Eitem ar yr agenda
CWRICWLWM I GYMRU
Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am y cynnydd a wnaed mewn
perthynas â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru (copi ynghlwm).
10.45am
– 11.15am
Cofnodion:
Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf o Gwricwlwm Cymru (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Aelodau.
Mae’r adroddiad yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn
statudol i holl ddysgwyr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd hynny a ddewisodd
ddechrau ym Mlwyddyn 7, ym Medi 2022.
Hefyd, mae’r adroddiad yn cynnig gwybodaeth ar sut mae ysgolion uwchradd
a lleoliadau wedi bod yn paratoi i gychwyn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru ym
Mlynyddoedd 7 ac 8 o Fedi 2023 yn unol â’r amserlen cyflwyno cenedlaethol.
Arweiniodd y Prif Reolwr
Addysg yr Aelodau drwy drosolwg o’r adroddiad.
Ym mis Medi 2022, daeth
y Cwricwlwm i Gymru yn statudol i holl ddysgwyr o’r Meithrin i Flwyddyn 6.
Rhoddwyd y cyfle i ysgolion uwchradd i ddechrau gyda Blwyddyn 7 ym Medi
2022. Dewisodd un ysgol uwchradd yn Sir
Ddinbych dderbyn y cynnig. Bydd bob
ysgol uwchradd a lleoliad yn dechrau gyda’r Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7
ac 8 ym Medi 2023.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith cenedlaethol
gyda’r Pedwar Diben fel y weledigaeth a rennir. Mae’r fframwaith yn seiliedig
ar yr egwyddorion o ddilyniant i holl ddysgwyr ac yn gofyn i ysgolion ddylunio
eu cwricwlwm lleol eu hunain yn seiliedig ar eu dysgwyr a’r gymuned.
Roedd nifer uchel o waith wedi’i
gyflawni gan bob ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i baratoi ar gyfer y cwricwlwm
newydd. Roedd yr holl ysgolion cynradd wedi bodloni’r gofynion statudol i’w
galluogi i ddarparu cwricwlwm newydd. Roedd hyn yn bosibl oherwydd y gwaith
cydweithio ar draws pob ysgol o fewn y rhanbarth, yn rhannu arferion da ac ymgysylltu
dealltwriaeth gyffredin.
Mae gwaith cydweithio
gan ysgolion uwchradd wedi bod yn ffactor sylweddol wrth gefnogi athrawon i
ddeall y galw am gwricwlwm newydd a’r lefel o hyblygrwydd oddi fewn.
Mae Cwricwlwm Cymru yn ffocysu ar
ddysgu parhaus i blant o 3 oed a hŷn, yn caniatáu dysgwyr fod yn rhan o’u
haddysg.
Mae nifer o
agweddau o’r cwricwlwm yn cael eu hadolygu megis addysgu, dysgu a chynnydd, ac
roedd ysgolion o fewn y rhanbarth wedi bod yn eglur iawn am eu llwyddiannau hyd
yma.
Roedd 9
ysgol cynradd wedi cael eu harchwilio yn ystod y flwyddyn ysgol ac roedd llawer
yn cael eu cydnabod am ddangos gweledigaeth cryf ar gyfer y cwricwlwm, ac yn
adnabod pan fo dysgwyr yn ffynnu yn yr amgylchedd.
Dywedodd y
Prif Reolwr Addysg bod holl ysgolion o fewn y rhanbarth wedi gweithio’n galed
iawn i groesawu’r cwricwlwm newydd ac wedi parhau i ddatblygu a diffinio eu
darpariaeth cwricwlwm i fodloni anghenion holl ddysgwyr.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr
Addysg ac Aelod Arweiniol am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau.
Gofynnodd
Aelodau sut oedd yr ysgolion yn cynllunio ar gyfer trosglwyddiad o ddysgwyr o
Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 heb ddarparu unrhyw ddata.
Hysbysodd y Prif Reolwr
Addysg yr Aelodau bod ysgolion cynradd
yn defnyddio asesiadau darllen a rhifedd wedi ei bersonoli i hysbysu gallu
dysgwyr ysgolion uwchradd. Mae ysgolion cynradd wedi bod yn gweithio yn eu
clwstwr yn edrych ar ystod holistaidd ehangach o wybodaeth y gellir ei roi i
ysgolion uwchradd, megis agweddau tuag at ddysgu a lles i gynorthwyo’r
trosglwyddiad o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Cadarnhaodd yr Aelodau eu cefnogaeth lawn i’w
cwricwlwm newydd, fodd bynnag, gofynnwyd a oedd pwysau sy’n berthnasol i
weithredu’r cwricwlwm newydd yn dylanwadu athrawon i adael y proffesiwn.
Dywedodd arweinydd craidd cynradd GwE Sir Ddinbych
bod llawer iawn o waith o fewn yr Awdurdod Lleol ac o fewn ysgolion i helpu
rheoli’r newid i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, Fodd bynnag, gallai’r newidiadau
ddylanwadu rhai o athrawon i newid eu llwybrau gyrfa.
Gofynnodd Aelodau a oedd sgiliau bywyd yn cael eu
dysgu o fewn y cwricwlwm newydd.
Dywedodd Swyddogion mai bwriad y cwricwlwm oedd dysgu chwe ardal o
ddysgu gyda’r bwriad o ddysgu sgiliau academaidd, cymdeithasol a sgiliau bywyd
i bob disgybl. Roedd gan ddulliau darparu’r cwricwlwm bwyslais cryf ar ddysgu
sgiliau ieithyddol a rhifedd drwy eu defnydd o sefyllfaoedd dyddiol, dysgu mewn
ffordd addysgiadol, ddiddorol ac ymarferol drwy ddefnyddio sgiliau a dysgwyr
mewn sefyllfaoedd bob dydd. Pwysleisiodd
arweinydd craidd uwchradd GwE Sir Ddinbych bod sgiliau
rhifedd yn amlwg iawn o fewn y cwricwlwm newydd. Roedd y cwricwlwm newydd yn
edrych ar weithio o fewn cyd-destun dilys, gan roi hyblygrwydd i ysgolion i
edrych ar sgiliau byw a phrofiadau dysgu dysgwyr o fewn eu cymuned.
Gofynnodd Aelodau sut oedd athrawon yn
rhoi eu hadborth ar y cwricwlwm newydd a sut roeddynt yn teimlo ynglŷn â
phwysau y maent yn ei deimlo wrth weithredu.
Dywedodd Arweinydd craidd Uwchradd GwE wrth yr Aelodaeth bod y tîm mewn
ysgolion yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr ysgolion a staff yn yr ystafell
ddosbarth. Rhoddwyd cefnogaeth generig ar gyfer pob ysgol, fodd bynnag rhoddwyd
cefnogaeth unigryw os oedd gan ysgol anghenion penodol. Roedd y tîm yn sensitif
i’r anghenion gwahanol o ysgolion unigol.
Roedd clwstwr ysgolion yn rhagweithiol iawn wrth rannu arferion gorau a
darparu adborth i staff addysg sir a GwE gyda’r bwriad o gefnogi darpariaeth
o’r cwricwlwm a gwella buddion i ddysgwyr a dosbarthwyr.
Ychwanegodd y Prif Reolwr Addysg bod cynllun cefnogi ar
gyfer pob ysgol wedi’i deilwra i’w hanghenion.
Nid oedd y cwricwlwm newydd ar ben ei hun, roedd yn rhan o ddiwygiad
ehangach o ddarpariaeth addysg yng Nghymru, ym mis Medi 2024, byddai fframwaith
Gwella Ysgolion newydd yn cael ei gyflwyno.
Gofynnodd y Cydlynydd Craffu i’r Aelodau os oedd agweddau o addysg yr oeddynt yn teimlo bod angen ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar ddyddiad yn y dyfodol. Mynegodd yr Aelodau ddiddordeb mewn cael
adborth gan Benaethiaid ac athrawon ar eu barn ar weithredu’r cwricwlwm newydd
o fewn eu hysgolion.
Felly, ar ddiwedd trafodaeth fanwl, fe wnaeth y
Pwyllgor:
Penderfynwyd: yn amodol ar
y sylwadau a’r arsylwadau uchod –
(i)
Cael y wybodaeth ar gynnydd a wnaethpwyd hyd yma
mewn perthynas â gweithredu Cwricwlwm Cymru ar gyfer holl ddysgwyr ysgol
gynradd yn Sir Ddinbych, ynghyd ag ysgolion uwchradd sydd yn dewis ei gyflwyno
i ddysgwyr Blwyddyn 7 yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23;
(ii)
cael gwybodaeth ar sut mae ysgolion uwchradd a
lleoliadau wedi bod yn paratoi i gychwyn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru ym
Mlynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi 2023 ymlaen yn unol â’r amserlen cyflwyno
genedlaethol;
(iii)
Cais bod adroddiad arall yn manylu’r cynnydd a
wneir i gynnwys y Cwricwlwm mewn ysgolion cynradd a’i weithredu ym Mlynyddoedd
7 a 8 mewn ysgolion uwchradd, i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn hydref 2023; a
(iv)
Bod yr adroddiad a geisir yn (iii) uchod yn cynnwys
gwerthusiad o’r broses gweithredu ar draws pob cam allweddol, effaith y
Cwricwlwm ar recriwtio a chadw staff, ynghyd ag adborth gan benaethiaid,
athrawon a staff yn yr ysgol ar eu profiadau o’r broses gweithredu a manteision
a/neu anfanteision y Cwricwlwm newydd i ddysgwyr.
Dogfennau ategol: