Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Derbyn Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm).

 

12pm – 12.30pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Aelodau.

 

Mae’n rhaid bob Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru lunio adroddiad blynyddol sy’n crynhoi eu safbwynt ar effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod a gwelliannau i’w blaenoriaethu.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau, Moderneiddio a Lles wrth yr Aelodau drwy’r Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd bod yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf ynghyd â chynnydd Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion  a Phlant.

 

Roedd y galw ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol wedi cynyddu ac roedd gweithwyr Gofal Cymdeithasol wedi gweithio’n galed iawn i fodloni anghenion eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi nad oedd y gwasanaeth gofal cymdeithasol wedi datblygu mor dda ac yr oeddynt wedi’i ddymuno, roedd hyn oherwydd heriau cenedlaethol a chyfyngiadau cyllideb. Roedd recriwtio a chadw yn parhau i fod yn anodd o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol.

 

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd Aelodau am fanylion ar sut mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ceisio recriwtio gweithwyr yn y sector.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau bod recriwtio a chadw yn un o’r heriau mwyaf y mae’r sector yn ei wynebu. Rhoddwyd manylion ar y Gweithgor Recriwtio a Chadw Gofal Cymdeithasol sydd yn cyfarfod yn rheolaidd. Roedd cynnydd yr heriau oedd yn berthnasol i recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, a’u heffaith posibl ar allu’r Cyngor i ddarpar wasanaethau i breswylwyr, ac roedd Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn amlygu’r ffocws cynyddol gan yr uwch dîm rheoli’r Awdurdod i’w faes o waith.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd bod recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol rheng flaen yn un o’r heriau mwyaf y Gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda ffactorau allanol megis cyflogau uwch yn cael eu talu gan sefydliadau cyhoeddus eraill mewn swyddi tebyg neu swyddi llai o straen o fewn y sector masnachu yn gwaethygu’r sefyllfa.  Roedd sefydliadau cenedlaethol yn gweithio ar hyn o bryd ar ddatrysiadau posibl i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal awdurdod lleol a hefyd edrych ar bosibilrwydd o ddefnyddio recriwtio dramor. Roedd swydd wag yn cael eu hysbysebu’n gyson ac roedd agweddau o’r broses recriwtio wedi eu hymlacio i’w wneud yn broses ar sail asesiad yn hytrach na phroses ar sail cyfweliad. Roedd y tîm wedi ymweld ag ysgolion a cholegau i atynnu pobl iau i mewn i’r sector.

 

Gofynnodd Aelodau os oedd unrhyw gynlluniau i gael gwasanaeth seibiant mewnol i ofalwyr.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant wrth yr Aelodau bod achos busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer gwasanaeth seibiant ac roedd yn angen a nodwyd ac wedi ymrwymo i weithredu hyn yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelodau yn teimlo nad oedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar agweddau o wasanaeth gofal cymdeithasol nad oedd yn perfformio’n dda. Hefyd gofynnodd yr Aelodau am ddata ar y nifer o bobl oedd wedi cael eu recriwtio a nifer o swyddi gwag o fewn y sector. Teimlwyd bod y wybodaeth hon yn galluogi Aelodau a’r cyhoedd i ddeall cyd-destun yr anawsterau yr oedd y sector gofal cymdeithasol yn ei wynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adroddiad a gyflwynwyd yn dilyn strwythur penodol o ran y wybodaeth oddi fewn a’r gynulleidfa yr oedd wedi ei baratoi ar ei chyfer. Roedd y ffigurau a’r nifer y bobl oedd yn cael eu recriwtio a’r nifer o swyddi gwag yn newid yn gyson.

 

Cyfeiriodd Aelodau ar y Cynllun Micro-Ddarparwyr a gofynnwyd beth oedd effaith y cynllun ar ofal a oedd yn cael ei ddarparu o fewn y gymuned.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wrth yr Aelodau bod Micro-Ddarparwyr yn helpu i ddarparu pecynnau lefel isel o ofal. Roedd 35 Micro-Ddarparwyr ar hyn o bryd o fewn Sir Ddinbych ac roedd 21 ohonynt yn darparu pecynnau gofal personol yn lleol. Ar hyn o bryd, roedd Micro-Ddarparwyr yn darparu gofal i 150 o breswylwyr.

 

Gan edrych ymlaen, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion eu bod o’r farn mai’r heriau mwyaf oedd ail-gydbwyso’r rhaglen gofal a chymorth, a darparu gwasanaethau ataliol, ymyrraeth a diogelu gydag adnoddau sy’n lleihau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu gwaith gwerthfawr parhaus ac am gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor.

 

          Yn dilyn trafodaeth fanwl, bu i’r pwyllgor:

 

Penderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod, ac ystyriaeth i’r proffil uchel a ffocws parhaus a roddwyd i bwysau recriwtio a chadw ar draws y sector gofal cymdeithasol gan y Tîm Gweithredol Corfforaethol y Cyngor ynghyd â mesurau yn cael eu gweithredu i geisio mynd i’r afael â diffyg staff, a chadarnhau bod yr adroddiad yn darparu disgrifiad eglur o berfformiad yn ystod 2022-2023.

 

Dogfennau ategol: