Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (copi ynghlwm).

 

11.30am – 12pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Aelodau.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn barod i fodloni’r gofynion statudol sydd arnynt o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a ddechreuodd ym mis Medi 2021 ac sydd ar waith tan 2025.  Roedd y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi caniatau estyniad ar y cyfnod gweithredu oherwydd yr adborth a ddaeth i law gan ysgolion.

 

Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002), sydd mewn grym ar hyn o bryd. Bydd y Ddeddf newydd yn cael ei chefnogi gan reoliadau a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r Ddeddf yn disodli’r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD). Bydd hyn yn disodli cynlluniau presennol, megis Cynlluniau Addysg Unigol, Datganiadau AAA a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau.

 

Aeth y Swyddog Cynhwysiant drwy’r adroddiad ar drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gyda’r Aelodau.

 

Mae hyfforddiant ar ddiwygiadau ADY yn parhau i gael ei ddarparu i dimau’r awdurdod lleol (ALl) pan fo angen. Mae’r ALl yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion lle bo’r angen. Yng nghyfarfodydd diweddar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mae systemau a phrosesau ysgolion wedi eu trafod, eu rhannu a’u harchwilio, a chafwyd gweithdy ar ysgrifennu Cynlluniau Datblygu Unigol.

 

Mae cyllid Cynhwysiant Ysgolion wedi’i ddirprwyo’n llawn i ysgolion fel y cytunwyd yn y fforwm cyllideb ysgolion.

 

Mae Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam bellach wedi rhoi’r system TG ranbarthol (system ADY Eclipse) ar waith sy’n eu galluogi i reoli'r prosesau ADY newydd. Mae TG Sir Ddinbych, ynghyd â chydweithwyr rhanbarthol, yn parhau i weithio ar fireinio’r system.

 

Mae’r Tîm o Amgylch yr Ysgol wedi ei sefydlu er mwyn parhau i fodloni gofynion presennol y broses Asesu Statudol a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ac atal, a nodi anghenion dysgu ychwanegol yn gywir ac yn brydlon.  Yr ydym yn parhau i weithio gydag ysgolion i lunio eu darpariaeth, gan gynnwys ymyraethau a strategaethau y maent yn eu defnyddio i gefnogi dysgwyr gydag ADY a dysgwyr heb ADY.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan yr aelodau.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd gan ysgolion adnoddau ac amseroedd digonol i gynllunio’n effeithiol i ADY a gofynnwyd a yw’r cyllid cyfredol ar gyfer trawsnewid yn cael ei weithredu.  Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant wrth yr Aelodau bod ychydig o gyllid gan Lywodraeth Cymru o ran grantiau i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu’r trawsnewid. Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd bod y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon a godwyd mewn ysgolion mewn perthynas â’r gyllideb, a dyraniad o £12 miliwn wedi’i wneud i gefnogi adnoddau a buddsoddiad £1 miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Ysgolion Arbennig i alluogi’r trawsnewid gael ei weithredu’n llwyddiannus.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd adborth gan y Penaethiaid a gyfeiriwyd at yn yr adroddiad, yn datgan bod cyllid yn cael ei amlygu i gynghorwyr lleol fel prif bryder i ysgolion yn yr ardal pryd bynnag yr oeddynt yn siarad gyda phenaethiaid lleol.

 

Gofynnodd Aelodau am eglurhad ar y system ADY Eclipse newydd a gofynnwyd a oedd y system ar gyfer athrawon i wneud diagnosis o blant gydag ADY.  Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant yr Aelodau bod y System TG Eclipse yn cael ei weithredu i gofnodi prosesau statudol a oedd yn cymryd lle. Os oedd plentyn yn mynd drwy broses o gael ei ystyried am ADY, yna byddai’r system yn cofnodi gohebiaeth a anfonwyd i rieni ac unrhyw benderfyniadau oedd yn cael eu gwneud. Nid oedd staff addysg yn gallu nag yn gymwys i roi diagnosis o gyflyrau niwroddatblygol, er enghraifft Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).  Mae’r diagnosis hyn yn cael eu cyflawni gan weithwyr meddygol cymwys.  Roedd staff addysg wedi eu hyfforddi i gefnogi’r anghenion addysg i’r disgyblion a nodwyd gydag ADY.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd athrawon yn gallu gwneud atgyfeiriad i geisio cymorth un i un ar gyfer plentyn gyda diagnosis ffurfiol.  Dywedodd y Prif Reolwr Addysg bod diagnosis plentyn ddim yn dechrau cymorth y dylai’r plentyn ei gael a bod y cymorth ar sail plentyn yn cyflwyno anghenion. Roedd gan ysgolion ddyletswydd gofalu am bob plentyn a oedd yn cynnwys cefnogi anghenion plentyn gyda diagnosis neu ddim. Roedd cyfarfodydd TaS yn cael eu cynnal yn rheolaidd o fewn yr awdurdod lleol i alluogi ysgolion drafod unrhyw bryderon roedd ganddynt i gael unrhyw gyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd bod diweddariad cyffredinol ar Drawsnewid ADY yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad mewn 12 mis.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu hadroddiad.

 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor:

 

Penderfynodd:- yr aelodau yn amodol ar yr uchod i –

 

(i)             derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf a darparwyr yn ystod y drafodaeth ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn barod i fodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), 2018, a

(ii)           Cais bod adroddiad pellach yn cael ei ddarparu i aelodau yn ystod hydref 2024 i’w ddadansoddi.

·       effeithiolrwydd o’r cyllid a darparwyr i ysgolion i fodloni gofynion y Ddeddf;

·       cynnydd a wneir mewn recriwtio a chefnogi Seicolegwyr Addysg;

·       Adborth ymarferwyr yn yr ysgol ar yr adnoddau a chefnogaeth a darparwyr i ysgolion gyda’r bwriad o fodloni gofynion ychwanegol y Ddeddf; a

·       materion recriwtio a chadw staff sy’n berthnasol i weithredu gofynion y Ddeddf.

 

Dogfennau ategol: