Eitem ar yr agenda
YMATEB FFURFIOL I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ADOLYGIAD PENN
Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno ymateb y Cyngor i’r
ymgynghoriad i’r pwyllgor safonau.
Mae’r Pwyllgor wedi cael y
wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru –
‘Adolygiad Penn’ – a ddechreuodd yn 2021; fframwaith
sydd fwy neu lai wedi aros yr un peth ers ugain mlynedd. Byddai'r Aelodau'n cofio’r adroddiadau blaenorol yn sôn bod cam cychwynnol yr
adolygiad wedi canfod bod y fframwaith yn addas at y diben, ond y gallai fod yn
fuddiol diwygio rhai meysydd yn y dyfodol.
Cafodd y Pwyllgor Safonau
gyflwyniad yn ei gyfarfod diwethaf er mwyn i’r aelodau allu lleisio’u barn nhw
ynghylch cwestiynau'r ymgynghoriad. Ymgynghorir ag Arweinwyr y Grwpiau rhwng
llunio'r adroddiad hwn a'i gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor, gan fod amser yn
brin cyn bod yn rhaid ymateb. Byddai safbwyntiau Arweinwyr y Grwpiau yn cael eu
rhannu â'r Pwyllgor yn y cyfarfod.
Dyma’r argymhellion -
·
C1 – Cytunodd arweinwyr
y grwpiau gynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig sydd yn y cod ymddygiad.
·
C3 – Cytunodd arweinwyr
y grwpiau â’r ddarpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi Panel Dyfarnu Cymru i
sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw.
·
C4 – Cytunodd yr Aelodau
â'r newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn apelio, a fyddai'n symleiddio’r
amserlenni.
·
C5 – cytunwyd y dylai
Panel Dyfarnu Cymru gael grym penodol i wysio tystion; fodd bynnag, yr oedden
nhw’n credu y byddai'r mater yn anodd ei orfodi.
·
C6 – roedd arweinwyr y
grwpiau’n anghytuno ag unrhyw newidiadau i'r broses atgyfeirio
apeliadau. Nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n cydnabod manteision cael Panel
Dyfarnu Cymru yn cyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, yn
enwedig o ystyried y byddai’r un Pwyllgor yn adolygu’r un achos ac y byddai’n
debygol o ymestyn y broses gyffredinol i’r unigolyn sy’n apelio. Fodd bynnag,
yr oedd un aelod yn credu y gellir rhoi rhywfaint o hyblygrwydd gan fod pob
achos yn wahanol. Roedd un aelod yn credu y byddai’n werth cyfeirio'r mater yn
ôl i'r Pwyllgor Safonau i fyfyrio ar rinweddau'r rhesymau a roddwyd i ailystyried
eu penderfyniad a chadw rheolaeth a chyfrifoldeb lleol.
·
C8 - cytunodd yr aelodau
na ddylid cadw'r gofyniad i roi dim llai na saith diwrnod o rybudd o ohirio
gwrandawiad er mwyn rhoi rhagor o hyblygrwydd. Fodd bynnag, dylid rhoi rhybudd
rhesymol.
·
C9 – cytunodd arweinwyr
y grwpiau y dylai fod amrywiaeth ehangach o bwerau ar gael i’r Panel, gan fod y
rhai presennol yn rhy gyfyngol.
·
C10b – nid
oedd unrhyw sylwadau ar y broses.
·
C11 – y gred oedd, o ran
gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru a datgelu, fod y Pwyllgor yn cefnogi gofyniad
i sicrhau bod deunydd nad yw’n cael ei ddefnyddio a gedwir
gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Monitro, ar gael er
budd cyfiawnder naturiol.
·
C12 – cytunodd arweinwyr
y grwpiau bod angen codi ymwybyddiaeth o'r Fframwaith Safonau Moesegol a
gweithio gydag eraill fel sy’n briodol yn hynny o beth.
·
C13 - wrth gydnabod bod
manteision i hysbysebu am aelodau lleyg yn y papur newydd lleol, cytunwyd na
ddylai fod yn ofyniad gorfodol cyn belled â bod amrywiaeth o ddulliau eraill yn
cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol.
·
C14b – o ran y
gwaharddiad gydol oes ar gael gwared ar gyn-weithwyr y cyngor, roedden nhw’n
credu y dylid codi'r gwaharddiad; fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys cyfnod
gras o 12 mis rhwng cyflogaeth a phenodiad ar gyfer y rhan fwyaf o weithwyr a
chyfnod hirach ar gyfer yr unigolion a oedd â swyddi statudol neu swyddi â
chyfyngiadau gwleidyddol yn flaenorol.
·
C15 - cytunwyd y dylid
cael gwared ar y gwaharddiad gydol oes ar gyfer gwasanaethu fel aelod
annibynnol ar Bwyllgor Safonau'r Cyngor y cafodd cynghorydd ei ethol iddo, a
chytunodd y rhan fwyaf o'r aelodau y byddai un tymor yn gyfnod gras addas.
·
C16 – o ran pwerau
pwyllgorau Safonau i wysio tystion, yr oedd arweinwyr y grwpiau’n credu na
ddylai’r pwyllgor gael grym i wneud hyn gan y byddai’n anodd ei orfodi.
·
C17 - cytunwyd y dylid
ychwanegu at y sancsiynau y gall y Pwyllgor Safonau eu gosod, gan awgrymu y
dylid ymgymryd â phwerau i gyfarwyddo hyfforddiant yn hytrach na'r argymhelliad
presennol a chynnydd yn y cyfnod atal o hyd at flwyddyn.
Ni chafwyd unrhyw effaith ar y
Gymraeg o ran Adolygiad Penn.
Holodd y cadeirydd i’r
pwyllgor safonau a oedd ganddyn nhw ragor o sylwadau ynghylch ymatebion
arweinwyr y grwpiau i adolygiad Penn.
Soniodd yr aelodau am C14b.
Roedden nhw’n cytuno â'r sylwadau a gyflwynodd arweinwyr y grwpiau ac yr oedden
nhw eisiau iddyn nhw gael eu cynnwys yn yr ymateb. O ran C17, cytunodd yr
aelodau hefyd â'r sylwadau a gododd arweinwyr y grwpiau, a phenderfynwyd a oedd
cosb fwy a chytunwyd y byddai'n cael ei drafod ar lefel uwch.
PENDERFYNWYD bod y pwyllgor safonau'n cytuno â'r sylwadau y cafodd eu
hychwanegu gan arweinwyr y grwpiau ochr yn ochr â'u safbwyntiau cychwynnol nhw
ar Adolygiad Penn a bod ymateb yn cael ei gyflwyno.
Dogfennau ategol:
- PENN REVIEW RESSPONSE TO WG STANDARDS REPORT. JUNE 23, Eitem 11. PDF 200 KB
- Penn response Appendix 1, Eitem 11. PDF 220 KB