan oeddynt yn barod.  Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y prosiectau hynny, gyda’r bwriad o’u datblygu fel bo’n briodol.  Gall yr hinsawdd economaidd gyfredol a chynnydd mewn costau beri risg i brosiectau’r dyfodol, ond yn y sefyllfa bresennol byddai’r prosiectau yn symud yn eu blaenau fel y cynlluniwyd.  Byddai raid defnyddio’r sianeli priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw geisiadau am gyllid ychwanegol y tu hwnt i’r amlen gyllid

·         ymhelaethwyd ar y rhesymeg y tu ôl i’r gorwariant a ragwelid, yn bennaf o ganlyniad i gostau gofal cymdeithasol i blant ac oedolion a oedd yn anodd eu rhagweld ac yn wariant angenrheidiol, ynghyd â dewisiadau posibl ar gyfer rheoli’r gorwariant a monitro’r sefyllfa’n agos er mwyn cynnwys y costau hyn wrth symud ymlaen.  Ynghyd â chynnydd costau a phwysau chwyddiannol eraill, yr oedd y sefyllfa ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor yn anodd a heriol. Mae awdurdodau lleol eraill mewn sefyllfa debyg oherwydd pwysau cynyddol ar gyllidebau cynghorau

·         wrth ymateb i’r awgrym bod yr arbedion effeithlonrwydd o 1% gan ysgolion yn cael eu cymryd o gyfartaledd treigl 3 blynedd, siaradodd y Cynghorydd German am y dull partneriaeth gydag ysgolion a’r ddeialog barhaus i ganfod y ffordd orau ymlaen gyda’i gilydd mewn perthynas â hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)       cymeradwyo’r cynlluniau i ddarparu arian cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gweigion i ddod â defnydd yn ôl i eiddo gwag, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a

 

(c)        nodi’r defnydd o arian at raid y rhaglen gyfalaf i ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun cyfalaf Depo’r Gerddi Botaneg (cam 1), fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: