Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU YN 2022/23
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar waith yr
Adain Drwyddedu yn ystod 2022/23.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau
yn nodi cynnwys yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd (RhBGC) adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2022/23, gan
ganolbwyntio ar faterion gweithredol a rheoli.
Roedd yr adroddiad yn darparu data
ystadegol ynghylch nifer y trwyddedau a roddwyd, cwynion a cheisiadau
gwasanaeth a dderbyniwyd yn cynnwys y prif swyddogaethau – Alcohol ac
Adloniant; Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat; Hapchwarae,
Gemau a Loteri; Masnachu ar y Stryd; Casgliadau Elusennol a Metel Sgrap, ynghyd
â gweithgareddau eraill, gan gynnwys ceisiadau gwasanaeth/rhyddid gwybodaeth,
canlyniadau cyffredinol llwyth gwaith a chyfathrebu. Roedd materion rheoli yn cynnwys cyfeiriad
at ystyriaethau llwyth gwaith yn y dyfodol, ffioedd a pholisïau. Arweiniodd y
RhBGC yr aelodau trwy’r adroddiad.
Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i drafod
gwahanol agweddau ar yr adroddiad gyda’r RhBGC, a ymatebodd i gwestiynau a sylwadau
fel a ganlyn –
·
roedd llai o
ymgeiswyr/gyrwyr yn ymddangos gerbron y pwyllgor, a oedd yn adlewyrchu pa mor
dda roedd y polisi presennol yn gweithio, gyda phwerau wedi eu dirprwyo i
swyddogion o fewn fframwaith y polisi, a materion yn cael eu dwyn gerbron
aelodau a oedd yn ymwneud â gwyro oddi wrth y polisi mewn amgylchiadau
eithriadol yn unig.
·
dros y deuddeg
mis diwethaf, cafwyd 34 cais ar gyfer gyrwyr trwyddedig newydd a gadawodd 24 o
yrwyr trwyddedig y proffesiwn, a oedd yn golygu bod 10 gyrrwr trwyddedig
ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, yn gyffredinol bu tuedd ar i
lawr o ran nifer y cerbydau a gyrwyr trwyddedig.
·
roedd hi’n
rhesymol dod i’r casgliad bod y gostyngiad yn nifer y diffygion a nodwyd mewn
cerbydau o ganlyniad i effeithiolrwydd y polisi a’r drefn brofi.
·
cytunwyd
cynnwys nifer y trwyddedau eiddo sy’n cael eu hildio mewn adroddiadau yn y
dyfodol, er mwyn nodi unrhyw dueddiadau/pwysau, er y nodwyd nad oedd pob
trwydded yn cael ei hildio pan fydd eiddo trwyddedig yn rhoi’r gorau i
weithredu.
·
roedd
casgliadau elusennol yn ymwneud â rhoi bagiau dillad trwy flychau post o ddrws
i ddrws wedi’u heithrio i raddau helaeth o ran trwyddedu, oherwydd bod gan
elusennau Eithriadau’r Swyddfa Gartref.
·
rhoddwyd
sicrwydd bod cyfathrebu rheolaidd trwy e-bost â busnesau tacsis, a oedd yn
cynnwys tynnu sylw at ddiffygion a nodwyd yn dilyn archwilio cerbydau, er mwyn
codi ymwybyddiaeth o’r materion hynny.
·
byddai
diffygion diogelwch difrifol mewn cerbydau yn arwain at atal y drwydded nes y byddai’r
gwaith gofynnol wedi’i gwblhau, ond gallai cerbydau â mân ddiffygion barhau i
weithredu gyda rhybudd bod y gwaith perthnasol yn cael ei gwblhau o fewn cyfnod
penodol o amser.
·
roedd y rhan
fwyaf o gwynion a dderbyniwyd mewn perthynas ag eiddo trwyddedig yn ymwneud â
niwsans sŵn a chan amlaf roeddent yn fater ar gyfer Rheoli Llygredd, gyda
chylch gwaith Swyddogion Trwyddedu yn canolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod yr
amodau trwyddedu’n cael eu bodloni. Fodd bynnag, roedd Swyddogion Trwyddedu a
Swyddogion Rheoli Llygredd yn cydweithio’n agos, gyda’r bwriad o ddatrys y
materion niwsans sŵn oedd yn gysylltiedig ag eiddo trwyddedig.
·
ymhelaethwyd ar
rôl a chylch gwaith y Deiliad Trwydded Bersonol a’r Goruchwyliwr Eiddo
Dynodedig o ran gweithredu eiddo trwyddedig; manylwyd ar y gwahaniaethau rhwng
Trwyddedau Masnachu ar y Stryd a gyhoeddir gan y Cyngor a Thystysgrifau
Bedleriaid a gyhoeddir gan yr Heddlu; ac fe adroddwyd ar y gofynion ar gyfer
Trwyddedau Metel Sgrap, gan gynnwys trwyddedau ar wahân i safleoedd a chasglwyr
·
dywedwyd bod
modd canfod trwyddedau tacsi a roddwyd ar wefan y Cyngor a’r gobaith oedd,
unwaith y byddai’r gwaith ar y gronfa ddata newydd wedi’i gwblhau, y byddai
gwybodaeth am bob trwydded sydd wedi’u rhoi ar gael i’r cyhoedd ei gweld.
·
er gwaethaf y
symudiad parhaus i brosesu ar-lein, roedd modd gwneud taliadau gydag arian
parod a sieciau trwy Siopau Un Alwad o hyd a gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer yr
ymgeiswyr/trwyddedai nad oedd yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
·
ni fu newid yn
nifer y Siopau Betio yn y sir dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd y
ddarpariaeth ar-lein yn cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn Gamblo.
·
rhannu’r
wybodaeth ddiweddaraf am Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar drwyddedu tacsis a
cherbydau hurio preifat, gyda dyddiad cau’r ymgynghoriad cychwynnol ar 1
Mehefin 2023, ac roedd disgwyl ymgynghoriad pellach ar y cynigion manwl yn yr
hydref.
Diolchodd y Cadeirydd a’r aelodau i’r
RhBGC am yr adroddiad llawn gwybodaeth ar gwmpas a gwaith cynhwysfawr yr Adain
Drwyddedu, ac i bawb a gyfrannodd at y broses honno.
PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau
yn nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: